Dwi'n synnu cyn lleied o bobol sy'n son am y Smashing Pumpkins y dyddia' yma, gan gysidro wrth gwrs mai nhw ydi'r Band Gorau Erioed. Felly dyma fi'n gwneud.
Unrhyw ffans yma? I fi, mae Mellon Collie And The Infinite Sadness yn dod yn agos i fod yr album gorau a wnaethpwyd gan ddyn. Mae gan bob album rwbath i gynnig wrth gwrs, ond hwnnw a Siamese Dream ydy'r goreuon o bell ffordd. Mae son bod y Pumpkins am ailffurfio flwyddyn yma, tourio a dechra sgwennu stwff newydd, ond heb James, D'arcy na Melissa mae'n debyg. Sydd yn ychydig o con. Ond dyna ni.
Dwi'n ffan o Zwan hefyd, a fyswn i wedi licio cwpwl mwy o albums ganddyn nhw. Ond mae stwff newydd solo Billy Corgan yn rybish. Trafodwch.