Dwi wrthi'n gweithio ar eitem am warchod plant ym myd cyfryngau ar gyfer rhaglen Hacio wythnos yma. Yn yr eitem mi fydd aelodau'r grwp Dynamic yn son am y pwysau o fod yn y cyhoedd ac mi fyddai hefyd yn crybwyll y ffaith fod Dynamic wedi cael sylw drwg gan rai ar maes e. Ni fydd maes e yn cael ei roi mewn golau drwg gan fy mod yn deall fod rhai sylwadau eisioes wedi cael eu tynnu i ffwrdd oddi ar y maes. Er hynny mi fyddwn i'n gwerthfawrogi cael datganiad gennychi'n rhoi eich ochr chi.
Dw i'n hoff iawn o <i>Ni fydd maes e yn cael ei roi mewn golau drwg gan fy mod yn deall fod rhai sylwadau eisioes wedi cael eu tynnu i ffwrdd oddi ar y maes. </i>
Wel, <i>ffiw</i>.
Dyma fy ymateb i, gan nad ydyn nhw'n debyg i'w ddfnyddio ar y rhaglen:
Diolch am dy neges. Croeso i ti ddefnyddio unrhywbeth o'r isod fel "datganiad" ar y rhaglen.
Nid fi sy'n gyfrifol am farnau personol aelodau maes-e ar fandiau pop Cymraeg. Ni welais i'r sylwadau nes i rywun sy'n "cysylltiedig â Dynamic" gysylltu â fi a dweud wrtha i, mwy neu lai, bod rhaid i mi dynnu i lawr pob sylw negyddol am y band neu byddai fe'n cymryd camau pellach. Rwy'n hen arfer, erbyn hyn, derbyn y fath bygythiad, ac yn yr achos yma, doeddwn i ddim yn gweld bod unrhyw sail i'r bygythiad. Fe wnes i ddileu un sylw a oedd, yn fy marn i, wedi mynd dros ben llestri, ond mater o chwaeth oedd hynny. Yn sicr, doedd dim byd enllibus, yn yr ystyr cyfreithiol o'r gair.
Er mod i ddim yn hoff iawn o'r fath "drafodaeth" ar faes-e, ac yn ffeindio agweddau gwreig-gasaol rhai o'r aelodau yn blentynaidd i ddweud y lleia, mae rhaid i fi geisio fod yn di-duedd wrth gymedroli ar y safle, ac yn sicr dw i ddim yn debyg i blygio i unrhyw gais di-enw i dynnu deunydd oddi ar y wefan achos ei fod e'n "sarhaus" yn eu barn nhwthau. Dydy e ddim yn erbyn y cyfraith, hyd y gwn i, i beidio bod yn ffan bandiau pop Cymraeg, neu hyd yn oed i ddweud eu bod nhw'n rwtsh llwyr. Mae hynny'n fater o farn, er ei fod yn farn nad ydych yn debyg i ddod ar ei draws yn y cyfryngau Cymraeg "traddodiadol".
Pan oedd y BBC yn boddran rhedeg negesfwrdd Cymraeg ar y we, cafodd bob neges ei chymedroli *cyn* iddi gael ei phostio i'r we, gyda'r canlyniad nad oedd bron neb yn defnyddio'r safle. Mae maes-e yn cael mwy o gyfraniadau mewn diwrnod nac oedd bwrdd y BBC yn cael mewn misoedd, yn rhannol achos dyna'r unig lle mae rhan helaeth o Gymry ifainc yn gallu gweld eu gwir ddiwylliant yn cael eu hadlewyrchu, heb "sglein Disneyaidd S4C" (chwedl Gruff Rhys) drosto fe.
Cofiwch, nid plant yw Dynamic, ond merched ifainc sy'n cael eu marchnata yn y gobaith (dw i'n cymryd) y byddan nhw'n llwyddo "torri trwyddo" i'r byd pop byd-eang, sef y byd pop Saesneg ei iaith - nid "Deinamig" ydy eu henw nhw, wedi'r cwbl. Falle dylen nhw edrych ar y we i weld y fath o bethau sy'n cael eu dweud am Atomic Kitten a Destiny's Child cyn penderfynnu taw hwn yw'r gyrfa iddyn nhw.
Gobeithio bod hyn yn wneud sens. Byddwn i'n hapus i egluro unrhyw bwynt sy ddim yn glir, ond dw i ddim am ymddangos ar y rhaglen - nid bod chi wedi gofyn!