Jyst i'ch cadw chi i fyny a beth dw i'n wneud (gan eich bod chi'n talu fi nawr
)
Mae GoogleAds yn gweithio yn eitha da fel modd o godi arian (wnes i rhyw $60 dros yr wythnos) ond maen nhw'n amlwg yn amherthnasol ar y cyfan, ac mae'n ymddangos bod pobl wedi diflasu ar weld hysbysebion am wyliau a chyrsiau Cymraeg.
Ces i ateb gan Google i'm neges am fersiwn Gymraeg - "dim cynllun i ehangu'r rhestr o ieithoedd ar hyn o bryd". Gan fod bron neb yn prynu GoogleAds yn y Gymraeg, dw i ddim yn gweld bai ar Google am beidio eisiau gwario ar hyn, dweud y gwir.
Felly, na fydd y GoogleAds yn aros yn hir.
Beth dw i'n gweithio arno ar hyn o bryd yw sustem mewnol o hysbysebion, gan ddefnyddio <a href="http://phpadsnew.com/two/">phpAdsNew</a>, pecyn meddalwedd rhydd sy'n debyg iawn i phpBB (ti'n edrych ar hwnna nawr) gan dy fod di'n gallu cyfieithu'r rhyngwyneb dy hun, ac wedyn bydd y fersiwn Cymraeg yn cael ei gynnwys yn y pecyn llawn nesa o'r meddalwedd.
Dw i yn y broses o osod phpAdsNew ar weinydd maes-e - dim problemau hyd yn hyn, ond mae canllawiau yn 100 tudalen o A4, felly mae tipyn bach o waith darllen 'da fi i wneud. Bydda i'n profi'r sustem newydd ar Morfablog, ac wedyn ar y maes. Unwaith dw i'n siwr ei fod e'n stabl, bydda i'n creu cyfrifau yn y sustem i'r bobl a oedd yn ddigon hael i helpu fi gyda costiau prynu iMac newydd ar ol i mi golli'r hen iBook i Thor, Duw Mellt a Tharannau, ac yn gofyn i'r bobl yna i ddewis y gwefannau hoffen nhw hybu ar y maes. Dw i'n rhagweld y bydd yr hysbysebion yn edrych yn debyg iawn i'r rhai Google, gyda theitl, dwy linell o ddisgrifiad, ac URL ar y gwaelod.
Y peth mwya anodd bydd penderfynnu faint i siarsio am yr hysbysebion unwaith mae'r sustem yn mynd yn fyw, a sut i gasglu'r arian. Felly mae cryn dipyn o waith ymchwil i wneud eto, ond dw i'n rhagweld y bydd sustem mewnol yn fwy apelgar, yn sicr yn fwy Cymraeg (fydda i ddim yn derbyn hysbysebion Saesneg), ac, yn bwysicaf oll, yn wneud mwy o arian i fi!
<i>Wedyn</i> (ond fydd hyn ddim yn digwydd nes i ni brofi bod hysbysebion uniaith Gymraeg yn werth y trwbl), bydda i'n gallu cynnig gwasanaeth hysbysebion i unrhywun gyda gwefan Gymraeg, yn yr un modd ag mae Google yn wneud nawr.