gan nicdafis » Mer 04 Meh 2003 10:40 am
(Dylwn i sieco tudalennau ffrynt bob seiat yn fwy aml. Welais mo hyn cyn nawr.)
Mae Grandaddy yn fendigedig! Grwp "newydd" gorau yn y byd (cofiwch mod i'n hen ddyn - "newydd" i mi yw unrhywbeth ers Nirvana). Dw i'n credu bod bob CD 'da fi, ond maen nhw'n tueddu cuddio traciau ar senglau CD, felly os oes stwff fel 'na 'da rhywun, hoffwn i glywed amdano. (Dw i'n mynd i roi MP3 o trac "prin" Grandaddy ar y gweinydd - sieco yn y seiat ap Napster am fanylion.)
Fel Alys, clywais i "He's Dumb..." yn gyntaf, ar sioe Radio 3, Late Junction. Prynais i Sophtware Slump ac wedyn gweithiais fy ffordd yn ôl trwy'r catalog ôl. Yr unig peth sy ddim werth prynu yw'r <i>Broken Down Comforter Collection</i>, ond dim ond achos bod y stwff arno ar gael ar y ddau CD cyntaf, <i>A Pretty Mess By This One Band</i> a <i>Under the Western Freeway</i>.
Welaist ti "28 Days Later" Geraint? Y golygfa yn yr archfarchnad, gyda Grandaddy ar y trac sain yw un o uchafbwyntiau sinematig y flwyddyn erbyn hyn.