Wel, gan fod y cyntaf yn amhosib heb yr ail, mae'n wneud mwy o sens i ganolbwyntio ar annibyniaeth, siawns?
Dw i'n gwybod bod yr ymgyrch 'ma yn hawdd i ennill cefnogaeth drosto fe, felly fel propoganda mae'n gallu ymddangos yn wych. Y broblem yw nad ydy'r rhai sy'n ei gefnogi yn deall am beth maen nhw'n sôn, dydyn nhw ddim yn sylweddoli pa mor annhebyg yw hyn i ddigwydd tra bod Cymru yn rhan o'r D.U. Ac i unrhywun sydd <b>yn</b> deall beth yw'r drefn, mae'r ymgyrch jyst yn edrych yn dwp.
Fel mae dafydd yn dweud, unwaith bod Cymru yn wlad annibynnol, bydd y parth Cymreig yn dilyn bron yn awtomatig. Os wyt ti moyn enghraifft tebyg, mae llawer ohonon ni sy ddim yn lico'r ffaith bod rhaid i ni ddefnyddio stampiau Prydeinig (a llyfu pen-ôl y cwîn) bob tro dyn ni'n hala llythyr. Rhai ohonom yn ddigon eithafol i stico'r stamp ar yr amlen pen i wared i ddangos dyn ni ddim yn hapus. Mae'r ymgyrch dros .cw (gobeithio dych chi ddim dal i sôn am .cym, sy'n chwerthinllyd o annhebyg, hyd yn oed ar ôl i ni ennill ein hannibyniaeth) yn edrych i mi yn debyg i stico'r stampiau pen i wared: mae'n dangos i bobl dwyt ti ddim yn hapus gyda'r <i>status quo</i>, mae'n wneud i ti teimlo yn well am ddefnyddio'r sustem Prydeinig, ac <b>mae'n wneud ffyc ol o wahaniaeth i'r sustem ti'n defnyddio</b>.
Unwaith mae Cymru yn cyfrifol am ei swyddfa'r bost ei hun, fydd dim angen cofio sticio ein stampiau pen i wared, achos stampiau Cymreig byddan nhw. Fydd dim angen cwyno am ddiffyg parth Cymreig chwaith, jyst angen wneud y gwaith papur anghenrheidiol.
Dw i ddim yn gwybod pam mae'r ddadl 'ma mor anodd i'w deall. Dw i ddim wedi clywed unrhywun yn dadlau yn eu herbyn ond gan ddweud <b>ie, ond dyw e ddim yn <i>deg</i></b>. Dyn ni'n gwybod dyw e ddim yn deg, Hedd. Nid hwnna yw'r pwynt.