er gwybodaeth - erthygl ar y we Gymreig

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

er gwybodaeth - erthygl ar y we Gymreig

Postiogan Sion Jobbins » Mer 14 Gor 2004 6:35 pm

Sori i fod yn fyfiol, ond er gwybodaeth, mae erthygl ar y we Gymreig / Gymraeg yn y rhifyn cyfredol o Cambria. Son am maes-e etc.

Mae'r Catalanwyr wedi rhoi ymgyrch gref at ei gilydd er mwyn cael domain name - oes son am ymgyrch arall ar gyfer .cym?

http://www.cambriamagazine.com

Sion
Cymraeg yw Iaith y Ddinas
Sion Jobbins
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Gwe 16 Ebr 2004 3:36 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: er gwybodaeth - erthygl ar y we Gymreig

Postiogan dafydd » Mer 14 Gor 2004 7:13 pm

Sion Jobbins a ddywedodd:Mae'r Catalanwyr wedi rhoi ymgyrch gref at ei gilydd er mwyn cael domain name - oes son am ymgyrch arall ar gyfer .cym?

Iesu Grist o'r nef, mae yna bethau pwysicach (a mwy realistig) mewn bywyd. Mae hyn yn enghraifft dda o obsesiynau y dosbarth gwleidyddol yng Nghymru - mae'n bosib cymharu 'ymgyrch' am parth rhyngrwyd i Gymru gyda'r ymdrech i gael adeilad drudfawr i'r Cynulliad - poeni am y pethau gweledol di-bwynt yn hytrach na ymdrechu dros lwyddiant democratiaeth yng Nghymru. Mae yna gamau fwy sylfaenol i'w cymryd cyn fod hynny yn digwydd go iawn..
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Dilwyn Roberts-Young » Mer 14 Gor 2004 7:27 pm

Yda chi'n cofio'r ymgyrch yma?
http://www.geocities.com/ymgyrch2001
Teimlwn fod datganoli yng Nghymru yn gyfle perffaith i geisio sefydlu endid unigryw i Gymru ar y we fyd eang.
Hwyl
Dilwyn
Out with the truckers and the kickers and the cowboy angels,
And a good saloon in every single town.
Rhithffurf defnyddiwr
Dilwyn Roberts-Young
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 401
Ymunwyd: Mer 04 Chw 2004 3:53 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan nicdafis » Mer 14 Gor 2004 7:47 pm

Sbwci. Dw i newydd glywed am yr erthygl hon gan ffrind. Wna i edrych arno yn siop Awen Teifi fory.

Ac, ie, yn ôl y sôn, mae "ymgyrch dros .cym" ar ailgyfodi. Fel dwedais i wrth Hedd ddiwrnod o'r blaen mae hyn yn achos clasurol o roi'r gambo cyn y ceffyl, ond dw i wedi wastraffu gormod o amser ar hyn yn barod.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 14 Gor 2004 9:13 pm

Ymgyrch teiliwng, yn sicr OND onid domain name Ynysoedd y Cayman ydyw .cym?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Daffyd » Mer 14 Gor 2004 9:30 pm

I be? Di hyd yn oed y Saeson ddim wedi trio cael .eng, gan fod nhw yn fwy patriotic tuag at lloegr wan nac The Good Old Britain
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Postiogan dafydd » Mer 14 Gor 2004 9:38 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ymgyrch teiliwng, yn sicr OND onid domain name Ynysoedd y Cayman ydyw .cym?

Does dim unrhyw domain o .cym (mae pob parth gwlad yn ddau lythyren). CYM yw'r côd ISO 3166-1 am Ynysoedd y Cayman. Does gen i ddim llawer o ffydd mewn 'ymgyrch' sydd ddim yn deall safonau technegol gweddol sylfaenol y rhyngrwyd.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 14 Gor 2004 10:13 pm

dafydd a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ymgyrch teiliwng, yn sicr OND onid domain name Ynysoedd y Cayman ydyw .cym?

Does dim unrhyw domain o .cym (mae pob parth gwlad yn ddau lythyren). CYM yw'r côd ISO 3166-1 am Ynysoedd y Cayman. Does gen i ddim llawer o ffydd mewn 'ymgyrch' sydd ddim yn deall safonau technegol gweddol sylfaenol y rhyngrwyd.


Ti'n anghywir yma Dafydd. Mae .cym yn eiddo i Trust Fund o ynysoedd y Cayman, ond dydy hi ddim yn weithredol. Mae ICANN ei hyn wedi cadarnhau hyn. Oes, mae rhaid i Parth gwlad fod yn ddwy lythyren, a dim ond gwledydd sydd wedi rhestru yn ISO 3166-1 sy'n cael eu derbyn heddiw, ond mae yna nifer o eithriadau wedi bod yn y gorffenol megis Guernsey, Jersey a'r Isle of Man. Mae'n werth nodi hefyd ymgyrch Catalonia .cat (ond nid Parth gwlad fydd hon - http://www.puntcat.org/

Paid poeni Dafydd. Cafodd yr hen ymgyrch ei sefydlu flynyddoedd maeth yn ôl, gyda criw bach o ffindie yn y coleg, a dyw'r wybodaeth ar yr hen wefan ddim yn gywir. Mae llawer mwy o ymchwil wedi mynd i mewn i'r ymgyrch newydd, a ni fydd dim yn mynd yn gyhoeddus nes i'r ymchwil gal ei siecio gan bobl sy'n 'deall safonau technegol gweddol sylfaenol y rhyngrwyd'

Mae hyn yn enghraifft dda o obsesiynau y dosbarth gwleidyddol yng Nghymru - mae'n bosib cymharu 'ymgyrch' am parth rhyngrwyd i Gymru gyda'r ymdrech i gael adeilad drudfawr i'r Cynulliad - poeni am y pethau gweledol di-bwynt yn hytrach na ymdrechu dros lwyddiant democratiaeth yng Nghymru.


Rhaid i mi anghytuno'n llwyr gyda dy ddadansoddiad di yma. Mae pethau gweledol yn hollbwysig! Mae yn codi hyder a phroffil.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan dafydd » Mer 14 Gor 2004 11:07 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ti'n anghywir yma Dafydd. Mae .cym yn eiddo i Trust Fund o ynysoedd y Cayman, ond dydy hi ddim yn weithredol.

"Eiddo"? Sdim un parth yn eiddo i neb. ICANN sydd yn dewis i'w ddirprwyo i pa bynnag gorff. .ky yw'r parth sy'n cael ei redeg gan trust fund yn y Cayman. Hoffwn weld unrhyw ddogfennau sy'n dweud fod ICANN wedi dirprwyo neu wedi 'addo' .cym i'r Cayman (ac os nad yw'n weithredol dyw'n cyfri am ddim).

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Oes, mae rhaid i Parth gwlad fod yn ddwy lythyren, a dim ond gwledydd sydd wedi rhestru yn ISO 3166-1 sy'n cael eu derbyn heddiw, ond mae yna nifer o eithriadau wedi bod yn y gorffenol megis Guernsey, Jersey a'r Isle of Man.

Ie ond wyt ti'n deall pam? Am fod yr ynysoedd hynny ar wahan i dir mawr Prydain gyda llywodraethau ei hunain o dan Frenhiniaeth Lloegr. Dyna gyd sydd angen gwneud yw perswadio'r llywodraeth fod Cymru, Lloegr a'r Alban yn wledydd unigol (hyd yn oed os nad ydi nhw'n wleidyddol annibynnol) a felly angen cael ei gwahanu o fewn safonau ISO.

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Rhaid i mi anghytuno'n llwyr gyda dy ddadansoddiad di yma. Mae pethau gweledol yn hollbwysig! Mae yn codi hyder a phroffil.

O ie, fasen i'n teimlo llawer mwy hyderus ynglyn a fy nghymreictod wrth weld y terfyniad chwerthinllyd .cym ar wefan yn lle com/org/net. Dwi'n gallu rhagweld jocs y saeson nawr...

Mae ymwybyddiaeth y Gymraeg a Cymru ar y rhyngrwyd ac yn y maes TG wedi cynyddu yn sylweddol iawn ers y 90au cynnar drwy waith caled ac ymroddiad rhai pobl heb unrhyw broblem o ddiffyg parth Cymreig. Mi fyddai'n 'neis' cael parth i Gymru ond mi fyddai'n 'neis' cael hunan-lywodraeth lawn hefyd - mae'r cyntaf yn garantid o ddilyn yr ail.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 15 Gor 2004 8:24 am

Mi fyddai'n 'neis' cael parth i Gymru ond mi fyddai'n 'neis' cael hunan-lywodraeth lawn hefyd - mae'r cyntaf yn garantid o ddilyn yr ail.


Dau ymgyrch fyddwn i'n cefnogi :D ! Pa un cawn ni gyntaf?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron