Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 10 Rhag 2004 2:30 pm
gan Chwadan
Dywadd annwl, be ddigwyddodd? Es i mewn i'r seiat Materion y Byd a mi newidiodd popeth :ofn:

PostioPostiwyd: Gwe 10 Rhag 2004 2:34 pm
gan Macsen
Ie, mi edrychais i weld os oedd LSD yn fy nhe.

PostioPostiwyd: Maw 14 Rhag 2004 6:39 pm
gan nicdafis
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Yr un broblem gyda fi ar y PC yma yn y gwaith. mae rhyw 2 centimedr ar y dde yn cael ei dorri i ffwrdd. Mae'n edrych fel y dylai fod digon o le ond mae gap anferth rhwng y botymau 'Proffeil', 'Negeseuon Preifat' a 'Allgofnodi' a'r hysbyseb.

800 x 600 yw'r sgrin.


Ydy hyn yn iawn erbyn hyn Hedd?

[Gol.] Wedi profi fe gan newid fy sgrîn i i 800x640, ac mae'n <a href="http://morfablog.com/lluniau/04/12/800x640.jpg">edrych yn iawn</a>. Gobeithio ti'n gweld rhywbeth tebyg.

PostioPostiwyd: Maw 14 Rhag 2004 6:54 pm
gan nicdafis
Fel y byddwch chi wedi gweld erbyn hyn mae'n siwr, mae hysbysebion newydd wedi dechrau ymddangos. Mae'r rhain gan y bobl a'm helpodd prynu'r iMac newydd, ac maen nhw'n fy helpu fi eto gan ddangos pa mor hyblyg mae sustem yma. Mae'n debyg y byddwch chi'n gweld hysbyseb cadwyn.com yn fwy aml nag un dyffrynaeron.com, gan fy mod i wedi dweud wrth y sustem i drial dangos bob un o'r un cyntaf erbyn y Dolig.

Gobeithir y bydd yn bosibl i roi tipyn o reolaeth dros y ffordd mae'r hysbysebion yn cael eu dangos i'r rhai sydd am eu prynu - bydd yn bosibl dweud, er enghraifft "paid dangos yr hysbyseb yma i'r un person mwy nag unwaith bob 1/5/10/30 munud/awr/diwrnod".

Mwy yn y man. Rhaid mynd mas.

PostioPostiwyd: Iau 16 Rhag 2004 3:28 pm
gan Meic P
Yn ogystal a hyn, be am gael tudalen yn arbennig i'r Hysbysebwyr/Noddwyr yma? Wedyn bydd modd i bobl weld pa fudiadau/gwmniau gwahanol sy'n gefnogol ac yn cyfrannu arian i'r maes.

Hynnu yw, tudalen llawn o lincs/hysbyebion

Be da chi'n feddwl?

PostioPostiwyd: Gwe 17 Rhag 2004 1:48 pm
gan nicdafis
Un o'r pethau "ar y rhestr" yw tudalen sy'n rhestri bob hysbyseb cyfredol. Bydda i'n erych am ffordd i wneud hyn yn awtomatig.

PostioPostiwyd: Gwe 17 Rhag 2004 3:09 pm
gan nicdafis
Un peth sy wedi dod yn amlwg ers i fi ddechrau rhedeg yr hysbysebion newydd (gan y bobl a roddodd arian tuag at yr iMac) yw dydy 5K/10K o hysbysebion ddim yn parhau am hir os nad oes lot o hysbysebion gwahanol yn y sustem. Oherwydd hynny, bydd yr hysbysebion hynny yn rhedeg yn "ddi-derfyn" nes bod ni'n agor y drysau ar ôl Nadolig.

Gyda'r llaw, plis cliciwch ar yr hysbysebion. ;-)

PostioPostiwyd: Maw 04 Ion 2005 12:15 am
gan Hedd Gwynfor
Newydd sylwi fod hysbyseb gig nadolig y Gymdeithas, + rali tai dal yn rhedeg ar ol y digwyddiadau!

PostioPostiwyd: Maw 04 Ion 2005 10:37 am
gan nicdafis
Neis i weld bod rhywun yn talu sylw ;-)

Maen nhw wedi mynd nawr.

Os oes diddordeb 'da unrhywun prynu hysbysebion, gyda'r llaw, dw i'n eu gwerthu am £5 am 10,000 o argraffiadau ar hyn o bryd. Neges breifat os oes diddordeb.

PostioPostiwyd: Sul 08 Mai 2005 1:40 pm
gan Al
dwi di bod yn sbiad ar sut mae'r system yma yn gweithio ac dwin reit 'impressed'(be dir gair cymraeg?). Defnyddio system phpadsnew wy ti yfe? Hoffai rhywbryd yn y dyfodol mewnfudo y system yma i rygbicymru.com, wrth gwrs fydd rhaid i chdi rhoi copyright notice yn y mod :winc: .

Pa bryd fydd y wefan ar wahan yn agor, oes dyddiad penodol?