Tudalen 1 o 1

white magic

PostioPostiwyd: Gwe 01 Ebr 2005 1:55 pm
gan tafod_bach
nath hi fwrw eira mawr yn camber sands, a ro'dd '100 greatest animations' arno ar channel 4, so nes i benderfynu aros yn y chalet yn lle mynd i weld mu'm, yr headliners, a white magic, oedd yn ail ar y bil. dwi dal i gicio fy hun achos ma nhw'n dda iawn. trwy rhyw lwc weird, mae'n troi allan bo nhw'n ffrindie-gore-ers-oes-i-ffrind-da-ond-mysterious ac yn aros ar ei lawr e am sbel, so ges i afel ar y cd newydd 'through the sun door'. oes rhywun arall di glywed e? llais y fenyw sy'n cadw'r peth at ei gilydd, a sdim byd rhy gymhleth yn mynd mlaen, ond ma nhw'n gret. folsky ond efo digon o bethe od yn digwydd i gadw diddordeb fydden i'n deud.

mp3 bach

http://www.dragcity.com/bands/whitemagic.html - gwefan drag city - dim biog, ond gwybodaeth am gigs.

write-up o all tomorrow's parties

PostioPostiwyd: Gwe 01 Ebr 2005 2:17 pm
gan Rhodri Nwdls
Be am y bandiau eraill? Oedd na unrhywun arall ddaru daro ti'n dy wyneb fel sgiadan wlyb?

PostioPostiwyd: Gwe 01 Ebr 2005 2:29 pm
gan tafod_bach
line up braidd yn fwy sparse na mae o wedi bod (wel, mae'n debyg. dim ond llynedd fues i): lot fawr iawn o ferched insipid tawel - dwi'n meddwl bod peryg i white magic fod bach felna (ma'r mp3 yna'n un o'r rhai mwya boring off yr album, sori), ond rodd na lot o acts andros o ddiflas - faun fables, the naysayer, deerhof, early man...

nesi reali mwynhau slint a king kong (slint o dan enw arall, yn canu caneuon am anifeiliaid, rili), love as laughter, matmos, mogwai, spoon... pearls for brass yn gret hefyd, fel kings of leon tase nhw'n dda ac yn chware'r blues. odd neil hamburger, y standup comic 'gwael' (ond dwi'n amau mai dyna'i 'thing' o): "why did michael jackson dangle his baby son from a balcony?" "because he didn't finish his plate of sperm", yn oce///

need new body odd y 'lightning bolt' ar gyfer leni - pob can yn swnio fel band gwahanol, ond yr un mor innovative a mental a'r dwetha. brynes i beth o'n i'n meddwl oedd eu albym nhw ar gaset am £3, troi mas mai taped call-to-prayer muezzin ydio, efo radio arno yn y cefndir...

*those pesky kids*

PostioPostiwyd: Gwe 01 Ebr 2005 3:41 pm
gan Rhodri Nwdls
'swn i 'di lecio gweld Slint a Matmos.

Need New Body eh?...barod neu beidio Soulseek, dyma fi'n dod...

PostioPostiwyd: Gwe 01 Ebr 2005 6:16 pm
gan tafod_bach
ma nhw'n eitha 'wacky', dyna'n unig gwyn i - o'n nhw wedi gneud eu merchandise i gyd eu hunain, gan gynnwys par o nike air force 1s 'arbennig, unigryw' am tua 40£. miwsic yn dda, so be dir otsh, sbos.