Ie, ond o't ti'n cyfrannu, nid cymedroli am y tair awr 'na
Na, i fod yn deg, dydy'r maes ddim yn cymryd cymaint o'm amser a hynny fel arfer. Beth sy 'da fi mewn meddwl yw defnyddio'r maes i wneud o leia dau beth:
1) Talu fi i fod yn hunan-gyflogedig, a gadael i mi treulio amser hybu defnydd o Gymraeg ar y we ym mha bynnag ffyrdd sy'n debyg i fod yn fwya effeithiol.
2) Os ydy hi'n bosibl, creu cronfa o arian i ddefnyddio am bethau fel ysgoliaethau, gwobrau eisteddfod, ac yn y blaen, a fydd yn annog pobl ifainc i wneud gwell defnydd o'r Gymraeg ar y we.
Dw i ddim wedi meddwl lot am hyn, mae'n ddyddiau cynnar iawn, ond dyna'r bwriad yn y pendraw. Y cam cyntaf, siawns, bydd sefydlu maes-e.com fel cwmni di-elw. Ond sa i wedi cael amser eto i edrych i mewn i hyn.