Ba da chi'n feddwl o'r drefn carma?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yd'r system carma ma'n beth:

Da; ta
14
50%
Gwael/ Di angen.
14
50%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 28

Postiogan Macsen » Iau 24 Meh 2004 12:37 pm

Barbarella a ddywedodd: Felly gei di marcio'r neges yma'n ddiwerth heb boeni os ydw i'n mynd i droi fyny ar noson dywyll i dorri dy goesau :winc:


Poeni am gael mewn i'r gig Abri nesa oeddwn i. :)

Mae gen i un cwestiwn/syniad arall, a dw i wir yn ymddiheuro os ydw i'n bod yn boen yn awr. Oni fysai'n fwy o help llaw i ddefnyddwyr Maes-E os fyai'n bosib gweld pa negeseuon yn union sydd wedi ei marcio'n ddiwerth? Er engraifft, mi ddisgynodd fy marc i'n ddiweddar, ac wedi chwilio fy rhestr o negeseuon doeddwn i ddim yn siwr pa neges yn union oedd wedi achosi'r drafferth. Efallai y buasai'n help rhag ofn i mi roi'r gorau i ddweud pethau megis 'A' tra mai pethau megis 'B' sy'n achosi'r boendod i weddill y maeswyr. Ydi hyn yn dechnegol bosib? Wn i fod gen ti lot ar dy blat, Barbarella, a dw i ddim am ollwng clamp o oen 50oz arno.... :wps:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan fela mae » Iau 24 Meh 2004 1:24 pm

sut ydn ni'n gwbod faint o farciau sydd gennym ni ??
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Re: Ba da chi'n feddwl o'r drefn carma?

Postiogan Ray Diota » Iau 24 Meh 2004 2:08 pm

Machlud Jones a ddywedodd: modd i bobl ei gam ddefnyddio a pleidleisio yn erbyn bobl sy'n anghytuno a nhw - mae Ray Diota wedi awgrymu ei fod yn gwneud hyn.


Naddo! Odd dy gyfraniad gwreiddiol di:

"Ma'r system yn shit"

yn ddiwerth, dyw gweud bo rhwbeth yn 'shit' yn dda i ddim byd. Fodd bynnag, ma dy gyfraniad di'r tro hwn yn ddefnyddiol fel sy'n cael ei brofi gan nifer yr ymatebion.

Ma'n rhaid i fi ddweud mod i'n cytuno da ti i raddau. Dyw'r system ddim yn hollol deg gan ei fod yn rhoi pwer i rai dros eraill...ond dwi'n fwy na pharod i adel i bobl sy'n gwybod mwy am wefannau na fydda i fyth i neud yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod maes-e'n gweithio'n gyfleus.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Treforian » Llun 12 Gor 2004 5:46 pm

fela mae a ddywedodd:sut ydn ni'n gwbod faint o farciau sydd gennym ni ??
[Jyst tynnu sylw at hwn-Sut?]
Treforian
 

Postiogan nicdafis » Llun 12 Gor 2004 6:14 pm

Fel mae Barbarella wedi esbonio rhywle arall, tra bod y sustem yn "setlo i mewn" dim ond y cymedrolwyr sy'n gallu gweld y graddau. Fel mae Macsen wedi sylweddoli uchod, ar hyn o bryd mae'r sustem yn rhy sensitif o lawer. Unwaith mae mwy o farciau yn y sustem, a dyn ni'n hapus bod pethau'n gweithio yn iawn, bydd y marciau yn weladwy i bawb.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Treforian » Maw 13 Gor 2004 8:47 am

Diolch.
Treforian
 

Re: Ba da chi'n feddwl o'r drefn carma?

Postiogan Chris Castle » Iau 15 Gor 2004 9:00 am

Machlud Jones a ddywedodd:Ydw i'n bod yn paranoid ?


Nacwyt :!: - Does neb yn fy hoffi fi 'chwaith fyddaf i byth yn gweld fy marc Carma- :crio:
:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Nôl

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai