Dynamic, Hacio, a'r maes

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dynamic, Hacio, a'r maes

Postiogan nicdafis » Llun 06 Rhag 2004 5:09 pm

Jyst i roi gwybod, dw i wedi derbyn ebost gan gynhyrchiolwr Hacio, sy'n dweud:
Dwi wrthi'n gweithio ar eitem am warchod plant ym myd cyfryngau ar gyfer rhaglen Hacio wythnos yma. Yn yr eitem mi fydd aelodau'r grwp Dynamic yn son am y pwysau o fod yn y cyhoedd ac mi fyddai hefyd yn crybwyll y ffaith fod Dynamic wedi cael sylw drwg gan rai ar maes e. Ni fydd maes e yn cael ei roi mewn golau drwg gan fy mod yn deall fod rhai sylwadau eisioes wedi cael eu tynnu i ffwrdd oddi ar y maes. Er hynny mi fyddwn i'n gwerthfawrogi cael datganiad gennychi'n rhoi eich ochr chi.



Dw i'n hoff iawn o <i>Ni fydd maes e yn cael ei roi mewn golau drwg gan fy mod yn deall fod rhai sylwadau eisioes wedi cael eu tynnu i ffwrdd oddi ar y maes. </i>

Wel, <i>ffiw</i>.

Dyma fy ymateb i, gan nad ydyn nhw'n debyg i'w ddfnyddio ar y rhaglen:
Diolch am dy neges. Croeso i ti ddefnyddio unrhywbeth o'r isod fel "datganiad" ar y rhaglen.

Nid fi sy'n gyfrifol am farnau personol aelodau maes-e ar fandiau pop Cymraeg. Ni welais i'r sylwadau nes i rywun sy'n "cysylltiedig â Dynamic" gysylltu â fi a dweud wrtha i, mwy neu lai, bod rhaid i mi dynnu i lawr pob sylw negyddol am y band neu byddai fe'n cymryd camau pellach. Rwy'n hen arfer, erbyn hyn, derbyn y fath bygythiad, ac yn yr achos yma, doeddwn i ddim yn gweld bod unrhyw sail i'r bygythiad. Fe wnes i ddileu un sylw a oedd, yn fy marn i, wedi mynd dros ben llestri, ond mater o chwaeth oedd hynny. Yn sicr, doedd dim byd enllibus, yn yr ystyr cyfreithiol o'r gair.

Er mod i ddim yn hoff iawn o'r fath "drafodaeth" ar faes-e, ac yn ffeindio agweddau gwreig-gasaol rhai o'r aelodau yn blentynaidd i ddweud y lleia, mae rhaid i fi geisio fod yn di-duedd wrth gymedroli ar y safle, ac yn sicr dw i ddim yn debyg i blygio i unrhyw gais di-enw i dynnu deunydd oddi ar y wefan achos ei fod e'n "sarhaus" yn eu barn nhwthau. Dydy e ddim yn erbyn y cyfraith, hyd y gwn i, i beidio bod yn ffan bandiau pop Cymraeg, neu hyd yn oed i ddweud eu bod nhw'n rwtsh llwyr. Mae hynny'n fater o farn, er ei fod yn farn nad ydych yn debyg i ddod ar ei draws yn y cyfryngau Cymraeg "traddodiadol".

Pan oedd y BBC yn boddran rhedeg negesfwrdd Cymraeg ar y we, cafodd bob neges ei chymedroli *cyn* iddi gael ei phostio i'r we, gyda'r canlyniad nad oedd bron neb yn defnyddio'r safle. Mae maes-e yn cael mwy o gyfraniadau mewn diwrnod nac oedd bwrdd y BBC yn cael mewn misoedd, yn rhannol achos dyna'r unig lle mae rhan helaeth o Gymry ifainc yn gallu gweld eu gwir ddiwylliant yn cael eu hadlewyrchu, heb "sglein Disneyaidd S4C" (chwedl Gruff Rhys) drosto fe.

Cofiwch, nid plant yw Dynamic, ond merched ifainc sy'n cael eu marchnata yn y gobaith (dw i'n cymryd) y byddan nhw'n llwyddo "torri trwyddo" i'r byd pop byd-eang, sef y byd pop Saesneg ei iaith - nid "Deinamig" ydy eu henw nhw, wedi'r cwbl. Falle dylen nhw edrych ar y we i weld y fath o bethau sy'n cael eu dweud am Atomic Kitten a Destiny's Child cyn penderfynnu taw hwn yw'r gyrfa iddyn nhw.

Gobeithio bod hyn yn wneud sens. Byddwn i'n hapus i egluro unrhyw bwynt sy ddim yn glir, ond dw i ddim am ymddangos ar y rhaglen - nid bod chi wedi gofyn!
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Meic P » Llun 06 Rhag 2004 5:13 pm

Wel sed Nic.
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan Ramirez » Llun 06 Rhag 2004 9:48 pm

:D shweeeet
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan methu meddwl » Llun 06 Rhag 2004 10:12 pm

Wel sed Nic.


cytuno! di hyn yn feddwl ma "dynamic" nath achosir 'meltdown' (cau am bethefnos) cwpwl o fisoedd n ol?
Rhithffurf defnyddiwr
methu meddwl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 365
Ymunwyd: Maw 17 Meh 2003 10:59 pm
Lleoliad: ty v,nunlla sbeshal..acshyli na,ma pontllyfni yn sbeshal iawn!!

Postiogan Leusa » Llun 06 Rhag 2004 10:58 pm

cytuno! di hyn yn feddwl ma "dynamic" nath achosir 'meltdown' (cau am bethefnos) cwpwl o fisoedd n ol?

nadi. mae'r 'thing' dynamic wedi digwydd ar ôl hynna.
Datganiad da, Nic.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan carwyn » Llun 06 Rhag 2004 11:01 pm

bod rhaid i mi dynnu i lawr pob sylw negyddol am y band neu byddai fe'n cymryd camau pellach.


ma hynna jyst yn drist, os nag oes gan bobl dim byd gwell i neud na chymryd came cyfreithiol yn erbyn pobl ddiniwed fel nic.

a'i "enllibus" oedd y neges, neu barn adeiladol falle ddyle'r grwp gymryd sylw ohonyn nhw?

be ddigwyddodd i "rhydd i bawb ei farn"? mae'n amlwg i fod o wedi newid i "rhydd i bawb 'i farn, ond ddim barn enllibus am rwpie pop cyfoes cymraeg..."
os na ddo'n nhw - ddo'n nhw ddim, ac os y do'n mi ddo'n.
carwyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 436
Ymunwyd: Sul 31 Awst 2003 11:00 pm

Postiogan garynysmon » Maw 07 Rhag 2004 1:59 am

Yn anffodus, mae maes-e yn darged rhy hawdd gan mai hon yw'r negesfwrdd Cymraeg (ac un o'r gwefannau) mwyaf poblogaidd sy'n bodoli ar y we. Os mae un o gynyrchiolwyr y grwp (dwi'n digwydd nabod un o'r grwp) ddim yn licio'r ffaith nad ydi pobol yn meddwl fod nhw'n dda iawn, yna dyna fo 'de. Does dim rheswm mynd ati i fod yn fabiaidd a cymryd camau cyfreithiol am nad yw pawb yn ffans o'u cerddoriaeth. Mae Bryn Fon a sawl band arall yn cael abiws ar maes-e, ond nid ydyn nhw yn gweld yr angen i gwyno bob tro mae hynny'n digwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Macsen » Maw 07 Rhag 2004 4:12 am

Mi fysai cwyno am y Maes yn gwneud i Dynamic be wnaeth cwyno am Bush i'r Dixie Chicks, bydded hynny'n beth da ai peidio.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Ffinc Ffloyd » Gwe 10 Rhag 2004 12:24 am

Newydd weld y sioe heno - mi ddaru nhw ddefnyddio paragraff ola'r datganiad, fel ma hi'n digwydd. Chwara teg, mi oedd yr eitem yn un gytbwys ac wrth ddarllan rhwng y llinella mi oeddan nhw'n deud i bob pwrpas 'rhydd i bawb ei farn', 'lly.

Ategu ei fod o'n ddatganiad da, Nic. Dwinna hefyd yn meddwl fod pwy bynnag gysylltodd efo chdi yn rhy sensitif o beth goblyn - mi oedd ganddyn nhw gyfreithiwr arno fo'n deud 'ma hwn yn oce', hyd yn oed.

Oedd hi'n raglen eitha da ar y cyfan, gan ystyried bod y bydjet tua 20c. Mi oedd yr hogan yn siarad am y trena'n crap (dwi'n meddwl ma hi sy'n rheibio'r dudalen Gymraeg ym mhapur newydd sdiwdants Caerdydd hefyd :drwg: ), ond ar yr ochr ora, mi o'n i arno fo, yn yr eitem ola.

Ffinc, talking head. :D

(Sori mod i wedi ailadrodd hyn yn y darn Teledu).
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan nicdafis » Gwe 10 Rhag 2004 12:47 am

Diolch am hyn, Ffinc. Gan nad yw teledu digidol wedi cyrraedd Llangrannog eto, do'n i ddim yn gallu gwylio'r rhaglen. Mae'n swnio fel lot o hwyl. Edrych ymlaen ar weld y fideo (mae fy mam wedi'i recordio, <i>bless</i>).
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 5 gwestai

cron