Dim digon o aelodau/brysurdeb!

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Sul 28 Tach 2004 2:32 pm

eusebio a ddywedodd:Byddai gennyf lot fwy o barch tuag atat petaet yn creu gwefan dy hyn yn hytrach na lladd ar pawb a phopeth.

Tydw i erioed wedi honni fod gennyf ddigon o dalent cyfrifiadurol i allu creu seiat Gymraeg newydd ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, tydw i ddim yn mynd i gau fy ngheg a rhoi'r gorau iddi ac anwybyddu potensial aruthrol maes-e.com i wneud gwahaniaeth go iawn.Y caswir yw nad oes gan Gymru unigolyn digon mentrus ac uchelgeisiol sydd yn mynd i brynnu y fforwm a'i throi hi yn e.e. beibl Cymraeg, chwarel neu eisteddfod... Wrth gwrs fy mod yn mynd ymlaen ac ymlaen- FFORWM ydi hon.Dyna yw holl bwynt y peth! Mynegi barn gonest... :!:
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan Aran » Sul 28 Tach 2004 3:27 pm

Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Tydw i erioed wedi honni fod gennyf ddigon o dalent cyfrifiadurol i allu creu seiat Gymraeg newydd ar y rhyngrwyd.


Sori, chei di ddim getawê efo hynna. Wna i setio i fyny sustem fel maes-e i ti am ddim os byddi di'n mynd ati i'w hyrwyddo ac i'w rheoli (dim angen gallu technolegol i hynna, dim ond faint bynnag o allu sydd ei hangen i bostio ar maes-e i gychwyn...)...

Felly, pa mor uchelgeisiol wyt ti?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Wel Aran...

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Sul 28 Tach 2004 3:48 pm

Wel, tydw i ddim yn ddigon uchelgeisiol...Serch hynny, byddem yn fodlon gwneud cyfraniad ariannol bychain i maes-e.com taswn i yn meddwl fod y seiat yn symud ymlaen...Yn ogystal, dwi'n fodlon cymryd rhan mewn ymgyrch marchnata e.e. dosbarthu taflenni ar sgwar Caernarfon... :!:
Pam ffwc na all Bwrdd Yr Iaith brynnu y peth a marchnata y seiat+ defnyddio ychydig o filoedd o bunoedd i hysbysebu'r peth????
Byddai hyn yn gwneud llawer mwy o les i'r heniaith na rhai o syniaidau'r bwrdd(mae'r bwrdd wedi gwneud gwaith da-ond hefyd wedi gwneud camgymeriadau).
Nac ydw, Aran- tydw i ddim digon uchelgeisiol i allu creu seiat uffernol o boblogaidd yn y Gymraeg. Gwireb- nid yw neb arall chwaith!!!!
Peth yw'r pwynt anwybyddu y ffaith yma? :?:
Bwrdd yr Iaith yn prynnu maes-e.com- mwy o siawns ennill y loteri?!
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan Treforian » Sul 28 Tach 2004 3:53 pm

mi wyddoch chi a ddywedodd:Pam ffwc na all Bwrdd Yr Iaith brynnu y peth...?
A'm gwaredo.

Mi o'n i wedi bwriadu ymateb i hynna, ond dwi wedi penderfynu jyst dyfynnu a gadael i chi sbio arno fo a mynd
:ofn: :o :drwg: :rolio: :x :crio: :? :ofn: :x :drwg: :drwg: :lol: :crio: :crio: :ofn:
Treforian
 

Wel...

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Sul 28 Tach 2004 4:07 pm

Treforian-wrth gwrs fod hyn yn anhebygol...
Fodd bynnag, byddai'r briodas uffernol o od yma rhwng y seiat a'r cwango yn arwain at chwyldro go iawn. Ffycin bydda'n bositif! Dysga sut i freuddwydio a gobeithio am bethau amhosibl... Bydda'n ddelfrydyddol am un eiliad fach!
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan eusebio » Sul 28 Tach 2004 6:26 pm

Ga'i ofyn be uffar wyt ti'n ddisgwyl i Bwrdd yr Iaith wneud efo maes-e na sydd ddim yn cael ei wneud yn barod?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Macsen » Sul 28 Tach 2004 7:00 pm

Mi fysai Bwrdd yr Iaith yn rhoi arwydd mawr uwch ben y Maes: 'Siaradwch Gymraeg neu Saesneg Yma.' :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Sul 28 Tach 2004 7:13 pm

Mae maes-e ar werth?

Sneb wedi dweud dim byd wrtha i.

Bastads.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sul 28 Tach 2004 8:08 pm

Wel? Dewch ymlaen. Mae tri chwarter awr wedi mynd heibio. Gall Saddam Hussain fod wedi ein dinistrio ni i gyd yn yr amser dych chi wedi bod yn meddwl am snapi cymbac.

'Sai peiriant amser 'da fe.

Ac arfau dinistr torfol.

A chyfrif maes-e.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Mer 01 Rhag 2004 6:26 pm

nicdafis a ddywedodd:[wedi ail-agor cyfrif Martin Llewelyn Williams]


Wedi cau fe eto. Mae bywyd yn rhy fyr.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nôl

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron