Gwybodaeth Poppies

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Eifion Austin » Mer 07 Rhag 2005 12:56 pm

Shwd ma fe'n mynd, Just nodyn gyflym i ddweud diolch i bawb a pleidleisodd i'r Poppies yn y Pop Factory Music AWards. Ennillon ni yn y catagori Best Welsh Language Act/Band ac o ni'n falch iawn. Odd e noson gwych a mwyhnheuwn ni y dioddyd am ddim y bwyd a'r diodydd eto. Highlight y noson i fi oedd siarad i'r chwaraewyr rugby a'r scrum half gorau yn y byd Dwayne Peel, Simon Easterby a Barry Jones a steddodd ar ei'n fwrd ni. Er fy mod i yn fan o'r Ospereys. Dath Simon Easterby yn invaluable gan agor boteli gyda'i dannedd. Y rhan gwaethaf o'r noson odd trial cavier am y tro cyntaf ac yn sylweddoli fod bwyta wyau pysgod yr un mor disguisting a mae'n swno. Beth digwyddodd i sausage rolls, caws a pin afal a ham sandwiches. Thats gormet.
Eifion Austin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 31
Ymunwyd: Mer 23 Tach 2005 9:12 pm

Postiogan Eddie » Mer 07 Rhag 2005 1:12 pm

Dwi'n meddwl Barry Davies wyt ti'n meddwl dim Barry Jones (cefnwr y Scarlets).

p.s. nice one am ennill a llongyfarchiadau
Cofia Ddysgu Byw!
Rhithffurf defnyddiwr
Eddie
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 62
Ymunwyd: Mer 04 Chw 2004 12:40 pm
Lleoliad: caer-meini

Postiogan Eddie » Iau 08 Rhag 2005 11:41 am

Os rhywun gyda manylion yr gig yn Karl's Bar e.e on stage times, pwy arall sydd yn chware?
Cofia Ddysgu Byw!
Rhithffurf defnyddiwr
Eddie
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 62
Ymunwyd: Mer 04 Chw 2004 12:40 pm
Lleoliad: caer-meini

Poppies Sessiwn Radio 1 02/01

Postiogan Eifion Austin » Gwe 30 Rhag 2005 12:43 pm

shw mae faeswyr brwd. Bydd y Poppies yn chwarae sessiwn Radio 1 ar Rhaglen Steve Lamacq ar yr ail o Ionawr rhwng 9yh-1yb. Ni'n edrych ymlan oherwydd mae'n golygu recordio yn Stiwdio's Maida Vale. 'Fyd ni'n gobeithio ail lawnsio pethau ar ei'n wefan ni yn fuan a cael cwpwl o ganeuon newydd ar y wefan MySpace ond wnai ddweud pan daw'r dydd.
Eifion Austin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 31
Ymunwyd: Mer 23 Tach 2005 9:12 pm

Postiogan Eifion Austin » Iau 11 Mai 2006 4:02 pm

Hello,
Mae yna can newydd ar ei'n safle MySpace ar lein nawr yn y cyfeiriad http://www.myspace.com/thepoppies.co.uk.
Hefyd mae yna 3 can arall ar ei'n wefan ni sef http://www.thepoppies.co.uk. Gobeithio byddech yn mwynhau
Eifion Austin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 31
Ymunwyd: Mer 23 Tach 2005 9:12 pm

Postiogan Sis » Iau 11 Mai 2006 9:11 pm

Lico stwff chi lot, ond pam bod y gwefan i gyd yn Saesneg, a pam so chi'n whare yn steddfod leni? Clywed bo chi'n pallu neud set Cymraeg? :(
Rhithffurf defnyddiwr
Sis
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 7:15 pm
Lleoliad: Llanfihangel

Postiogan obelisk » Mer 17 Mai 2006 2:30 pm

Eifion Austin a ddywedodd:Shwd ma fe'n mynd, Just nodyn gyflym i ddweud diolch i bawb a pleidleisodd i'r Poppies yn y Pop Factory Music AWards. Ennillon ni yn y catagori Best Welsh Language Act/Band ac o ni'n falch iawn.


o! yr eironi
obelisk
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 184
Ymunwyd: Maw 15 Chw 2005 9:00 pm

Postiogan sion blewyn coch » Iau 18 Mai 2006 7:36 pm

Eifion Austin a ddywedodd:Hello,
Mae yna can newydd ar ei'n safle MySpace ar lein nawr yn y cyfeiriad http://www.myspace.com/thepoppies.co.uk.
Hefyd mae yna 3 can arall ar ei'n wefan ni sef http://www.thepoppies.co.uk. Gobeithio byddech yn mwynhau


o na! man deud "this page can not be found" pan dwin trio mynd ir ddwy website yma :(
dwin riiiiiili edrych mlaen i glywed eich stwff newydd chi!
Rhithffurf defnyddiwr
sion blewyn coch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 352
Ymunwyd: Mer 25 Mai 2005 11:36 am
Lleoliad: Arfon

Postiogan Al » Iau 18 Mai 2006 7:41 pm

Eifion, dysga sut i ddefnyddio cyfrifiadur!

http://www.myspace.com/thepoppiesuk

http://www.thepoppies.co.uk
Al
 

Postiogan Eifion Austin » Sul 21 Mai 2006 6:28 pm

Obelisk,
nid am slanging match ond just gair o gymorth oherwydd ti'n dod o'r ysgol o feddwl Alanis Morrisette ynglyn a eironi. Eironi fydd os o ni wedi ennill band gorau cymraeg un flywddyn a'r flwyddyn arall o ni wedi anghofio sut i ganu yng nghymraeg nid methu neud gigs Cymraeg yn bellach.
Eifion Austin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 31
Ymunwyd: Mer 23 Tach 2005 9:12 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron