Roc/Metal

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan rhy ddiog i cofio fy enw » Iau 16 Tach 2006 5:04 pm

Stone sour sydd wedi hitio yr spot yn ddiweddar efo'i albym diweddara nw. a mae yna dipyn bach or Cymru yn yr albym- can or enw CARDIFF. ond y can orau ydi '30-30-150'. ewch i http://www.stonesour.com i clywed nw.
Rhithffurf defnyddiwr
rhy ddiog i cofio fy enw
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2066
Ymunwyd: Llun 26 Gor 2004 9:35 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Re: Roc/Metal

Postiogan tommybach » Llun 11 Gor 2011 10:23 am

Unrhywun arall yn lico bandiau doom/stoner fel Sleep, Om, Electric Wizard, Torche, Acid King, Kylesa ayyb??
Rhithffurf defnyddiwr
tommybach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Iau 01 Hyd 2009 11:32 pm

Re: Roc/Metal

Postiogan Chickenfoot » Maw 12 Gor 2011 11:42 pm

Mae album newydd Van Halen hefo David Lee Roth i fod i ddod allan erbyn diwedd y flwyddyn.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Roc/Metal

Postiogan Duw » Mer 13 Gor 2011 8:18 pm

Pwy sy ar ol yn VH nawr? Ffaelu credu bo DLR yn canu 'da nhw 'to. Weles i nhw yn Donnington yn '84. DLR fel pais hurt yn pranso dros y lle a chael hisi ffit oherwydd y boteli yn hedfan. Ozzy wedyn yn gweiddi, "Give me all you got". DYna gwahaniaeth rhwng rocker go iawn a boi sy'n esgus bod un. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Roc/Metal

Postiogan ceribethlem » Mer 13 Gor 2011 8:22 pm

Duw a ddywedodd:Pwy sy ar ol yn VH nawr? Ffaelu credu bo DLR yn canu 'da nhw 'to. Weles i nhw yn Donnington yn '84. DLR fel pais hurt yn pranso dros y lle a chael hisi ffit oherwydd y boteli yn hedfan. Ozzy wedyn yn gweiddi, "Give me all you got". DYna gwahaniaeth rhwng rocker go iawn a boi sy'n esgus bod un. :(

Ai, er fod Ozzy yn boncyrs!
Roger Daltrey wedi gwneud cyfweliad gwych yn Uncut mis hyn. Slago bant y nonsens X-Factor, Britains got talen ayyb. wedodd rhywbeth fel "They alol sound the same and should be nothing but backing singers" :lol:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Roc/Metal

Postiogan Chickenfoot » Iau 14 Gor 2011 12:03 am

Duw a ddywedodd:Pwy sy ar ol yn VH nawr? Ffaelu credu bo DLR yn canu 'da nhw 'to. Weles i nhw yn Donnington yn '84. DLR fel pais hurt yn pranso dros y lle a chael hisi ffit oherwydd y boteli yn hedfan. Ozzy wedyn yn gweiddi, "Give me all you got". DYna gwahaniaeth rhwng rocker go iawn a boi sy'n esgus bod un. :(


Eddie, Alex, DLR a mab Eddie, Wolfgang (enw well na Harper Seven sbo) ar y gitar fas . Roedd gwylltio hefo aelodau'r dorf oedd yn taflu dwr yn rhan DLR "it's ok, because after the show I'm gonna fuck your girlfriend, pal!" oedd ei linell fel arfer. Y peth am DLR yw ei fod o'n showman - dydi o ddim yn esgus fod yn rocker. Mae'r ffaith ei fod yn cheeseball lwyr yw un o'r resymau pan mae'n cwl.

Dwi'n meddwl ei fod yn fwy roc a rol i "gael hwyl" hefo groupies ac yfed industrial quantities o JD na cymryd botel o urine rhyw metal wanker yn dy wyneb, beth bynnag.


Yr unig ddewis amgen ydi ail ffurfio Van Hagar, a sa'n well gen i weld "pais hurt" yn neud kung fu a reidio meicroffon plastic enfawr rownd y llwyfan na hynna.

O ran Ozzy, teithiodd VH hefo Sabbath yn y 70au hwyr, a chwthon nhw'r Brummies oddiar y llwyfan trwy gydol y taith (idiom sy'n swnio'n ofnadwy yn y Gymraeg, ond gimme a break, dw i o Henfford!) , yn ol chwedlau roc. Byth wedi deall y fuss am Ozzy, er fod y lleill yn Sabbath yn wych. Roedd o'n swnio fel tramp yn canu mewn twnel gwynt, i fi.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Roc/Metal

Postiogan Chickenfoot » Iau 14 Gor 2011 12:24 am

[quote="ceribethlem" Roger Daltrey wedi gwneud cyfweliad gwych yn Uncut mis hyn. Slago bant y nonsens X-Factor, Britains got talen ayyb. wedodd rhywbeth fel "They alol sound the same and should be nothing but backing singers" :lol:[/quote]

But do they all sound the same, Roger? Do they? :seiclops:








Easy target iddo fo, braidd? Opportunity Knocks neu New Faces newydd ydi'r X Factor BGT - dim byd mwy. Ddim i wylltio amdano. dydi o ddim yn fygythiad i gerddoriaeth "go iawn", beth bynnag. Mae'r rhai sydd eisiau gwrando ar shitty ballads a JLS am fynd i neud, a mae'r trendy bollocks yn mynd i ddargafod ceddoriaeth newydd pa bynnag circas sydd ar ITV.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Roc/Metal

Postiogan Ramirez » Iau 14 Gor 2011 3:28 pm

Chickenfoot a ddywedodd:Easy target iddo fo, braidd? Opportunity Knocks neu New Faces newydd ydi'r X Factor BGT - dim byd mwy. Ddim i wylltio amdano. dydi o ddim yn fygythiad i gerddoriaeth "go iawn", beth bynnag. Mae'r rhai sydd eisiau gwrando ar shitty ballads a JLS am fynd i neud, a mae'r trendy bollocks yn mynd i ddargafod ceddoriaeth newydd pa bynnag circas sydd ar ITV.


Nonsens. Ma na dalentau anhygoel ar y rhaglenni 'ma. Dydi'r dewis o ganeuon i'r talent ddim wastad yn gweddu nac yn fy mhlesio i, ond dydi hynny ddim ots.

A be ar wyneb daear ydi cerddoriaeth "go iawn" ?!? Does na'm un ffurf o gerddoriaeth yn gynhenid well neu gwaeth na'r gweddill, siawns?
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Roc/Metal

Postiogan Chickenfoot » Iau 14 Gor 2011 9:01 pm

Roedd go iawn mewn "" am reswm :gwyrdd: Dw i'n cytuno hefo ti am y talentau - mae pobl dawnus iawn yn ymddangos e.e Matt Cardle. Dim ond dweud fod lladdd ar X Factor fel 'roedd Daltrey (Hes' nuffink without Mr Research) yn wirion. Tydyn nhw ddim ddim i gyd yr un peth a does dim fath o gerddoriaeth o'r eidrwydd yn well na'r llall.

Ceisio dweud ydw i fod sioeau talent yn ddiniwed ydw i, ac er fod mwy o rai cachlyd yn ymddangos na rhai da, mae pbl gwir dawnus arnyn nhw.

Dw i ar dy ochr di, Ramirez!

Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Roc/Metal

Postiogan Duw » Gwe 15 Gor 2011 8:10 pm

Ha ha ha Chick, ti wedi siarad rhyw shit yn d'amser, ond mae hwnna'n cymryd y fisged. DLR yn joc o foi. O leia rhoddodd Hagar chydig o geillie i'r cerddoriaeth. Twlsyn ei hunan, ond mae hwnna'n dangos cymaint o ffwrch ydy DLR. O ran Ozzy, dyna boi sy ddim yn cymryd ei hun o ddifri. Nid paun pretentious. Elen i weld Ozzy ymhen 10 mlynedd o nawr os yw e dal yn fyw, DLR ar y llaw arall, dwi wedi'i weld unwaith ac roedd hwnna'n ddigon am oes bywyd.

Eniwei, Chick, gwnaeth Michael Anthony a Sammy Hagar ffurfio band o'r enw Chickenfoot - teyrnged i ti, wylle?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai