Dros y penwthnos dwi wedi darganfod cerddoraeth yr hwyr Elliot Smith (diolch i Llywelyn Richards). Wedi is-lwytho lot o sdwff, fy hoff pethau ar y fynund yw yr ei albym cynta Roman Candle ac XO. Odd y boi yn gachboeth. Be di'r albym gore? A oedd o yn gwerthu lot o records? Pam lafodd ei hyn? Tolldwch y ffa....
Gwranda ar Figure 8. Shitot cont.
Dwi di bod yn trio cael gafael ar yr albym diweddara (yr un a gyhoeddwyd ar ol ei farwolaeth) ond oedd Cob di gwerthu allan dros Dolig a dwi rwan yn shgint.
Athrylith o foi.
Gyda llaw, dwi'm yn ama bod na edefyn arall yn son am Elliott Smith yn rwla
wedi canmol y boi i'r cymyle mewn edefyn arall yn rhywle... ond mae Elliot Smith yn haeddu pob sylw posib. mae'r albym ddiweddara yn wych 'from a basement on a hill' gen i o os tisho benthyg:winc:
dwi'm yn siwr pam laddodd o'i hun - ond doedd o'm yn swnio'n rhy hapus yn ei ganeuon. efo cyllell trwy ei galon y gwnaeth o...
XO a Either/Or yw ei albyms gora o bell ffordd, boi yn genius. Os tisho gwbod mwy am hanes ei fywyd mae na lyfr newydd ddod allan o'r enw Elliott Smith and the Big Nothing gan Benjamin Nugent - dwi di ordro fo ond heb di cyraedd eto.
Either/Or oedd y cynta i mi glywed a dal yn meddwl mai hon ydi'r albym ora (i fi eniwe). ma'r caneuon jyst yn amazing ac mae'r cynhyrchu'n hollol amrwd. bendigedig wir! "Pictures Of Me" yn cwl tiwn. o bosib un o fy hoff albyms yn y byd erioed.