gan TeleriTylwythTeg » Mer 28 Medi 2005 5:06 pm
rhaid i mi gyfadda, dwi bach n obsesd efo Pete Doherty. Ond, that aside, dwi'n meddwl bod o'n gerddor a hannar, dim ond bod hynny'n cael i guddio gan y cyffuria a'r tabloids a'r ddelwedd sydd gyna fo, h.y. supermodel girlfriend, drugs, sex a rock n roll.
Dwi'n meddwl bod o'n glyfar tu hwnt, fedrwch chi withio hynny allan dim ond wrth wrando ar i lyrics o ond mae hynny'n cael ei anwybyddu a'i golli yn y miri efo'r tabloids. Wedi deud hynny fedrith o'm bod yn glyfar iawn os dio ddigon gwirion i gymyd yr holl gyffuria na.
Ers weld o ar Live 8, maraid i mi ddeud mo di di colli ffydd yn y Doherty a mae'r ffaith bod o wedi llusgo mam a hogan 'gall' arall lawr efo fo bron yn drajedi. Dwi'n rhagweld neith petha fynd o ddrwg i waeth I Pete Doherty a neith o sniffio'i ffor i'w fedd, ond mae'i gyfraniad o at gerddoriaeth indie a roc prydeinig wedi bod yn fawr yn fy marn i a ma'i arddull wreiddiol a chlyfar o'n mynd i bara am byth, stori drist iawn.
Paratown am Chwyldro Achos Ni Yw y Byd