Beach Boys neu'r Beatles

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beach Boys neu'r Beatles

Beach Boys
9
60%
Beatles
6
40%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 15

Re: yyyym...cwestiwn anodd

Postiogan Ifan Saer » Mer 30 Gor 2003 11:27 am

misse a ddywedodd:Ma Doors yn dda, ond sori, dyn nhw'm yn yr un lig


Cofia mai dy farn di di hynny(ac eraill falla wir), a na'r oll. Jysd fel mai marn i ydy bod Beatles yn over-rated. Does na'r un yn fwy gwir na'r llall.

A mi fyddwn i'n pwyntio allan na fu i'r Doors erioed recordio petha' tebyg i yellow submarine, octopus' garden, a.y.y.b, a.y.y.b....

A dim ots pa mor gach oedd records y Doors heb Jim, doedden nhw ddim hannar mor gach a stwff solo beatles. Yn fy marn i.

Dwi o'r farn fod Lennon yn un o'r bobol mwya' over-rated, o ran ei gerddoriaeth a'i ddelwedd, erioed. Shit o foi. Cachwr go iawn yn ei fywyd personnol, a dim fy marn i yw hynny - ffaith.
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Chwyldro yn y pen?

Postiogan Gorwel Roberts » Iau 31 Gor 2003 8:05 am

Darllenwch "Revolution in the Head:The Beatles' Records and the Sixties" gan Ian MacDonald i gael clywed caneuon y Beatles i gyd eto efo clustiau ffresh.

Dwmbo, dwi'n meddwl mai'r Doors sy'n over-rated o bell ffordd. Blaw am y dyrnaid o ganeuon amlwg anhygoel sydd ganddyn nhw mae 'na lot o gachu a gorchest ddi-sail yn eu miwsig a 'barddoniaeth' wael. Ac roedd Jim yn euog o lot o'r petha annifyr yn ei fywyd personol hefyd, ond ella ei fod o'n cael maddeuant am ei fod mor 'cwl' ac yn actio'r 'bardd meddw hedonistig' i'r eitha?

Lennon yn over-rated? Gwranda ar 'Tomorrow Never Knows', 'Strawberry Fields Forever', 'I am the Walrus', 'Come Together', 'She Said She Said', 'Happiness is a Warm Gun', 'A Day in the Life', etc etc etc
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Idris » Iau 31 Gor 2003 9:09 am

lyns a ddywedodd:ayb" fi ddim cweit yn cofio fe nawr! Hefyd beth sy fwy embarrasing oedd bo fi a fy ffrind gore Lleucs w


Lleucu Meinir? oedda chdi a hi yn Galway o gwmpas Haf 1994 yn gwerthu sdwff Celtaidd Mr. Ffred Ffransis?
Idris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 566
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 12:41 pm

Postiogan Cardi Bach » Iau 31 Gor 2003 9:14 am

Idris a ddywedodd:
lyns a ddywedodd:ayb" fi ddim cweit yn cofio fe nawr! Hefyd beth sy fwy embarrasing oedd bo fi a fy ffrind gore Lleucs w


Lleucu Meinir? oedda chdi a hi yn Galway o gwmpas Haf 1994 yn gwerthu sdwff Celtaidd Mr. Ffred Ffransis?


Fi'n credu y ffindi di mai stwff Gorllewin Affrica a Bwlgaria yn bennaf oedd eu cynnyrch.

Anwybodusion.
:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: yyyym...cwestiwn anodd

Postiogan Idris » Iau 31 Gor 2003 9:15 am

misse a ddywedodd:Ar y llaw arall mae White Album y Beatles (a chaneuon siwpyrb fel 'Blackbird' a 'Whlie my Guitar gently weeeeeps') yn ddigon i wneud i rhywun anghofio am y sglyfath Yellow Submarine 'na a I am the Walrus am BYTH.


well gin i'r sdwff cletach ar yr Al Bym Gwyn - Helter Skelter a Yer Blues, dwi tueddu i sgipio While My Guitar Gently Weeps, er bod Cry Baby Cry yn wych.

diddorol hefyd fod Bitch Boys v Beatles dal i rygnu ymlaen. dwi yn cytuno efo Ivan Tsar fod y ddau wedi eu gorganmol, ond dydi'r gau ganmoliaeth yn ddim o gymhrau efo'r Drysau - ambell i gan dda, ond lot o ramblo a fyswn i ddim yn dued fod Jimothi Morison yn ffit i lyfu esgidiau Dafydd Development fel bardd y gwter a phethau meddwol eraill.
Idris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 566
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 12:41 pm

Re: yyyym...cwestiwn anodd

Postiogan misse » Iau 31 Gor 2003 10:58 am

Ifan Saer a ddywedodd:
misse a ddywedodd:Ma Doors yn dda, ond sori, dyn nhw'm yn yr un lig


Cofia mai dy farn di di hynny(ac eraill falla wir), a na'r oll. Jysd fel mai marn i ydy bod Beatles yn over-rated. Does na'r un yn fwy gwir na'r llall.

Dwi o'r farn fod Lennon yn un o'r bobol mwya' over-rated, o ran ei gerddoriaeth a'i ddelwedd, erioed. Shit o foi. Cachwr go iawn yn ei fywyd personnol, a dim fy marn i yw hynny - ffaith.


Gai jyst deud de...mod i'n ymwybodol mai marn i oedd nad oedd Doors yn yr un lig. Ma'r rhan fwya o'n ffrindia fi yn ei addoli fo a fasa nhw'm yn gifio shit am y Beach Boys. Dwi ddim yn cytuno efo chdi bod y Beatles yn overrated fel y cyfryw, ond dwi'n unfryd efo chdi fod John Lennon wedi cal lot gormod o sylw, nes ei fod o wedi troi i mewn i rhyw sant oedd methu gneud dim byd o'i le. George Harrisson oedd fy chwilan ora i o bell ffordd.

people are strange ydi fy fferfyn i - for the recoed de

misse x
'life is too short to stuff a mushroom'
Rhithffurf defnyddiwr
misse
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Maw 29 Gor 2003 5:01 pm
Lleoliad: fama, fancw ac ymhob man

Re: yyyym...cwestiwn anodd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 31 Gor 2003 11:16 am

Idris a ddywedodd:dwi tueddu i sgipio While My Guitar Gently Weeps


:ofn: Anealladwy.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan eusebio » Iau 31 Gor 2003 11:20 am

Dwi'n synnu nad oes neb wedi sôn am y Monkees ... athrylith llwyr.

Yn enwedig o gofio mai mam Mickey Dolenz ddyfeisiodd tippex!


:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Al Jeek » Iau 31 Gor 2003 11:24 am

Dwin tueddu i feddwl weithiau fod y Beatles, the Doors, Elvis etc di mynd mor fawr am ei bod yn gwneud cerddoriaeth newydd, gwahanol i'r cyfnod a nid am eu bod yn gwneud cerddoriaeth hynod o ffantastig.
A fysa'r beatles mor boblogaidd os bysen nhw'n cychwyn rwan a dim nol yn y 60au?
Dwin gwbod fod o'n anodd meddwl am hyn am eu bod wedi cael dylanwad ar gymaint o bobl, yn enwedig cerddorion a ddoth ar eu hol.
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 31 Gor 2003 11:25 am

Sex Pistols
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai