oes unrhyw ferched erill yn licio'r math yma o beth? i mean, wy'n nabod rhai ond jest meddwl swn i'n gofyn fan hyn, 'ar y maes'. eeniwe, mae'n edefyn eitha eang dydi - ma gen i sbot meddal iawn i pearl jam, soundgarden, pixies, guns 'n' roses ond hefyd stwff fel y scorpions, y donnas, l7, hole, new york dolls, mc5. ar y troellwr ar hyn o bryd:
turbonegro
rammstein
ramones
johnny thunders
judas priest
sisters of mercy (LOT)
pantera
metallica (maddeuwch i fi)
shanties electronig mortiis! (joc yw hon)
(ond eto, dwi'n eitha
partial i bach o zz top a whitesnake. a rainbow. dwi'n credu fod pobol yn rhy snobi am so-called roc 'meddal, widli'. falle taw'r ochr ffanatig-steely-dan/elo/meatloaf ohonai sy'n achosi'r gagendor yma yn fy chwaeth. pwy a wyr.)
a gwae, peidiwch ag anghofio
girlschool!
gyda llaw, os oes rhywun isio gwrando ar psych-prog-metal (wel, mae'n anodd i'w ddisgrifio. mae jyst raid i chi wrando.) GwychBoeth newydd, drychwch am Carnival of Souls:
dyma'u myspace (
a'u gwefan).