Barbarella a ddywedodd: Felly gei di marcio'r neges yma'n ddiwerth heb boeni os ydw i'n mynd i droi fyny ar noson dywyll i dorri dy goesau
Poeni am gael mewn i'r gig Abri nesa oeddwn i.
Mae gen i un cwestiwn/syniad arall, a dw i wir yn ymddiheuro os ydw i'n bod yn boen yn awr. Oni fysai'n fwy o help llaw i ddefnyddwyr Maes-E os fyai'n bosib gweld pa negeseuon yn union sydd wedi ei marcio'n ddiwerth? Er engraifft, mi ddisgynodd fy marc i'n ddiweddar, ac wedi chwilio fy rhestr o negeseuon doeddwn i ddim yn siwr pa neges yn union oedd wedi achosi'r drafferth. Efallai y buasai'n help rhag ofn i mi roi'r gorau i ddweud pethau megis 'A' tra mai pethau megis 'B' sy'n achosi'r boendod i weddill y maeswyr. Ydi hyn yn dechnegol bosib? Wn i fod gen ti lot ar dy blat, Barbarella, a dw i ddim am ollwng clamp o oen 50oz arno....