Fel dw i wedi sôn rhywle arall, dydy'r GoogleAds ddim wedi bod yn llwyddianus iawn fel arbrofiad.
Wele arbrofiad newydd: Hysbysebion uniaith Gymraeg, sy'n cael eu rheoli'n fewnol. Dim ond un "slot" hysbys sydd ar y munud, ond dw i'n gobeithio y byddai'n bosib i ehangu hyn i dri neu bedwar yn y pendraw. Bydd hyn yn golygu ail-drefnu brig y dudalen tipyn bach. Gawn ni weld.
Jyst i roi rhywfath o syniad beth yw'r bwriad, bydd hysbysebion yn cael eu dangos ar rota. Ar hyn o bryd dim ond llond dwrn sy yn y sustem, ond bydda i'n ychwanegu mwy dros y Sul.
Unwaith dw i'n siwr bod y sustem yn dibynadwy, bydda i'n cysylltu â'r bobl hael a roddodd arian i mi pan o'n i heb gyfrifiadur, i ofyn iddyn nhw pa wefan(-nau) hoffen nhw eu hysbysebu ar y maes, ac yn rhoi credyd yn y sustem yn ôl yr arian y rhoddon nhw i mi.
Unwaith bod hynny yn gweithio, bydda i'n lansio gwefan newydd a fydd yn gwerthu hysbysebion i unrhyw unigolyn, sefydliad neu gwmni sydd am hysbysebu ar y maes.
Dw i ddim wedi gweithio mas y manylion eto, ond dw i'n rhagweld gwerthu hysbysebion am rywbeth fel 1000 argraffiad am bunt (ond mewn blociau o 10K = £10).
Y cynllun yn y pendraw yw i ehangu'r gwasanaeth i werthu'r hysbysion ar wefannau eraill. Maen nhw wedi bod yn ymddangos ar <a href="http://morfablog.com">Morfablog</a> ers sbel, a dw i'n gweld graddfa-clicio-trwyddo yn weddol uchel fan 'na, er bod dim ond rhyw hanner dwsin o hysbysebion ar y rota.
Gobeithio bod hyn yn wneud sens. Unrhyw sylwadau?