Ioan_Gwil a ddywedodd:Ydyn nhw'n gwerthu albyms?
Yndi, mwy na dy annwyl Bryn Fon.
Ioan_Gwil a ddywedodd:Ma na 'teenagers depressed' ym mhob gwlad
Ma Cymru yn llawn defaid. Be di dy bwynt di?
Ioan_Gwil a ddywedodd:Cos ma genai hawl deud bod on crap os dwin meddwl fod o. Os di pawb arall yn meddwl fod on dda, digon teg. Ond i fi mae on shite.
Pam nesdi fellu ddweud fod o'n shit full stop?!?!?!?!?
Ioan_Gwil a ddywedodd:Do. Ti?
And the award for British Debater of the Year goes to Ioan Gwil, the josgin from that part of England in the west.
Ioan_Gwil a ddywedodd:Dwin hoffi pob math o gerddoriaeth HEBLAW metel, roc trwm ayyb. Sa'm raid i fi licio fo chos bo chdi yn deud. Pwy tn meddwl wyt ti?
Dwi'n rhywyn sydd yn hoffi cerddoriaeth o bob math, ac unwaith ro ni yn casau roc trwm hefyd, wedi neshi wrando ar mwy na beth sydd ar MTV, a darganfod bandiau gwych, a gwrando yn iawn, yn lle dweud "Ma'n shit".
Ioan_Gwil a ddywedodd:Os dwin meddwl fod on crap, pam gai ddim deud hynny?
Os fysa na edefyn am Oasis lle fysa na riw boi yn dweud "Ma Oasis yn shit achos dwin licio goth metal, so ma Oasis yn shit achos
dwi ddm yn licio nhw" chdi fysa'r cynta i gwyno. A nath na neb ofyn i chdi os ti'n licio nhw neu ddim. Os fysa chdi wedi dod i'r edefyn yn nodi "Yn bersonnol, tydwi ddim yn hoffi cerddoriaeth felma, ac wrth ddarllen trwy'r edefyn, dwi dal heb weld band dwi'n hoffi. Oes gan rhywyn awgrymiadau am fand fysw ni yn ei hoffi?" yna bysa pawb wedi mynd "Ia, iawn ti ddim yn licio metel, fysw ni yn awgrymu i chdi wrando ar y bandiau canlynol, a wedyn os ti ddim yn hoffi heina, yna tydi metel ddim i chdi, ond mae o i ni."
Ond nesdi ddweud "Mae metel yn shit full stop" fel mai chdi yw beirniad pob math o gerddoriaeth, ac mai dy farn di sy'n bwysig. Mae dy agwedd yn blentynaidd ar y naw, a ti yn chwilio am ffrae trwy'r adeg.
Ioan_Gwil a ddywedodd:Pam fod on rong rhoi ochor arall ir edefyn yn lle bod pawb run fath? Mae gen i hawl fod yn negyddol i gerddoriaeth fel hyn os nad ydw i yn ei hoffi, hyd yn oed ys ydi pawb arall yn 'pro-metal' tydw i ddim, a chyn belled a bod rhyddid barn yn bod, mi fyddai yn ei leisio, dim yn ei gadw i fi fy hun
Iawn ond nathna neb ofyn i chdi yn bersonnol, ond eto, ti'n disgwyl i ni dy gymeryd oddifri ac i feddwl fod dy farn yn "contibution" gwerth chweil. Ma na wahaniaeth rhwng ochr arall yr edefyn, a ffeithiau anghywir hefyd.
Tro nesa, paid a meddwl fod dy farn di yn ffaith. Barn ydi barn, nid ffaith. Felly tydi metel ddim yn shit. Dio jest ddim yn berthnasol i chdi.