eusebio a ddywedodd:Byddai gennyf lot fwy o barch tuag atat petaet yn creu gwefan dy hyn yn hytrach na lladd ar pawb a phopeth.
Tydw i erioed wedi honni fod gennyf ddigon o dalent cyfrifiadurol i allu creu seiat Gymraeg newydd ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, tydw i ddim yn mynd i gau fy ngheg a rhoi'r gorau iddi ac anwybyddu potensial aruthrol maes-e.com i wneud gwahaniaeth go iawn.Y caswir yw nad oes gan Gymru unigolyn digon mentrus ac uchelgeisiol sydd yn mynd i brynnu y fforwm a'i throi hi yn e.e. beibl Cymraeg, chwarel neu eisteddfod... Wrth gwrs fy mod yn mynd ymlaen ac ymlaen- FFORWM ydi hon.Dyna yw holl bwynt y peth! Mynegi barn gonest...