Dim digon o aelodau/brysurdeb!

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dim digon o aelodau/brysurdeb!

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Llun 11 Hyd 2004 8:06 pm

Gall maes-e.com fod yn ddistaw iawn ar wahannol adegau o'r dydd/wythnos. Unrhyw un o aelodau mwy profiadol maes-e.com gyda awgrymiadau ar sut i ddennu mwy o aelodau? A oes yna edefyn arall sydd yn cyffwrdd a'r un cwestiwn pwysig yma?
Awgrym- cynhyrchu crysau T gwyn gyda maes-e.com mewn glas tywyll ar y blaen a "heb y barnu na'r cystadlu" ar y cefn. Am wn i, byddai crysau fel rhain yn uffernnol o rad i'w cynhyrchu. A oes yna rywbeth fel hyn wedi digwydd o'r blaen? Cynhyrchu y crysau T erbyn yr Eisteddfod flwyddyn nesa? Pawb i ymgynnull rhywle ar y maes.Tynnu sylw! Gyrru llun o'r grwp at y Western Mail, Golwg, Y Cymro ...?
Unrhyw awgrymiadau eraill ar sut i ddenu mwy o bobl sydd eisiau cyfathrebu yn y Gymraeg ar y we?
Mae'n debygol fod yna dipyn o Gymry Cymraeg yn astudio yma ym Manceinion. Dwi'n fodlon gosod posteri yn yr Undeb yma er mwyn trio denu aelodau. Pam lai?
Hyd yn oed os y byddai Saeson neu pobl di-Gymraeg yn ymweld a'r seiat yma byddai hyn hefyd yn beth da- codi y lefel o'r ymwybyddiaeth o'r Gymraeg rhyw fymryn! :!:
A fyddai pawb yn fodlon gwneud cyfraniad o ryw buntan er mwyn cael crysau T?
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan Leusa » Llun 11 Hyd 2004 8:14 pm

na.
does dim angen 'denu' mwy o aelodau, mae'r lle 'ma'n mynd yn rhy llawn fel mae hi, oedd hi llawer gwell o'r blaen lle nad oedd canoedd o aelodau a gwaith cadw llygad ar bawb.
A mi gynhyrchwyd crysau-t flwyddyn diwetha, mae 'na dal rhai ar ol os ti isho un.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Llun 11 Hyd 2004 8:28 pm

Leusa a ddywedodd:na.
does dim angen 'denu' mwy o aelodau, mae'r lle 'ma'n mynd yn rhy llawn fel mae hi, oedd hi llawer gwell o'r blaen lle nad oedd canoedd o aelodau a gwaith cadw llygad ar bawb.

Dim yn deall dy ffordd di o feddwl. Mae gan maes-e.com llwyth o botensial. Gyda phob parch, credaf fod dy agwedd braidd yn anuchelgeisiol yn nhermau hyrwyddo'r Gymraeg ar y we fyd eang. Elli di ymhelaethu ar dy ddadl di?
Martin Llewelyn Williams
 

Mwy...

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Llun 11 Hyd 2004 8:37 pm

Seiat bach breifat? Clic bach cyffyrddus Gymraeg? Na- dim diolch. Seiat uchelgeisiol a phenderfynnol sydd yn denu aelodau newydd yn ddyddiol! Hyrwyddo'r Gymraeg a gwella safon Cymraeg pawb sydd yn cyfrannu? Iawn, pawb a'i chwaeth- ni fydd gan lawer ddiddordeb- ond mae gan maes-e.com botensial...
Martin Llewelyn Williams
 

Pwynt diwethaf heno...

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Llun 11 Hyd 2004 8:42 pm

Mae yna lwyth o siaradwyr Cymraeg fyddai yn cysidro cyfrannu ond sydd erioed wedi clywed am fodolaeth y fforwm. Cynydd? Camau breision? Gwahaniaeth GO IAWN? Dewch laen... Rydym ni i gyd yn haeddu cic yn y pen ol! :!:
Martin Llewelyn Williams
 

Re: Pwynt diwethaf heno...

Postiogan Macsen » Llun 11 Hyd 2004 8:47 pm

Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Rydym ni i gyd yn haeddu cic yn y pen ol! :!:


Am unwaith ti'n cytuno a gweddill y Maes. :crechwen:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Leusa » Llun 11 Hyd 2004 9:10 pm

'dw i'n meddwl bod maes-e wedi goddiweddyd unrhyw amcan oedd gan Nic yn ei feddwl pan greodd o'r lle 'ma i ddechrau, a bygro potenshal, ma be sydd yma'n barod digon da. a paid a meiddio cychwyn ar dy rant 'dim da lle gellir gwell' achos ma'r lle ma'n blydi briliant, ac eith o ddim gwell. Neith o mond gwaethygu os ei di ati i annog mwy o aelodaeth.

O be wela i, mae gen ti weledigaeth enfawr yn dy feddwl ynglyn a be allai fama fod, a mae'r ffaith bod Nic a'r grwp llywio yn gwneud hyn yn wirfoddol yn golygu bod unrhyw ehangu pellach yn amhosib.

A 'dw i yn cytuno bod angen cic yn dy din di, dos o'ma i greu gwefan uchelgeisiol dy hun a defnyddia dy amser i neud rhywbeth gwerth i'w neud yn lle cwyno dragwyddol.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Al » Llun 11 Hyd 2004 9:43 pm

ia dwi'n ffeindio maes-e yn brysur well gana fi tawelwch(ish) dyfodol.com(na dwi ddim yn trio hysbysebu ef, mond unwaith dwi di neud hyn ac yn y darn rygbi oedd hono) mae na gormod o barnau i gystadlu efo! :?
Al
 

Postiogan Aran » Maw 12 Hyd 2004 9:23 am

Argian mawr, Martin, mae 'na bobl yn gweithio bob munud sbar sydd gennyn nhw i ehangu'r We Gymraeg, a gobaith mwya'r Maes ydy fod o'n esgor ar negesfyrddiau eraill yn y Gymraeg, nid fod o'n mynd yn anghenfil a bod neb yn mynd i nunlle arall. Mae Nic wedi gwneud gwaith mawr i hyrwyddo'r syniad o flogio yn y Gymraeg (os wyt ti am gyfrannu, pam na wnei di gychwyn blog Cymraeg?), mae Siwan a Sion wedi cychwyn dimcwsg.com, mae Owen yn rhedeg DyffrynAeron.com, mae Sioned yn rhedeg Pishyn.com...

Felly beth am i ti gychwyn gwefan Gymraeg? Boed yn wefan trafod neu wefan wybodaeth neu beth bynnag, ond rhywbeth. Mae'r Maes ar gael i rywun sydd isio cyfrannu, a bydd y gair yn dal i ymledu amdani - mae wedi cael sylw cyson yn y Wasg Gymraeg, a bydd hynny'n parhau. Ond beth sydd angen yn anad dim ydy MWY o wefannau Cymraeg, felly yn lle na phaldaruo'n fan hyn, pam na ei di ati i gychwyn un?

NEU WYT TI DDIM YN DDIGON UCHELGEISIOL?????
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 12 Hyd 2004 9:27 am

Aran a ddywedodd:NEU WYT TI DDIM YN DDIGON UCHELGEISIOL?????


He he he! :lol:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron