Dim digon o aelodau/brysurdeb!

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Treforian » Sad 27 Tach 2004 4:16 pm

Deuda di.
Martin Llywelyn Williams a ddywedodd:Dim lol hirwyntog.
Neu'n well na hynny, dim lol o gwbwl.

A gyda llaw, tydi hi ddim yn deg defnyddio Golwg nac unrhyw gylchgrawn arall fel maes brwydr bathetig.

A dwi'n siwr bod Leusa'n gwybod y dylai hi roi ei henw llawn ar ddiwedd llythyr, wsti :winc: .
MLlW a ddywedodd:Cyfryngau bywiog, uchelgeisiol ac egniol yn y Gymru fodern?Ffycin joc cenedlaethol...
Y?? :?
Treforian
 

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Sad 27 Tach 2004 4:31 pm

Treforian a ddywedodd: A gyda llaw, tydi hi ddim yn deg defnyddio Golwg nac unrhyw gylchgrawn arall fel maes brwydr bathetig.

Nid yw'r sylwad yma yn gwneud llawer o synnwyr. Beth yn union sydd yn bathetig mewn mynegi barn gwbl onest ac agored ynglyn a diffyg hunanhyder y genedl i allu cynhyrchu a gwerthu tocynnau uniaith Gymraeg ar y blaen gyda mymryn o glyfrwch a dychymyg ar y cefn? Treforian- wyt ti yn mynd i yrru llythyr i Golwg gyda dy enw go iawn? :lol: :lol:
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan Treforian » Sad 27 Tach 2004 4:43 pm

Nid pathetigrwydd dy lythyr, na llythyr neb arall yn y golofn, oedd gen i dan sylw.

Be ro'n i yn ddeud oedd os wyt ti eisiau dadl hefo aelodau'r maes, gwna fo yn fan hyn yn lle mynd at y cyfryngau cenedlaethol i geisio ennill pwyntiau.

A be ydi dy thing (peth-diolch bruce) di hefo'r enwau llawn 'ma? Does dim ffliwjan o otsh gen i os oes neb yn gwybod fy enw iawn i!
Treforian
 

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Sad 27 Tach 2004 4:58 pm

Treforian a ddywedodd:Be ro'n i yn ddeud oedd os wyt ti eisiau dadl hefo aelodau'r maes, gwna fo yn fan hyn yn lle mynd at y cyfryngau cenedlaethol i geisio ennill pwyntiau.

Mae'r Deyrnas Unedig yn wlad ddemocrataidd. Os y byddaf i yn teimlo'r angen i yrru llythyr arall i Golwg yn y dyfodol yna dyna yn union y byddaf yn ei wneud. Os wyt ti isho ennill pwyntiau yn fy erbyn i yna sgwenna lythyr dy hun i Golwg!!! Unwaith eto- cyfryngau Cymraeg bywiog,egniol ac uchelgeisiol? Joc cenedlaethol! Roedd hi'n benderfyniad addas i mi yrru y llythyr i Golwg- mae yna rai pobl sydd yn darllen Golwg ond sydd erioed wedi clywed am fodolaeth maes-e.com. Yn ogystal, roedd y pwnc dan sylw yn un cenedlaethol-pam ddiawl y dylai'r mater gael ei gyfyngu i seiat ar-lein? :?:
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan nicdafis » Sad 27 Tach 2004 5:12 pm

Mae peth am yr enwau iawn yn hen gân, Martin, a dyw e ddim yn mynd i newid. Does dim ots 'da fi o gwbl pa enw mae rhywun yn defnyddio ar y maes: nid Golwg yw hwn. Mae llawer mwy o ots 'da fi am unigolion sy'n postio dan mwy nag un enw. Ond dydy'r ddau bwynt 'na ddim yn berthnasol yma.

Mae peth am y tocynnau wedi ei chwipio i farwolaeth hefyd, a nad yw'n berthnasol i'r edefyn hwn chwaith. Wyt ti wedi wneud dy bwynt yn ddigon clir, a does dim llawer iawn i ddiddordeb 'da neb arall ar y maes, mae'n debyg. Os wyt ti am gario ymlaen gyda'r "ymgyrch" yma, wnei di fe ar dy bandwidth dy hunan, os gweli di'n dda.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Sad 27 Tach 2004 5:22 pm

nicdafis a ddywedodd:Mae peth am y tocynnau wedi ei chwipio i farwolaeth hefyd,

Pam? Mae Maes B yn ddigwyddiad blynyddol. Derbyn y pwynt nad yw dechrau son am y polisi DI-ASGWRN CEFN yma yn syniad gwych yn yr edefyn yma- edefyn arall eisioes yn bodoli. Nol at bwnc gwreiddiol yr edefyn yma- pa mor brysur yw'r stondin gwerthu pysgod y dyddiau yma???????????? :?:
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Sad 27 Tach 2004 6:18 pm

nicdafis a ddywedodd: Os wyt ti am gario ymlaen gyda'r "ymgyrch" yma, wnei di fe ar dy bandwidth dy hunan, os gweli di'n dda.

Pam? Mae enw'r seiat yma (sef maes-e) yn awgrymu'n gryf iawn ei bod hi'n seiat sydd yn croesawu unrhyw aelod( cyn belled eu bod yn sgwennu yn Gymraeg ac nad ydynt yn gyrru negeseuon dan-din,maleisus a brwnt).
Efallai y dylid unai cael mwy o aelodau neu newid enw'r fforwm! Beth yn union ydi'r rhesymeg y tu ol i enwi rhywbeth yn maes-e(perthynas gref gyda maes b) ond yna penderfynnu fod rhai safbwyntiau gonest yn y byd Cymraeg yn anaddas ar gyfer y fforwm? Ble mae'r cysondeb? Sori- ond nid yw'r meddylfryd yma yn ddigon uchelgeisiol.
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan nicdafis » Sad 27 Tach 2004 10:31 pm

Martin, dydy enw maes-e.com ddim â dim byd o gwbl i wneud â Maes B. Mae'r wefan wedi'i enwi ar ôl cân Datblygu. Dw i erioed wedi <b>bod</b> ar Maes B, felly byddai'n anodd i fi drial ail-greu ei naws arbennig yma ar yr IntarWeb, ond fyddai?

M.Ll.W. a ddywedodd:Pam?


Yn y bôn Martin, achos mod i wedi gofyn i ti, mor syml â hynny. Dw i'n gwybod bod hyn yn swnio bach yn hunanol ond fy ngwefan i yw hon. Os dwyt ti ddim â digon o sens i wybod pan wyt ti wedi diflasu pawb, mae rhaid i mi wneud rhywbeth amdano. Nid democratiaeth yw hwn, ac mae'n beth da i ti nad yw, neu fyddet ti heb gyfrif o hyd.

Ydyn ni'n deall ein gilydd?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Barn bersonnol...

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Sul 28 Tach 2004 1:57 pm

Os na fydd maes-e.com yn llwyddo i recriwtio aelodau newydd yna mae yna bosibilrwydd y bydd y peth yn mynd yn stel ac yn farwaidd. Mae'n bwysig cael aelodau ledled Cymru sydd yn gallu cynnig persbectif gwahannol...
Pum mil o aelodau fydd yn gymorth i sbarduno pobl i greu planedau eraill Cymraeg ar y we-fyd-eang. Y lefel nesaf, peidio aros ar yr un lefel- mae hyn yn ddiflas- ydw i yn ddigon o foi i brynnu'r seiat yma? Na-dwi'n ddigon gonest i gyfaddef y ffaith mai bychan iawn yw lefel fy ngwybodaeth i o gyfrifiaduron a'r we. Fodd bynnag, dwi yn fodlon e.e. dosbarthu taflenni, rhoi posteri i fynny (+ gwneud cyfraniad ariannol...)
Pe bai Cymru yn wlad gwirioneddol uchelgeisiol yna byddai rhyw fath o Richard Branson Cymraeg(rhywun llawer mwy uchelgeisiol na mi) wedi prynnu'r seiat yma oes pys yn ol a wedi ei throi hi yn anghenfil mawr barus a fyddai yn cyflawni gwyrthiau mewn cysylltiad a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Yr un hen ffycin gan-S4C, maes-e.com, Cymuned a.y.y.b. Cyfraniadau pwysig a gwerthfawr, ond dim chwyldro... :drwg:
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan eusebio » Sul 28 Tach 2004 2:16 pm

Martin - plis neid di roi'r gorau i'r diwn gron 'ma.

Seiat drafod ar y wê ydi maes-e, nid rhyw fusnes rhyngwladol sydd yn gwneud doleri di-ri i Nic. Ond o gofio pa mor sydyn mae maes-e wedi tyfu yn y flwyddyn i 18 mis diwethaf, byddwn i yn tybio ei fod yn chwyldro.

Mae nifer o Gymry wedi dechrau blogio ar y we yn Gymraeg diolch i maes-e; pobl oedd efallai heb a) ystyried blogio neu b) fel fi, wedi bod yn blogio/creu gwefanau yn Saesneg.

Fel dywed SFA (kind of) nid hon yw'r wefan fydd yn achub yr iaith.

Byddai gennyf lot fwy o barch tuag atat petaet yn creu gwefan dy hyn yn hytrach na lladd ar pawb a phopeth.

Plis paid ag ateb y neges yma gyda brawddegau hirwyntog am uchelgais a chwyldro - dwi wedi hen ddiflasu ar dy agwedd.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron