dyfodol maes-e...

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

dyfodol maes-e...

Postiogan Ramirez » Maw 07 Rhag 2004 10:57 pm

o weld sylwadau diweddar nic dafis am gael gwared ar ambell i adran o'r maes, a'i fod wastad yn gobeithio y buasai'r maes yn esgor ar nifer o fforymau eraill- fasa fo'n gweithio, os y buasai digon o bobl yn dechrau fforymau arbennigol eraill, cael maes-e fel rhyw fath o dudalen flaen, ond yn arallgyfeirio i'r fforymau eraill - cam ymlaen o'r busnes cymedrolwyr, mewn ffordd, a buasai hefyd yn golygu na fyddai gweinyddwyr maes-e yn gyfrifol am unrhyw fygythiadau cyfreithio etc.

whaddyafink?
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Macsen » Mer 08 Rhag 2004 1:18 pm

Fysai fo'n edrych rywbeth fel hyn, ond gyda fforymau yn lle?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Mer 08 Rhag 2004 2:32 pm

Dwi'n anghytuno efo'r syniad yma. Y rheswm mae maes-e yn lwyddiant ydi ei fod yn dod a gymaint o wahanol bynciau a diddordebau at eu gilydd - mae rhywbeth yma i bawb. Mae'r maes yn fwy na chyfanswm ei rannau,a pe bai'n cael ei rannu i fyny ni fyddai mor lwyddianus.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Ramirez » Mer 08 Rhag 2004 6:48 pm

Macsen a ddywedodd:Fysai fo'n edrych rywbeth fel hyn, ond gyda fforymau yn lle?


ia, mewn ffordd.

hynny yw, mi fasa maes-e dal i edrych a gweithio run fath, mwy na heb, ond yn hytrach na cael aelodau i gymedroli'r seiadau gwahanol, y nhw fuasai yn eu rhedeg, a 'maes-e' fel rhyw adwy i'r holl fforymau yma.

mr. gasyth- cytuno, ond mae nic wedi dweud yn barod ei fod yn bwriadu torri i lawr ar y seiadau, gan ei fod yn ormod o faich
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan GwiDan » Maw 15 Maw 2005 3:31 pm

Beth am gael gwared o nifer o'r seiadau a'u crynhoi mewn i un. Ma tipyn o nhw'n gallu cwympo o dan yr un testun, a byddai'r wefan yn edrych yn llawer daclusach a phrysur.
Rhithffurf defnyddiwr
GwiDan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Llun 14 Maw 2005 8:58 pm
Lleoliad: Tatooine

Postiogan Ramirez » Maw 15 Maw 2005 3:53 pm

GwiDan a ddywedodd:Beth am gael gwared o nifer o'r seiadau a'u crynhoi mewn i un. Ma tipyn o nhw'n gallu cwympo o dan yr un testun, a byddai'r wefan yn edrych yn llawer daclusach a phrysur.


dwi'n meddwl mai rhywbeth fell oedd hi o blaen, ond fod petha'n mynd yn fler ac ar draws eu gilydd.

dwi dal yn meddwl y basa fo'n syniad da mynd a'r busnas cymedrolwyr gam ymhellach, a fod y cymedrolwyr mewn ffordd yn rhedeg eu fforwm fach eu hunain, yn hytrach na jysd helpu i gadw trefn.

byddai 'maes-e' wedyn yr un fath ac y mae rwan, fwy neu lai, ond mai nid nic dafis fydd yn gyfrifol am yr holl gynnwys, a mi gaiff yr holl seiadau eu rhedeg fel y dymuna'r perchennog, ac felly'n lleihau'r gwaith i bawb.

wrth gwrs, i wneud hyn, ma'n siwr y bydda'n rhaid i bawb sydd am fod yn gyfrifol am seiad ei redeg oddi ar ei webspace eu hunain, yn hytrach na lle bynnag mae nhw rwan.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan sbwriel » Maw 15 Maw 2005 4:59 pm

o be allai gweld ma tua 21 o gymedrolwyr (+ nic) i tua 35 o seiatau, heb gynnwys y cylchau.

'Se ni'n awgrymmu cyfyngu, fel wedodd GwiDan, ac uno nifer o seiatiau, ond hefyd i gael mwy o gymhedrolwyr - efallai 2 neu 3 i bob seiat. Fyddai hyn yn gadael i nic gymeryd back seat fel petai, h.y, jest edrych dros popeth, gan adael lot o'r baich ar cymedrolwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan GwiDan » Mer 16 Maw 2005 10:38 am

sbwriel a ddywedodd:o be allai gweld ma tua 21 o gymedrolwyr (+ nic) i tua 35 o seiatau, heb gynnwys y cylchau.

'Se ni'n awgrymmu cyfyngu, fel wedodd GwiDan, ac uno nifer o seiatiau, ond hefyd i gael mwy o gymhedrolwyr - efallai 2 neu 3 i bob seiat. Fyddai hyn yn gadael i nic gymeryd back seat fel petai, h.y, jest edrych dros popeth, gan adael lot o'r baich ar cymedrolwyr.


Beth am gael grwp o gymedrolwyr sy'n gallu 'gweithio' dros y fforwm gyfan? Mae nifer o fannau eraill yn gwneud hyn a ma fe'n llwyddiannus iawn, yn lle cael dau neu dri sydd wedi clymu i'w seiat.
Rhithffurf defnyddiwr
GwiDan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Llun 14 Maw 2005 8:58 pm
Lleoliad: Tatooine

Postiogan Barbarella » Mer 16 Maw 2005 1:21 pm

GwiDan a ddywedodd:Beth am gael grwp o gymedrolwyr sy'n gallu 'gweithio' dros y fforwm gyfan?

Mae 'na yn barod! Dyna ydi'r Grwp Llywio (Nic, Aran, Cardi Bach a fi).

Ond falle bod na gyfle i greu grwpiau mwy eang nag un fforwm hefyd. Er enghraifft, cael grwp o gymedrolwyr yn gyfrifol am yr holl fforymau 'Cerddoriaeth'.

Mae na hefyd ddatblygiad newydd fydd yn ymddangos yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf i helpu'r cymedrolwyr sydd gyda ni -- ffordd i unrhyw aelod marcio neges at sylw'r cymedrolwyr. Felly y gobaith yw y bydd pawb yn gallu helpu "cymedroli" ar draws y Maes.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Macsen » Mer 16 Maw 2005 1:37 pm

Barbarella a ddywedodd:Mae na hefyd ddatblygiad newydd fydd yn ymddangos yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf i helpu'r cymedrolwyr sydd gyda ni -- ffordd i unrhyw aelod marcio neges at sylw'r cymedrolwyr. Felly y gobaith yw y bydd pawb yn gallu helpu "cymedroli" ar draws y Maes.


Syniad da, dw i wedi gweld hwn yn gweithio'n effeithiol mewn fforymau eraill. :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai