Tudalen 7 o 10

PostioPostiwyd: Sad 18 Maw 2006 12:04 pm
gan gerda
IRON MAIDEN yn chwarae yn y CIA (caerdydd) mis Rhagfyr! :D

PostioPostiwyd: Gwe 18 Awst 2006 11:19 am
gan Geraint
Albyms newydd allan gan Helmet, Slayer a Mars Volta!

(Dwi dal heb ddarganfod unrhyw fandiau metal 'newydd' dwi'n hoffi)

PostioPostiwyd: Gwe 18 Awst 2006 11:45 am
gan Geraint
Slayer yn CIA Caerdydd ar 30.10.06!

Gwrandwch ar y gan newydd Cult ar ei we-fan

fuck yeah! :crechwen:

PostioPostiwyd: Gwe 01 Medi 2006 12:10 pm
gan Geraint
Clwyes i gan newydd gan Trivium ar sioe Huw a Bethan neithiwr (dwi ddim yn siwr os oeddent wedi mwynhau fe :? ). Eniwe, can wych, swnio fel Iron Maiden x 100 mwy pwerus.

PostioPostiwyd: Gwe 01 Medi 2006 3:53 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Geraint a ddywedodd:Clwyes i gan newydd gan Trivium ar sioe Huw a Bethan neithiwr (dwi ddim yn siwr os oeddent wedi mwynhau fe)

Ey, wrth darllen colofn Huw o Gwyl Reading yn y WM heddi (odd Huw yn wneud yr cyhoeddiadau o'r llwyfan), ma e'n dicon bossib ma fe'n lico y Triv (fi dim yn bersonnol ond dder we go). :winc:
Odd e'n gweud faint joiws e Mastodon dydd sul d'wetha, a roedd hwn yn amlwg o bod yn y gynulleidfa.
Technegol yr uffarn mae y 'Don. Wy wedi gal yr albwm ar fy iPod am sbel, ond ffaelu ga'l mewn i fe yn iawn, mae e'n eitha cymhleth. Weud ny', o nhw'n uffarn o dda yn fyw yn Reading.

PostioPostiwyd: Llun 02 Hyd 2006 4:54 pm
gan Geraint
Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Odd e'n gweud faint joiws e Mastodon dydd sul d'wetha, a roedd hwn yn amlwg o bod yn y gynulleidfa.
Technegol yr uffarn mae y 'Don. Wy wedi gal yr albwm ar fy iPod am sbel, ond ffaelu ga'l mewn i fe yn iawn, mae e'n eitha cymhleth. Weud ny', o nhw'n uffarn o dda yn fyw yn Reading.


Wrth fy modd efo albym newydd Mastodon. Mae'n snwio mor bwerus ffwl blast yn y car. Elfennau o stoner rock, prog, thrash, grind, a melodiau sy'n fy atgoffa o Alice in Chains a Faith No More. Ond...angen mwy o gitar solo's!

Albym newydd Trivium allan mewn wythnos.

PostioPostiwyd: Maw 03 Hyd 2006 10:39 pm
gan Ari Brenin Cymru
Be da chi'n feddwl o gan newydd-ish My Chemical Romance? Gwd tiwn dwin credu.

PostioPostiwyd: Mer 04 Hyd 2006 5:49 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Ma 'Croeso to the Black Parade' yn gan arbennig o dda. O ni'n meddwl odd albwm d'wetha nhw'n wych - ac yn edrych mlan yn fawr iawn i'r un newydd. Emo, pssh pwy sy'n rhoi gach - ryw fath o pop dywyll yw MCR i gyd. Ffacin gwd tiwns 'chan. :)

PostioPostiwyd: Mer 11 Hyd 2006 11:36 am
gan Geraint
Dyw can newydd MCR ddim yn neud lot i mi, yr un gyda'r drym rolls milwyr ar y dechrau?


Dwi wedi prynu albym newydd Trivium. Blydi hel, mae'n swnio'n debyg i Metallica Master of Puppets! Swnio'n dda chos dwi'n hoffi'r fath yna o beth, ond dwi ddim yn siwr am y safon dros yr holl albym eto. I gymrhau efo Mastodon, ma na fwy o 'thrills' eto Trivium, ond mwy o sylwedd efo Mastodon.

PostioPostiwyd: Maw 14 Tach 2006 12:09 pm
gan Geraint
Albym newydd Deftones yn swnio'n dda iawn iawn.