Tudalen 1 o 2

Dynamic, Hacio, a'r maes

PostioPostiwyd: Llun 06 Rhag 2004 5:09 pm
gan nicdafis
Jyst i roi gwybod, dw i wedi derbyn ebost gan gynhyrchiolwr Hacio, sy'n dweud:
Dwi wrthi'n gweithio ar eitem am warchod plant ym myd cyfryngau ar gyfer rhaglen Hacio wythnos yma. Yn yr eitem mi fydd aelodau'r grwp Dynamic yn son am y pwysau o fod yn y cyhoedd ac mi fyddai hefyd yn crybwyll y ffaith fod Dynamic wedi cael sylw drwg gan rai ar maes e. Ni fydd maes e yn cael ei roi mewn golau drwg gan fy mod yn deall fod rhai sylwadau eisioes wedi cael eu tynnu i ffwrdd oddi ar y maes. Er hynny mi fyddwn i'n gwerthfawrogi cael datganiad gennychi'n rhoi eich ochr chi.



Dw i'n hoff iawn o <i>Ni fydd maes e yn cael ei roi mewn golau drwg gan fy mod yn deall fod rhai sylwadau eisioes wedi cael eu tynnu i ffwrdd oddi ar y maes. </i>

Wel, <i>ffiw</i>.

Dyma fy ymateb i, gan nad ydyn nhw'n debyg i'w ddfnyddio ar y rhaglen:
Diolch am dy neges. Croeso i ti ddefnyddio unrhywbeth o'r isod fel "datganiad" ar y rhaglen.

Nid fi sy'n gyfrifol am farnau personol aelodau maes-e ar fandiau pop Cymraeg. Ni welais i'r sylwadau nes i rywun sy'n "cysylltiedig â Dynamic" gysylltu â fi a dweud wrtha i, mwy neu lai, bod rhaid i mi dynnu i lawr pob sylw negyddol am y band neu byddai fe'n cymryd camau pellach. Rwy'n hen arfer, erbyn hyn, derbyn y fath bygythiad, ac yn yr achos yma, doeddwn i ddim yn gweld bod unrhyw sail i'r bygythiad. Fe wnes i ddileu un sylw a oedd, yn fy marn i, wedi mynd dros ben llestri, ond mater o chwaeth oedd hynny. Yn sicr, doedd dim byd enllibus, yn yr ystyr cyfreithiol o'r gair.

Er mod i ddim yn hoff iawn o'r fath "drafodaeth" ar faes-e, ac yn ffeindio agweddau gwreig-gasaol rhai o'r aelodau yn blentynaidd i ddweud y lleia, mae rhaid i fi geisio fod yn di-duedd wrth gymedroli ar y safle, ac yn sicr dw i ddim yn debyg i blygio i unrhyw gais di-enw i dynnu deunydd oddi ar y wefan achos ei fod e'n "sarhaus" yn eu barn nhwthau. Dydy e ddim yn erbyn y cyfraith, hyd y gwn i, i beidio bod yn ffan bandiau pop Cymraeg, neu hyd yn oed i ddweud eu bod nhw'n rwtsh llwyr. Mae hynny'n fater o farn, er ei fod yn farn nad ydych yn debyg i ddod ar ei draws yn y cyfryngau Cymraeg "traddodiadol".

Pan oedd y BBC yn boddran rhedeg negesfwrdd Cymraeg ar y we, cafodd bob neges ei chymedroli *cyn* iddi gael ei phostio i'r we, gyda'r canlyniad nad oedd bron neb yn defnyddio'r safle. Mae maes-e yn cael mwy o gyfraniadau mewn diwrnod nac oedd bwrdd y BBC yn cael mewn misoedd, yn rhannol achos dyna'r unig lle mae rhan helaeth o Gymry ifainc yn gallu gweld eu gwir ddiwylliant yn cael eu hadlewyrchu, heb "sglein Disneyaidd S4C" (chwedl Gruff Rhys) drosto fe.

Cofiwch, nid plant yw Dynamic, ond merched ifainc sy'n cael eu marchnata yn y gobaith (dw i'n cymryd) y byddan nhw'n llwyddo "torri trwyddo" i'r byd pop byd-eang, sef y byd pop Saesneg ei iaith - nid "Deinamig" ydy eu henw nhw, wedi'r cwbl. Falle dylen nhw edrych ar y we i weld y fath o bethau sy'n cael eu dweud am Atomic Kitten a Destiny's Child cyn penderfynnu taw hwn yw'r gyrfa iddyn nhw.

Gobeithio bod hyn yn wneud sens. Byddwn i'n hapus i egluro unrhyw bwynt sy ddim yn glir, ond dw i ddim am ymddangos ar y rhaglen - nid bod chi wedi gofyn!

PostioPostiwyd: Llun 06 Rhag 2004 5:13 pm
gan Meic P
Wel sed Nic.

PostioPostiwyd: Llun 06 Rhag 2004 9:48 pm
gan Ramirez
:D shweeeet

PostioPostiwyd: Llun 06 Rhag 2004 10:12 pm
gan methu meddwl
Wel sed Nic.


cytuno! di hyn yn feddwl ma "dynamic" nath achosir 'meltdown' (cau am bethefnos) cwpwl o fisoedd n ol?

PostioPostiwyd: Llun 06 Rhag 2004 10:58 pm
gan Leusa
cytuno! di hyn yn feddwl ma "dynamic" nath achosir 'meltdown' (cau am bethefnos) cwpwl o fisoedd n ol?

nadi. mae'r 'thing' dynamic wedi digwydd ar ôl hynna.
Datganiad da, Nic.

PostioPostiwyd: Llun 06 Rhag 2004 11:01 pm
gan carwyn
bod rhaid i mi dynnu i lawr pob sylw negyddol am y band neu byddai fe'n cymryd camau pellach.


ma hynna jyst yn drist, os nag oes gan bobl dim byd gwell i neud na chymryd came cyfreithiol yn erbyn pobl ddiniwed fel nic.

a'i "enllibus" oedd y neges, neu barn adeiladol falle ddyle'r grwp gymryd sylw ohonyn nhw?

be ddigwyddodd i "rhydd i bawb ei farn"? mae'n amlwg i fod o wedi newid i "rhydd i bawb 'i farn, ond ddim barn enllibus am rwpie pop cyfoes cymraeg..."

PostioPostiwyd: Maw 07 Rhag 2004 1:59 am
gan garynysmon
Yn anffodus, mae maes-e yn darged rhy hawdd gan mai hon yw'r negesfwrdd Cymraeg (ac un o'r gwefannau) mwyaf poblogaidd sy'n bodoli ar y we. Os mae un o gynyrchiolwyr y grwp (dwi'n digwydd nabod un o'r grwp) ddim yn licio'r ffaith nad ydi pobol yn meddwl fod nhw'n dda iawn, yna dyna fo 'de. Does dim rheswm mynd ati i fod yn fabiaidd a cymryd camau cyfreithiol am nad yw pawb yn ffans o'u cerddoriaeth. Mae Bryn Fon a sawl band arall yn cael abiws ar maes-e, ond nid ydyn nhw yn gweld yr angen i gwyno bob tro mae hynny'n digwydd.

PostioPostiwyd: Maw 07 Rhag 2004 4:12 am
gan Macsen
Mi fysai cwyno am y Maes yn gwneud i Dynamic be wnaeth cwyno am Bush i'r Dixie Chicks, bydded hynny'n beth da ai peidio.

PostioPostiwyd: Gwe 10 Rhag 2004 12:24 am
gan Ffinc Ffloyd
Newydd weld y sioe heno - mi ddaru nhw ddefnyddio paragraff ola'r datganiad, fel ma hi'n digwydd. Chwara teg, mi oedd yr eitem yn un gytbwys ac wrth ddarllan rhwng y llinella mi oeddan nhw'n deud i bob pwrpas 'rhydd i bawb ei farn', 'lly.

Ategu ei fod o'n ddatganiad da, Nic. Dwinna hefyd yn meddwl fod pwy bynnag gysylltodd efo chdi yn rhy sensitif o beth goblyn - mi oedd ganddyn nhw gyfreithiwr arno fo'n deud 'ma hwn yn oce', hyd yn oed.

Oedd hi'n raglen eitha da ar y cyfan, gan ystyried bod y bydjet tua 20c. Mi oedd yr hogan yn siarad am y trena'n crap (dwi'n meddwl ma hi sy'n rheibio'r dudalen Gymraeg ym mhapur newydd sdiwdants Caerdydd hefyd :drwg: ), ond ar yr ochr ora, mi o'n i arno fo, yn yr eitem ola.

Ffinc, talking head. :D

(Sori mod i wedi ailadrodd hyn yn y darn Teledu).

PostioPostiwyd: Gwe 10 Rhag 2004 12:47 am
gan nicdafis
Diolch am hyn, Ffinc. Gan nad yw teledu digidol wedi cyrraedd Llangrannog eto, do'n i ddim yn gallu gwylio'r rhaglen. Mae'n swnio fel lot o hwyl. Edrych ymlaen ar weld y fideo (mae fy mam wedi'i recordio, <i>bless</i>).