Daft Punk - Human After All / Robot Rock

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Daft Punk - Human After All / Robot Rock

Postiogan Norman » Llun 06 Meh 2005 9:10 pm

Oes rhywun wedi clywed eu albym diweddara ? - Dwi mond wedi clywed y sengl 'Robot Rock' un neu ddwy o weithia mewn clwb tra'n feddw - ond wedi bod yn gwrando ar hanner munud ohoni (nifer o weithia ! ) yma > (Robot Rock) Amazon.

Sut beth ydir gweddill o 'Human After All' ? - Unrhyw ffans yma ?


[ * gol ]
Newydd ffindio'r gan gyfa ar eu gwefan daftpunk.com
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Re: Daft Punk - Human After All / Robot Rock

Postiogan dafydd » Llun 06 Meh 2005 10:39 pm

Dwi'n ffan o Daft Punk ond wnes i ddim mwynhau pob can ar yr albym newydd. Mae 'Make Love' yn eitha da.. gweddol 'Air'-aidd ac o'n i'n hoffi Technologic ond heblaw 'ny, wel dwi'n siwr fydd lle i wneud un neu ddau club remix..
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Mwnci Banana Brown » Llun 06 Meh 2005 10:51 pm

Cytuno Dafydd- album hyn ddim hanner mor dda a Discovery.
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Postiogan Low » Llun 06 Meh 2005 11:21 pm

nes i brynu'r albym rai wythnosau nol ac i fod yn onest fi'n meddwl bod e braidd yn gachlyd, am y rhesymau canlynnol:

Ma 'Robot Rock' yn swnio gormod fel 'Eye Of The Tiger'

Roedd sgwennu caneuon efo vocoder am offer technolegol yn passe yn yr yr 80s. (Television Rules The Nation)

ond ma 'Make Love' yn neis...

peidiwch gwastraffu'ch pres. Ma pethau cynnar Thomas Bangaltur'n swnio'n fwy fresh na hwn yn fy marn i.

Amen.
Rhithffurf defnyddiwr
Low
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Gwe 07 Mai 2004 5:46 pm

Postiogan dave drych » Maw 07 Meh 2005 11:08 am

Aaaah! Cerddoriaeth electronica Ffrengig yn mor lyyyyyfli.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan mwgdrwg » Maw 07 Meh 2005 11:21 am

Fel hyn dwi'n gweld hi...

Homework - 10/10
Discovery - 7/10
Human After All - 3/10
Rhithffurf defnyddiwr
mwgdrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 144
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 10:25 am

Postiogan Low » Maw 07 Meh 2005 4:00 pm

cytuno 100% mwgdrwg!
Rhithffurf defnyddiwr
Low
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Gwe 07 Mai 2004 5:46 pm

Postiogan Gwyn Eifyd » Maw 07 Meh 2005 4:28 pm

Dwi’n ffan mawr o’r ddau albym gynta – ma nhw’n wefreiddiol tu hwnt – ond heb clywed yr un newydd eto. Lot o bobol yn dweud fod o’n rybbish… mae’n amlwg fod Daft Punk yn “human after all” (boom boom).

Yn ol y son fe recordwyd yr albym mewn pythefnos, a nes i hefyd ddarllen fod ‘Robot Rock’ yn rip off eitha diog o ryw trac disco obscure o’r 70au (dim byd o’i le efo hynny!)

Be am yr albym remixes “Daft Club” ? Stwff da iawn ar hwnna, yn enwedig fersiwn piano Gonzalez o “Too Long” sy’n swnio fel Barry Manilow - dwi’m yn siwr os ydi o’n cymryd y piss ta be…
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn Eifyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 124
Ymunwyd: Mer 04 Mai 2005 4:27 pm
Lleoliad: ar glawdd offa

Postiogan lyns » Mer 08 Meh 2005 1:35 pm

Dwi wrth fy modd gyda Daft Punk. Mae'n wir i ddweud fod yr albym diwetha tipyn fwy electronig na Discovery. odd Discovery yn hollol loved up album dwi'n meddwl - mae'n amlwg fod cyfansoddwyr yr albym mewn cariad tra'n ysgrifennu hwnna ond wedi dychwelyd i electroneg go iawn yn yr album newydd, Human After All. Dwi'n meddwl fod Daft Punk yn fand sy'n wirioneddol tyfu arno chi ac mae angen gwrando ar yr album good cwpwl o weithiau a wedyn chi'n gaeth iddynt!

Da di daft punk - swn i'n hoffi gweld nhw'n fyw :D
"a poncho and sombrero combo?"
http://www.myspace.com/lynseyanne_cymru
lyns
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 628
Ymunwyd: Llun 07 Gor 2003 2:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Daft Punk - Human After All / Robot Rock

Postiogan aLexus » Mer 08 Meh 2005 1:36 pm

dafydd a ddywedodd:Dwi'n ffan o Daft Punk ond wnes i ddim mwynhau pob can ar yr albym newydd. Mae 'Make Love' yn eitha da.. gweddol 'Air'-aidd ac o'n i'n hoffi Technologic ond heblaw 'ny, wel dwi'n siwr fydd lle i wneud un neu ddau club remix..


cytuno... albwm iawn ond ddim cystal a'r cynta...technologic yn wych
we must memorise nine numbers and deny we have a soul
Rhithffurf defnyddiwr
aLexus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 394
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2004 11:34 am
Lleoliad: rhywle rhwng bae a bro

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai