Newyddion BBC Cymru / Sgyrsio / defnyddiwr@maes-e.com

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Newyddion BBC Cymru / Sgyrsio / defnyddiwr@maes-e.com

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 30 Awst 2004 1:06 am

Dwi'n ffeindio fy hunan yn dod i Maes-e yn aml! Fi wedi gweld ar wefanau eraill prif fwletinau BBC Cymru'r Byd yn ymddangos fel lincs. Byddai modd rhoi rhein ar Faes-e?

Fi hefyd ddim yn siwr am y linc at y Stafell sgyrsio Gymraeg. Mae'r mwyafrif o ddolenni yno ddim yn gweithio. Os gwneud hi, gwneud hi'n iawn. Oes modd ymgorfforu darn sgwrsio i mewn i Faes-e?

Yn olaf, a dwi wedi sôn am hyn o'r blaen, byddai modd sefydlu sustem ebost fel rhan o Faes-e? Mae'n ymddangos fel bod y dechnoleg yno'n barod. Byddai modd rhoi cyfeiriad @maes-e.com am ddim i'r holl aelodau, a bod modd acsesio'r wybodaeth yma trwy'r sustem negeseuon preifat. H.y fyswn i yn hedd_gwynfor@maes-e.com yn awtomatig?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr

Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Newyddion BBC Cymru / Sgyrsio / defnyddiwr@maes-e.com

Postiogan nicdafis » Llun 30 Awst 2004 10:03 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi'n ffeindio fy hunan yn dod i Maes-e yn aml! Fi wedi gweld ar wefanau eraill prif fwletinau BBC Cymru'r Byd yn ymddangos fel lincs. Byddai modd rhoi rhein ar Faes-e?

Mae'n ddigon bosibl, dim ond mater o ffeindio lle ar y dudalen ffrynt byddai fe, ond i fod yn onest dw i ddim am weld y maes yn troi yn "siop un stop" i'r we Gymraeg. Dyna pam dw i ddim wedi rhoi bocs chwilio Gwgl ar yr hafanddalen er enghraifft.

Mae'n ddigon bosib i unrhywun cael y ffîd RRS o'r BBC ar ei wefan ei hun, neu i sefydlu un Bloglines er enghraifft.

Fi hefyd ddim yn siwr am y linc at y Stafell sgyrsio Gymraeg. Mae'r mwyafrif o ddolenni yno ddim yn gweithio. Os gwneud hi, gwneud hi'n iawn. Oes modd ymgorfforu darn sgwrsio i mewn i Faes-e?

Oes, mae modd, ond dydy hynny ddim yn ddigon o reswm dros wneud. Mae wedi cymryd dwy flynedd i gyrraedd y pwynt lle mae rhan fwya o aelodau'r maes yn cytuno taw gwefan drafod yw hon, nid stafell sgyrsio. Dim byd yn erbyn stafelloedd sgyrsio, ond eto, does dim rhaid i faes-e fod yn bopeth i bawb. Os dydy neb yn defnyddio stafell sgyrsio Aled, falle nad oes angen i ni linco iddi hi bellach, ond dyw hynny ddim yn rheswm i ni ddechrau un fan hyn.

(Ac mae stafelloedd sgyrsio yn lot fwy drwm ar adnoddau gweinydd, felly byddai'n costu mwy. Gan fod y rhan fwya o aelodau maes-e yn ddigon hapus i mi dalu'r costau i gyd, dw i'n eitha hapus i beidio cynnig gwasanaeth fyddwn i ddim yn ei ddefnyddio ;-)

Yn olaf, a dwi wedi sôn am hyn o'r blaen, byddai modd sefydlu sustem ebost fel rhan o Faes-e? Mae'n ymddangos fel bod y dechnoleg yno'n barod. Byddai modd rhoi cyfeiriad @maes-e.com am ddim i'r holl aelodau, a bod modd acsesio'r wybodaeth yma trwy'r sustem negeseuon preifat. H.y fyswn i yn hedd_gwynfor@maes-e.com yn awtomatig?

Dw i wedi sôn amdano hefyd, ac mae'n ddigon bosib i unrhywun sy eisiau cyfeiriad ebost maes-e cael un. I gyd sy angen yw gofyn (a falle rhoi cwpl o bunnoedd yn y bocs wrth y dwrs?). Ond yn sicr dw i ddim am sefydlu sustem lle mae pawb yn cael un yn awtomatig, hyd yn oed 'sai hynny'n bosibl. Rhy hawdd i'w abiwso. Fel mae hi, dw i'n wneud e os ydy rhywun yn gofyn, ac os ydyn nhw'n cyfrannwyr go gyson i'r maes.

Ydw i wedi sôn am y cyfundrefn rhoddion yn ddiweddar? ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan fela mae » Llun 30 Awst 2004 10:58 am

ma'n biti nad yw siop siarad aled yn cael ei ddefnyddio. Mi oedd on ca'l ei ddefnyddio yn aml iawn i gychwyn. Dwi'n cofio medri siarad hefo nifer o'm cyd maeswyr a hyd yn oed pobl nad oedd yn aelodau o'r maes yn y siop- angen ei ail hysbysebu ne rhywbeth efallai - lle mae aled ??
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian

Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron