er gwybodaeth - erthygl ar y we Gymreig

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan nicdafis » Iau 15 Gor 2004 8:49 am

Wel, gan fod y cyntaf yn amhosib heb yr ail, mae'n wneud mwy o sens i ganolbwyntio ar annibyniaeth, siawns?

Dw i'n gwybod bod yr ymgyrch 'ma yn hawdd i ennill cefnogaeth drosto fe, felly fel propoganda mae'n gallu ymddangos yn wych. Y broblem yw nad ydy'r rhai sy'n ei gefnogi yn deall am beth maen nhw'n sôn, dydyn nhw ddim yn sylweddoli pa mor annhebyg yw hyn i ddigwydd tra bod Cymru yn rhan o'r D.U. Ac i unrhywun sydd <b>yn</b> deall beth yw'r drefn, mae'r ymgyrch jyst yn edrych yn dwp.

Fel mae dafydd yn dweud, unwaith bod Cymru yn wlad annibynnol, bydd y parth Cymreig yn dilyn bron yn awtomatig. Os wyt ti moyn enghraifft tebyg, mae llawer ohonon ni sy ddim yn lico'r ffaith bod rhaid i ni ddefnyddio stampiau Prydeinig (a llyfu pen-ôl y cwîn) bob tro dyn ni'n hala llythyr. Rhai ohonom yn ddigon eithafol i stico'r stamp ar yr amlen pen i wared i ddangos dyn ni ddim yn hapus. Mae'r ymgyrch dros .cw (gobeithio dych chi ddim dal i sôn am .cym, sy'n chwerthinllyd o annhebyg, hyd yn oed ar ôl i ni ennill ein hannibyniaeth) yn edrych i mi yn debyg i stico'r stampiau pen i wared: mae'n dangos i bobl dwyt ti ddim yn hapus gyda'r <i>status quo</i>, mae'n wneud i ti teimlo yn well am ddefnyddio'r sustem Prydeinig, ac <b>mae'n wneud ffyc ol o wahaniaeth i'r sustem ti'n defnyddio</b>.

Unwaith mae Cymru yn cyfrifol am ei swyddfa'r bost ei hun, fydd dim angen cofio sticio ein stampiau pen i wared, achos stampiau Cymreig byddan nhw. Fydd dim angen cwyno am ddiffyg parth Cymreig chwaith, jyst angen wneud y gwaith papur anghenrheidiol.

Dw i ddim yn gwybod pam mae'r ddadl 'ma mor anodd i'w deall. Dw i ddim wedi clywed unrhywun yn dadlau yn eu herbyn ond gan ddweud <b>ie, ond dyw e ddim yn <i>deg</i></b>. Dyn ni'n gwybod dyw e ddim yn deg, Hedd. Nid hwnna yw'r pwynt.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Barbarella » Iau 15 Gor 2004 9:04 am

Dwi'n dueddol o gytuno gyda Dafydd a Nic ar hyn -- dwi wastad wedi meddwl byddai'n "neis" cael parth Cymreig, ond wir yr, mae pethau gwell gyda ni neud gyda'n hamser does bosib?

Ac mae'n ymddangos i fi fod y parthau gwledydd yn mynd fwyfwy amherthnasol beth bynnag. Mewn rhwydwaith byd-eang fel y Rhygrwyd, gellid ddadlau nad oedd lot o bwynt iddyn nhw yn y lle cynta. A ddylai gwefan fel Maes-E fod yn .cym? (a chi'n gwybod fel mae'n meddwl i'n gweithio -- gallwn ni fyth cael terfyniad o'r enw .cym!) Nid i bobl Cymru mae Maes-E -- ond i siaradwyr Cymraeg, ar draws y byd -- fyddai .cym ddim yn neud synnwyr.

Mae gwefannau Cymraeg eisoes wedi manteisio ar y parthau lefel uchaf sy'n dynodi swyddogaeth (.com ar gyfer cwmniau, .org ar gyfer cymdeithasau*, ayyb). A dyma ydi dyfodol y system parthau, o be wela i -- mwy o barthau sy'n dynodi maes neu swyddogaeth y safle, yn hytrach na'i leoliad (mae gweinydd Maes-E yn America, mae un Cymdeithas yr Iaith yn Ngwlad Belg, beth bynnag!). Eisoes gwelwyd rhai newydd fel .museum sy'n weithredol -- mae http://cenedlaethol.cymru.museum yn gweithio'n iawn (er nad ydyn nhw'n hysbysbu'r ffaith).

* Nodyn hanesyddol, gyda llaw: dwi'n gwybod dylai Cymdeithas yr Iaith fod yn .org, ond ar y pryd (1995 dwi'n meddwl?) roedd hi'n eithriadol o anodd gofrestru parthau .org, ac felly dewisiwyd .com fel terfyniad oedd yn rhagori ar .org.uk!
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan dafydd » Iau 15 Gor 2004 9:40 am

Barbarella a ddywedodd:Mae gwefannau Cymraeg eisoes wedi manteisio ar y parthau lefel uchaf sy'n dynodi swyddogaeth (.com ar gyfer cwmniau, .org ar gyfer cymdeithasau*, ayyb).

Ie, ar ôl gofyn i'r cwestiwn (oni fydde hi'n neis cael parth i Gymru?) nol yn 95/96 wnes i a'r rhan fwyaf o bobl benderfynu cofrestru dewis .org/.com/.net ac yn bwrpasol anwybyddu .uk

Mae tueddiad nawr i bobl aros o fewn ei cymunedau bach ei hunain ar y rhyngrwyd (am fod y peth mor fawr falle) ond yn y dyddiau cynnar y peth mwya cyffrous oedd y natur rhyngwladol (bron fel fod gwledydd yn amherthnasol a'r diwylliant oedd yn bwysig).

Mae yna bobl sy'n cefnogi .uk yn frwd am ei fod yn dynodi eich bod yn delio gyda cwmni prydeinig, ond dyw hynny ddim yn wir chwaith gan y gall unrhyw un gofrestru .uk a fe all unrhyw un gofrestru parth yn ynysoedd y Cocos, Tuvalu neu Turkmenistan heb unrhyw gysylltiad a'r lle. Yr unig fantais (i gwmniau masnachol) yw fod hi'n bosib hawlio parth .uk am fod gennych hawlfraint ar rhyw derm ym mhrydain ond falle ddim yng ngweddill y byd.

Roedd cynllun gan un cwmni yn 97 i ail-werthu is-barthau .cc fel cyfeiriad cymreig, ond yna daeth yr heip dotcom a roedd y cwmni oedd yn rhedeg .cc eisiau elwa gymaint a phosib a fe gododd pris y cytundeb yn rhy uchel. Mae parthau .cc ar gael am $30 ond fase'n i ddim yn trafferthu am fod com/net/org llawer rhatach. Dyw'r defnydd o cymru.cc ddim yn arbennig o ddefnyddiol.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 15 Gor 2004 10:45 am

Pwy sy'n berchen ar hwn sgwni?

http://www.cym.ru/

WHOIS

Domain: cym.ru (Russia - 1 year)

% By submitting a query to RIPN's Whois Service
% you agree to abide by the following terms of use:
% http://www.ripn.net/about/servpol.html#3.2 (in Russian)
% http://www.ripn.net/about/en/servpol.html#3.2 (in English).

domain: CYM.RU
type: CORPORATE
descr: Domain for Dafydd Paul
admin-o: DP6-ORG-RIPN
nserver: ns.simplynames.co.uk.
nserver: ns2.simplynames.co.uk.
nserver: ns3.simplynames.co.uk.
created: 2003.12.02
state: Delegated till 2004.12.03
changed: 2003.12.02
mnt-by: SIMPNET-MNT-RIPN
source: RIPN

org: Dafydd Paul
nic-hdl: DP6-ORG-RIPN
admin-c: HM8-RIPN
bill-c: HM8-RIPN
phone: +44 01766 515152
fax-no: +44
e-mail: ru@simplynames.co.uk
changed: 2003.12.02
mnt-by: SIMPNET-MNT-RIPN
source: RIPN

person: HELEN MAHABADI
nic-hdl: HM8-RIPN
address: Simply Names Ltd
address: PO Box 129
address: Malvern, WR14 1XP, England
phone: +44 1684 893020
fax-no: +44 1684 578346
e-mail: ru@simplynames.co.uk
changed: 2001.03.23
mnt-by: SIMPNET-MNT-RIPN
source: RIPN

Last updated on 2004.07.15 14:31:04 MSK/MSD


Bydde modd iddo werthu domain trydydd lefel ymlaen? :?

http://www.safle.cym.ru

fel mae http://www.wales.com/ yn ei wneud!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Barbarella » Iau 15 Gor 2004 11:02 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Pwy sy'n berchen ar hwn sgwni?

Errr, Dafydd Paul. Mae'n dweud hynny'n eitha eglur... :-?

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Bydde modd iddo werthu domain trydydd lefel ymlaen? :?

Byddai, petai e eisiau ac yn gwybod sut.

Ond mae hynny'n methu'r pwynt braidd -- beth yn union yw diben cael cyfeiriad fel maes-e.cym.ru? Mae'n hirach, anoddach dweud, anoddach teipio, ddim yn ychwanegu dim at ein ddealltwriaeth o beth i ddisgwyl ar Faes-E, ac mae modd i'r cyfeiriad diflannu dros nos os yw perchennog .cym.ru yn teimlo fel diffodd ei wasanaeth a ffwcio'i gwsmeriaid.

Beth yn union yw'r manteision fan hyn? Ar wahan i 'chydig o chwifio-fflag di-bwrpas?
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 15 Gor 2004 11:16 am

chwifio-fflag di-bwrpas


Dyna'n union yw'r pwrpas :lol:

Fi'n gwbod braidd yn pathetig, ond ma gwisgo crys peldroed neu rygbi Cymru bach yn drist hefyd - ond fi'n ei wneud e :wps:

* Ynglyn a'r cwestiwn pwy sy'n berchen ar http://www.cym.ru - on i jest yn meddwl a oedd cysylltiad rhwng y bachan 'ma a'r 'dafydd' sydd wedi ymateb uchod! Ond ma sawl Dafydd yn y byd ma weden i :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan dafydd » Iau 15 Gor 2004 11:21 am

Gyda llaw roedd gan perchnogion wales.com, wales.net a cymru.org gyfle euraidd i wneud busnes o werthu is-barthau Cymreig o 1997 ymlaen yn union fel mae uk.com wedi creu busnes llwyddiannus iawn. Ond daeth dim llawer ohono - doedd perchennog cymru.com ddim am werthu a roedd cymru.net yn cael ei ddefnyddio gan fusnes arall (nawr yn berchen i NTL). Fe aeth y perchennog gwreiddiol (Rhys Jones) mlaen i bethau gwell a mwy llewyrchus felly mae'n siwr nad oedd e'n poeni :)

Dwi ddim yn gwybod pa mor llwyddiannus mae nhw ond mae cym.ro yn dal i fynd..

Mae'r busnes gwerthu gwasanaethau o fewn is-barthau (heblaw y rhai lefel uchaf) tebyg iawn i'r un gwerthu dwr potel - sgam dda i greu busnes allan o ddim byd a chael pobl i dalu arian er mwyn ymddangos yn trendi.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Barbarella » Iau 15 Gor 2004 11:21 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:ma gwisgo crys peldroed neu rygbi Cymru bach yn drist hefyd

Wel nai gytuno efo ti am hwnna! ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 15 Gor 2004 12:15 pm

Un arall o ddiddordeb yma

http://www.wel.sh

felly mae

http://www.wel.sh
http://www.cym.ru
http://www.cym.ro

http://www.wal.es a http://www.cymra.es yn amhosib oherwydd rheolau tyn Sbaen (chwarae teg iddyn nhw!)

Ond fel ma Barbs yn dweud, does dim llawer o bwynt i'r rhein!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan nicdafis » Sad 17 Gor 2004 12:20 pm

Newydd ddod ar draws y <a href="http://www.mezzoblue.com/archives/2004/06/12/cira_ca_doma/comments/">trafodaeth hwn</a> ynglŷ â defnydd o'r parth <b>.ca</b> (sef, Canada). Yn ôl y sôn, mae'r corff sy'n rheoli defnydd o'r parth wedi penderfynnu yn sydyn i orfodi'r rheol sy'n dweud bod rhaid i ti fyw yng Nghanada i gofrestru URL rhywbeth.ca - a rhoddon nhw 5 diwrnod o rybudd i we-feistri i symud eu gwefannau neu eu colli. Mae rhai pobl (a gollodd y rhybudd) wedi colli eu gwefannau. Maen nhw wedi diflannu.

*pwff*

Am wn i, mae'r rhan fwya o'r gwledydd sydd â pharth lefel uchaf yn gallu wneud yr un peth. Mae rhai (fel .cc, .tk ayb) yn dewis eu gwerthu ar y farchnad agored* ac mae rhai yn fwy llym â'r rheolau preswylio.

Mewn sefyllfa debyg yng Nghymru, 'sai'r fath sefyllfa yn bosib, dw i ddim yn siwr y fyddwn i'n rhoi bodolaeth maes-e yn nwylo rhyw fiwrocrat yng Nghaerdydd, a fod yn onest.



* ar hyn o bryd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nôl

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron