Dim ond arbrofiad yw'r rheiny. Dw i'n edrych ar ffyrdd i wneud hysbysebion "mewnol" - h.y. i werthu hysbysebion yn uniongyrchol i bobl sydd am hysbysebu ar y maes. Mae sustem Google yn tipyn bach o <i>blunt instrument</i>, (bydd llawer o hysbysebion am gyrsiau Cymraeg, na fydd o ddiddordeb mawr i lawer o faeswyr) ond dw i jyst am weld sut mae'n gweithio.
Rhan o'r rheswm dw i'n wneud hyn yw, er gwaethaf y ffordd anffodus mae e'n mynegi ei hunan, mae Martin Llywelyn yn iawn, nad yw'n gynaladwy yn y pendraw i mi gario ymlaen rhedeg maes-e fel hobi, ac yn dibynnu ar ewyllys da y bobl sy'n fy helpu. Mae rhaid i mi ddechrau edrych ar ffyrdd i wneud arian ma's o'r maes, er mwyn talu fy hunan, ac o bosib, pobl eraill, i wneud y gwaith anghenreidiol.
Bydda i'n cysylltu a Google yn y man, a chynnig cyfieithu rhyngwyneb yr hysbysebion i'r Gymraeg. Yn y cyfamser, paid boddran a chwyno am Seisnigrwydd yr hysbysebion eu hunain. 'Sai unrhyw busnes Cymraeg yn boddran prynu GoogleAds, gallen nhw fod mwy neu lai yn sicr o weld eu hysbysebion ar maes-e. Dw i wedi prynu GoogleAds yn y gorffennol, fel arbrofiad, a ches i "graddfa clicio trwyddo" reit dda (i Morfablog).
[gol. am sillafu, ac i newid y teitl tipyn bach]