Hysbysebion Google ar y Maes

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 17 Hyd 2004 10:17 pm

Dwi wedi rhoi clec i pedwar o'r hysbysebion ac wedi bod ar eu gwefan.
Felly 4 x 20c = 80c i Nic a Maes- E.

Cashback !
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Sul 17 Hyd 2004 11:15 pm

Mae 'na hysbyseb mewn rwsieg newydd ymddangos ar y dde. Mae'r pobl iaith estron 'ma i gyd yn dallt 'i gilydd yn amlwg.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Sul 17 Hyd 2004 11:27 pm

Yr unig seiat lle dw i wedi gweld hysbysebion sydd hyd yn oed tipyn bach yn berthnasol i bwnc y trafodaeth yw <a href="http://maes-e.com/viewforum.php?f=40">Cerddoriaeth Gweddill y Byd</a>. Ond mae'r hysbysebion yn mynd i wefannau craplyd bob tro.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sul 17 Hyd 2004 11:50 pm

Dau beth bach. Fel dw i wedi dweud o'r blaen, na fydd clicio ar bob hysbyseb yn helpu yn y pendraw. Os ydy unrhyw hysbysebwr yn meddwl bob aelodau maes-e yn abiwso'r sustem (h.y. jyst clicio ar hysbysebion er mwyn wneud arian i'r maes, nid mas o unrhyw diddordeb yn yr hysbyseb) mae'n bosibl iddyn nhw gwyno i Google, ac i Google cau i lawr yr hysbysebion, a gwrthod talu un dimau coch.

Yr ail beth: dw i'n gallu bloco hysbysebwyr penodol, felly os oes 'na rywbeth sy'n gwylltio pobl, rho wybod gyda neges yma neu un sydyn i mi, gan gofio dweud ble welaist ti'r hysbyseb. Dw i ddim yn addo bydda i'n bloco unrhywbeth, ond bydda i'n meddwl amdano. Dw i ddim yn gwybod beth fyddai'n digwydd 'swn i'n bloco pob un sy'n hysbysebu yn uniaith Saesneg, er enghraifft.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 18 Hyd 2004 8:49 am

Beth yn unon yw costau cynnal maes-e y mis Nic?!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhys » Llun 18 Hyd 2004 9:57 am

Yn y tymor byr efallai gelli'r holi gweinyddwyr http://www.gwladrugby.com ar sut mae nhw'n gweithredu eu sustem baneri hysbysebu. Ymddengys eu bod yn defnyddio http://www.adbutler.com. Dwi'n siwr bod o leaif un o'r gweinyddwyr yn siarad Cymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan nicdafis » Llun 18 Hyd 2004 9:32 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Beth yn unon yw costau cynnal maes-e y mis Nic?!


$10 y mis ac unrhywbeth lan i 3 awr y dydd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 19 Hyd 2004 10:40 am

nicdafis a ddywedodd:
$10 y mis


Wel yn ariannol dwi'n meddwl fod yna ffyrdd llawer gwell na hysbysebu i dalu am hyn.

nicdafis a ddywedodd:...ac unrhywbeth lan i 3 awr y dydd.


Ond wrth gwrs nesi ddim ystyried hyn :ofn: (back in the days o ni ar y maes am dipyn mwy na 3 awr y dydd!)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan nicdafis » Maw 19 Hyd 2004 3:53 pm

Ie, ond o't ti'n cyfrannu, nid cymedroli am y tair awr 'na ;-)

Na, i fod yn deg, dydy'r maes ddim yn cymryd cymaint o'm amser a hynny fel arfer. Beth sy 'da fi mewn meddwl yw defnyddio'r maes i wneud o leia dau beth:

1) Talu fi i fod yn hunan-gyflogedig, a gadael i mi treulio amser hybu defnydd o Gymraeg ar y we ym mha bynnag ffyrdd sy'n debyg i fod yn fwya effeithiol.

2) Os ydy hi'n bosibl, creu cronfa o arian i ddefnyddio am bethau fel ysgoliaethau, gwobrau eisteddfod, ac yn y blaen, a fydd yn annog pobl ifainc i wneud gwell defnydd o'r Gymraeg ar y we.

Dw i ddim wedi meddwl lot am hyn, mae'n ddyddiau cynnar iawn, ond dyna'r bwriad yn y pendraw. Y cam cyntaf, siawns, bydd sefydlu maes-e.com fel cwmni di-elw. Ond sa i wedi cael amser eto i edrych i mewn i hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Maw 19 Hyd 2004 3:56 pm

nicdafis a ddywedodd:Y cam cyntaf, siawns, bydd sefydlu maes-e.com fel cwmni di-elw.


Paid rhoi'r maes i Dielw, does dim trystio'r boi!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron