gan Eifion Austin » Mer 06 Rhag 2006 9:45 pm
cyd maeswyr, i chi byth yn teimlo fod rhywbeth ar goll?
Ma gyda ni newyddion, yn gyntaf yr ydym wedi rhoi dau can newydd ar ein safle my spazz. Y cynta you're my girl yn can recordiwn ni yn ystod yr haf pryd cafwn ni bach gormod o heulwen yn y wlad. Yr ail recordiwn ni y gan yn fyw yn stiwdio ymarfer ni yn caerdydd Musicbox. Fi'n falch iawn o'r recording ma achos nathon ni neud popeth ei'n hun ond am benthyg cwpwl o meics ychwanegol. Cafodd ei recordio ar noson dywyll cwpwl o wythnosau yn ol ai henw yw "Do not go gentle into the good night". Ma hyn yn fwy agos tuag at ein cyfeiriad newydd.
NESA ar yr agenda, Dafydd i ti'n cadw mynedau nawr yw y newyddion fod Owen Powell ddim ein rheolwr rhagor. Penderfyniad ar y cyd ond mae hyn wedi rhoi impetus newydd i'r fand gyda rhyddid nawr i fod yn fwy dynamic a neud fwy o bethe ni heb neud o blan. Yn y flwyddyn newydd fyddwn yn rhyddhau sengl yn y flwyddyn newydd mor gynted a bosib.
hwyl