Ba da chi'n feddwl o'r drefn carma?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yd'r system carma ma'n beth:

Da; ta
14
50%
Gwael/ Di angen.
14
50%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 28

Ba da chi'n feddwl o'r drefn carma?

Postiogan Machlud Jones » Mer 23 Meh 2004 8:27 am

Dwi'm yn rhyw cin iawn ar y drefn Carma ma yn bennaf oherwydd bod modd i bobl ei gam ddefnyddio a pleidleisio yn erbyn bobl sy'n anghytuno a nhw - mae Ray Diota wedi awgrymu ei fod yn gwneud hyn. Y rheswm arall yw fod modd i gymedrolwyr gam-ddefnyddio eu pwer gan mai nhw yn unig oedd yn cael pleidleisio i ddechrau. Ydw i'n bod yn paranoid neu oes rhywun arall yn cytuno?

(Pa bynnag ffordd anelaf i wneud llai o ddefnydd o'r safle yn sgil y drefn hon)
Machlud Jones
 

Postiogan Mr Gasyth » Mer 23 Meh 2004 9:09 am

Dwi'n meddwl ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud. Rho amser i'r drefn Machlud, does nEB yn gwybod os fydd yn gweithio'n dda eto, felly stopia boeni am y oeth a jest dal ati fel arfer i gyfrannu at drafodaethau ar y maes yn ffordd mwyaf adeiladol posib.
Hyd y gwela i, dim ond pobl sydd yn dod yma i fod yn niwsans sydd ag unrhywbeth i'w ofni. Ac er gwaetha gymaint ti di lladd ar y sytem newydd, a hynny heb wbos eto sut y gnwith droi allan, dwyt ti heb awgrymu ffordd well a gadw trefn ar y maes.
Osydi Ray Diota, neu unrhywun arall (gan gynnwys y cymredolwyr) yn defnyddio'r system i gosbi pobl maent yn anghytuno a nhw, bydd hyn yn amlwg a'r camddefnyddwyr fydd yn gweld eu lefel Carma'n disgyn.
Rhag ofn dy fod heb ei darllen (dwyt ti heb ymateb iddi eniwe) gai awgrymu dy fod yn edrych ar, ac yn meddwl am neges Nic yma.
http://www.maes-e.com/viewtopic.php?t=6613&highlight=
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Ba da chi'n feddwl o'r drefn carma?

Postiogan Barbarella » Mer 23 Meh 2004 9:38 am

Machlud Jones a ddywedodd:Y rheswm arall yw fod modd i gymedrolwyr gam-ddefnyddio eu pwer gan mai nhw yn unig oedd yn cael pleidleisio i ddechrau.

Gallai cymedrolwyr camddefnyddio eu pwer i ddileu dy negeseuon. Neu golygu pob un o dy negeseuon i ddweud "Nic, ti'n idiot ffasgaidd a dwi eisiau i ti gau fy nghyfrif".

Ond dy nhw ddim yn neud. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan eusebio » Mer 23 Meh 2004 9:42 am

Dwi'n credu dy fod yn mynd o flaen gofid Machlud.
Pam ti'n ofni'r system gymaint?

Mae Ray Diota ymysg y malwyr cachu mwyaf ar y maes ac eto mae ganddo carma positif gan ei fod yn gallu malu cachu'n ddoniol ac yn ddifyr yn y lle priodol ond mae hefyd yn cyfranu'n ddifyr i drafodaethau eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Leusa » Mer 23 Meh 2004 10:26 am

machlud, dos i newid y record
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Re: Ba da chi'n feddwl o'r drefn carma?

Postiogan nicdafis » Mer 23 Meh 2004 10:44 am

Ti ddim yn trystio'r cymedrolwyr Machlud? Oes rheswm penodol dros hynny? (Ateb mewn neges sydyn os nag wyt ti am ddweud yma.)

Eto, fel mae eraill wedi dweud drosodd a throsodd, mae'r sustem carma yn cael ei <b>phrofi</b> ar hyn o bryd. Os ydyn ni'n gweld ei bod yn cael effaith negyddol ar safon y trafod ar y maes, mae'n bosib y byddwn ni'n penderfynnu peidio mynd ymlaen â hi. Ond bydd rhaid gadael i'r peth <b>setlo i lawr</b> cyn i ni wneud unrhyw penderfyniad. Bydd hyn yn cymryd sbel. Dyn ni'n dechrau gweld bod y peth yn gweithio ond na allen ni weld pa mor dda mae'n gweithio am rhyw fis neu ddau o'i defnyddio. Na fydd "pa mor boblogaidd yw'r sustem" yn ffactor mawr yn y penderfyniad hyn.

Fel mae Barbarella wedi esbonio rhywle arall, os ydy unigolion yn camdefnyddio'r sustem, bydd yn amlwg i'r sustem ei hunan, a bydd yr unigolion 'na yn colli carma am wneud. Gan fod ddefnyddwyr gyda carma negyddol yn colli'r hawl i roi'u barn ar bobl eraill, mae'n annhebyg iawn y byddai unrhyw unigolyn yn gallu wneud niwed mawr.

Gan fod hwn yw'r trydydd edefyn ti wedi dechrau ar yr un pwnc, wnei di ymateb i'r sylwadau yma yn lle dechrau un arall yfory?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Realydd » Mer 23 Meh 2004 7:32 pm

Biwrocratiaeth: ffordd dda o yrru pobl ffwrdd o'r maes.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan eusebio » Mer 23 Meh 2004 7:43 pm

Realydd a ddywedodd:Biwrocratiaeth: ffordd dda o yrru pobl ffwrdd o'r maes.


Ym mha ffordd mae o'n fiwrocratiaeth?
1) Does na'm ffurflenni i'w llenwi i fewn
2) Does dim rhaid i unrhyw un bleidleisio os nad ydynt am wneud

:?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Macsen » Mer 23 Meh 2004 10:10 pm

Er fy mod i wedi bod yn gefnogol o'r system Carma, mae gen i un cwestiwn bach sydd wedi bod ar gefn fy meddwl i ers tro. Faint o ystadegau sydd ar gael i'r gweinyddwyr? Er engraifft, dwed fy mod i'n fotio neges wedi ei ysgrifennu gan Barbarella fel un 'diwerth' (dw i heb, paid poeni :winc: ). A fysai Barbarella wedyn yn medru cymeryd sbec tu ol i'r lleni, a gweld mai fi sydd wedi ei marcio hi'n sal? Ta ydi'r gweinyddwr yn gweld faint o bledleisiau sydd wedi ei rhoi yn unig? Be dw i'n poeni ydi y gall y system yma ddilyn at lot o bwyntio bysedd, a paranoia bod pobl sydd i weld yn neis ar y wyneb yn dy bledleisio'n ddiwerth tu ol i dy gefn. A tra bod yr ystadegau ar gael, bosib bydd y gweinyddwyr yn cael ei boddi gyda negeseuon megis 'Ai Macsen sy'n fy Nghasau i? :crio: '
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Barbarella » Iau 24 Meh 2004 8:33 am

Macsen a ddywedodd:A fysai Barbarella wedyn yn medru cymeryd sbec tu ol i'r lleni, a gweld mai fi sydd wedi ei marcio hi'n sal?

Os o'n i wir eisiau, gallwn, ond mae hynny'n anochel. Er enghraifft, mae'r gweinyddwyr yn gallu gweld o ba gyfrifiadur wyt ti'n postio, ond mae angen gwneud hynny weithiau i atal cyfrifon dwbwl. Ond mae digon o bethau gan y weinyddwyr i wneud heb ddechrau snwpio ar arferion pobl trwy'r amser! Erbyn hyn mae cannoedd o bleidleisiau yn y system, ac mae'n anymarferol braidd i fynd i chwilio am bleidleisiau unigol er mwyn pwyntio bys. Felly gei di marcio'r neges yma'n ddiwerth heb boeni os ydw i'n mynd i droi fyny ar noson dywyll i dorri dy goesau :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron