Shorli allthith BARN rhywun byth fod yn anghywir. Barn yw beth ma rhywun yn feddwl o rwbeth ac mae wedi'i dynnu o'r profiad ma nhw wedi cal o'r peth dan sylw. Galli di anhytuno gyda barn rhywun ond alli di ddim galw barn rhywun yn rong yn dechnegol.
Ciw rhywun yn galw fi'n hypocrit parthed negeseuon blaenorol ar y maes.
Nol at y pwnc. Dwi'n hoffi cerddoriaeth Pete Doherty, Liberteens a Babyshambles (a'r thing 'This is For Lovers' nath e gyda Wolfan?). Ma'r caneuon yn pynci a catchy ac ma'r geirie yn syml ond effeithiol. Ar y llaw arall, ma fe'n coke head sydd off y reils. sai wedi clywed stwff newydd Babyshambles ond ma'n drueni bod e fel person yn dirywio achos ma be dwi wedi clywed hyd yn hyn ar brydie, yr un mor dda a 'Up The Bracket'.