A, yr hen ffordd Gymreig o fyw. Mae "edefyn troi'r cloc yn ol" yn un o draddodiadau mwy gwerthfawr y Rhithfro, erbyn hyn. Rhaid dweud bod hi'n well 'da fi y rhai fel hyn, sy'n digwydd yn amser priodol y flwyddyn, yn hytrach nag ymdrechion sleepflower ac Ifan Saer i newid pethau gan bostio'r edefyn ym mis Gorffennaf, dau fis ar ol i'r clociau eu hunain fynd yn ol, neu'r crafwyr a oedd yn ddigon afreal i awgrymu i ni newid y cloc ym mis Medi, dim ond mis cyn iddyn nhw fynd yn ol ta beth.
Roedd Mr Gasyth yn llai afreal, (ond yn ddigon hy i gymryd y pis mas o sleepflower dau fis wedyn), ond rhaid rhoi credyd i huwwaters, nid jyst am fod yr un cyntaf i sylweddoli nad yw cloc maes-e yn newid yn awtomatig, ond am fod yn ddigon call i ddweud wrtha i mewn neges sydyn, yn lle postio edefyn amdano.
Gwela i chi gyd eto yn y gwanwyn.