Os na fydd maes-e.com yn llwyddo i recriwtio aelodau newydd yna mae yna bosibilrwydd y bydd y peth yn mynd yn stel ac yn farwaidd. Mae'n bwysig cael aelodau ledled Cymru sydd yn gallu cynnig persbectif gwahannol...
Pum mil o aelodau fydd yn gymorth i sbarduno pobl i greu planedau eraill Cymraeg ar y we-fyd-eang. Y lefel nesaf, peidio aros ar yr un lefel- mae hyn yn ddiflas- ydw i yn ddigon o foi i brynnu'r seiat yma? Na-dwi'n ddigon gonest i gyfaddef y ffaith mai bychan iawn yw lefel fy ngwybodaeth i o gyfrifiaduron a'r we. Fodd bynnag, dwi yn fodlon e.e. dosbarthu taflenni, rhoi posteri i fynny (+ gwneud cyfraniad ariannol...)
Pe bai Cymru yn wlad gwirioneddol uchelgeisiol yna byddai rhyw fath o Richard Branson Cymraeg(rhywun llawer mwy uchelgeisiol na mi) wedi prynnu'r seiat yma oes pys yn ol a wedi ei throi hi yn anghenfil mawr barus a fyddai yn cyflawni gwyrthiau mewn cysylltiad a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Yr un hen ffycin gan-S4C, maes-e.com, Cymuned a.y.y.b. Cyfraniadau pwysig a gwerthfawr, ond dim chwyldro...