Mae lot o drafod wedi bod ar faint mae'r Maes wedi tyfu, os ydi hynny'n peth da neu beidio, a beth gallwn wneud i gadw'r Maes yn lle difyr gyda'r nifer o aelodau yn dal i dyfu.
Nes i chydig o faths i weithio allan <i>pa mor</i> gyflym oedd y Maes yn tyfu, a darganfod bod y gyfradd tyfiant wedi aros mwy neu lai'n gyson ers y dechrau -- a hynny wrth gyfri nifer negeseuon, nifer pynciau neu nifer aelodau. Yn syml iawn, mae'r Maes yn tyfu ar gyfradd esbonyddol o 1.2 y mis.
Felly, gan wybod hynny (a gan gymryd bod y twf yn aros yn gyson, sy ddim yn anochel) nes i edrych i'r dyfodol i weld faint o anghenfil gallai Maes-E fod...
(Nic -- paid darllen ymhellach. Gei di drawiad )
Ebrill 2005 -- 1,000,000 o negeseuon
Rhagfyr 2005 -- 10,000 o aelodau
Ionawr 2006 -- 10,000,000 o negeseuon
Ac, yn bwysicach oll, erbyn Dydd Gwyl Dewi 2008 bydd <i>pawb yng Nghymru sy'n siarad Cymraeg</i> yn aelod o Faes-E. *
* Gan gymryd bod y niferoedd yn aros yn wastad tan hynny.
** Gyda llaw, nid yw hyn yn esgus dros bostio mwy o rwtsh na chreu cyfrifon ychwanegol er mwyn cyrraedd y nod!