Tudalen 1 o 10

Roc/Metal

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 2:58 pm
gan Geraint
Croeso i bwnc tywyll, lle mae'r peiriannau mwg ar ffwl blast a ma'r llawr yn sdici a drewi o Niwci Brown.

Does dim llawer o drafodaeth am bandiau roc trwm neu metal trwm yma. Yn gynta beth am ddweud pa rhai yw eich ffefrynnau?

Dwi wedi bod trwy gwahanol phases yn fy mywyd, grunge, punk a metal. Dwi'n gwrando ar lot o bethau erill ond weithie chi methu curo m'bach o rocej. Rhai o fy hoff fandiau:

Soundgarden

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 3:18 pm
gan HBK25
Van Halen (cyn Sammy Hagar)
A
Filter
Disturbed
Manics(cyn This is My Truth...)
Kentucky AFC - swm trymach pan yn chwarae'n fuw. Gwych :D
Motley Crue
Bloodhound Gang
Glassjaw - oherwydd Cosmopolitan Bloodloss yn bennaf

Ddim yn meindio Godsmack a Drowning Pool (yn enwedig y gan cafodd eidefnyddio yn ffilm the Punisher ac yn Wrestlemania20.

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 3:59 pm
gan Tronaldo
Rammstein
Queens Of The Stone Age
Iron Maiden
Audioslave
System Of A Down
Guns N Roses
Black Rebel Motorcycle Club (Pobeth fyny at ei 3ydd album)

Rhein di'n ffefrynnau i ar y funud

Ma Ritual de lo Habitual yn album da iawn

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 4:27 pm
gan Ari Brenin Cymru
Ydi The Editors yn cael ei dosbarthu fel band roc trwm? Albym dda be bynnag dio!

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 5:07 pm
gan Tronaldo
Ari Brenin Cymru a ddywedodd:Ydi The Editors yn cael ei dosbarthu fel band roc trwm? Albym dda be bynnag dio!


Na ma'n nhw indie.

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 6:47 pm
gan LlanClan
Nirvana
Rammstein
Manson
Zyklon
NIN
Devildriver
Deftones
APC
Slayer
AIC
Screaming Trees
Jimmy Eat World
Soundgarden
RATM
Pearl Jam
Mars Volta
Korn
Foos

Arghh mae yna lots, llawer dwi heb wedi enwi :P ond dyna rhai

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 6:57 pm
gan LlanClan
AEROSMITH!

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 7:42 pm
gan Ioan_Gwil
rai fi ddeud, dwin hoffi pob math o gerddoriaeth, ond mae roc trwm a metal ( a haearn a plwm a zinc a beth bynnag arall da chi ishoi alw fo) yn crap!

be ydi pwynt o, dim ond cynulleidfa fach o teenagers depressed mae on apelio at! ag yn y rhan fwyaf o achosion da chi ddim yn deall be ma nhw yn ddeud oherwydd fod distortion y guitars yn rhy uchel!!

e.e pwy glywodd radio 1 efo zane lowe neithiwr pan odd na ryw fand metel yn chwara yn fyw a ryw hogan yn canu? wel dyna i chi fand ceiniog a dimau, dwn im pwy ddiawl efo synnwyr yn ei ben fysan talu i gael band fela i chwarae mewn gig neu ar y radio, oedd hyd yn oed y gynulleidfa yno yn chantio, 'fuck off, fuck off, fuck off' dwn im os mai dyna syn cael ei ddwedu yn y rhan fwyaf or gigs yma, ta be

Ond mae metel yn shite full Stop >>>>>>>> .

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 8:17 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Co byt sdim ishe diystru ffurf lenyddol y gyfan yndoes e. :rolio:
Sain daeall be ti'n dweud am y gynulleidfa yn chanto 'Ffyc off' trwy gigiau. :?

Eniwe.
Dwi'n casau trad metal, death metal a black metal yn llwyr, fi ffili ymdopi da lleisiau y pobol. Ma y goreuon o 'Maiden da fi, o'n nhwn wych yn Reading haf dwetha.
Os byse ti'n dosbarthu System of A Down o dan metal, ma hwnan brofi ma'r genre dim yn shait o'r gyfan, band arbennig o dda. Hefyd y Deftones, band wych, ma 'White Pony' yn clasurol.
Dwi'n hoff o bandiau punk a post-hardcore. e.e. Everytime I Die (roc n rol!), The Bronx, Rancid, NOFX, Poison The Well, Cohedd and Cambria, Glassjaw. Erm..edefyn am roc/metal yw hwn, a fi'n gwbod a hardocre/punk yw nhw.

Smo Jimmy Byta'r Byd yn band trwm mun - ma nhw yn awsum ddo :D

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 8:39 pm
gan Ioan_Gwil
Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:
Sain daeall be ti'n dweud am y gynulleidfa yn chanto 'Ffyc off' trwy gigiau. :?



ar radio 1 neithiwr, darllen be ddedis i yn iawn