Duw a ddywedodd:Pwy sy ar ol yn VH nawr? Ffaelu credu bo DLR yn canu 'da nhw 'to. Weles i nhw yn Donnington yn '84. DLR fel pais hurt yn pranso dros y lle a chael hisi ffit oherwydd y boteli yn hedfan. Ozzy wedyn yn gweiddi, "Give me all you got". DYna gwahaniaeth rhwng rocker go iawn a boi sy'n esgus bod un.
Eddie, Alex, DLR a mab Eddie, Wolfgang (enw well na Harper Seven sbo) ar y gitar fas . Roedd gwylltio hefo aelodau'r dorf oedd yn taflu dwr yn rhan DLR "it's ok, because after the show I'm gonna fuck your girlfriend, pal!" oedd ei linell fel arfer. Y peth am DLR yw ei fod o'n showman - dydi o ddim yn esgus fod yn rocker. Mae'r ffaith ei fod yn cheeseball lwyr yw un o'r resymau pan mae'n cwl.
Dwi'n meddwl ei fod yn fwy roc a rol i "gael hwyl" hefo groupies ac yfed industrial quantities o JD na cymryd botel o urine rhyw metal wanker yn dy wyneb, beth bynnag.
Yr unig ddewis amgen ydi ail ffurfio Van Hagar, a sa'n well gen i weld "pais hurt" yn neud kung fu a reidio meicroffon plastic enfawr rownd y llwyfan na hynna.
O ran Ozzy, teithiodd VH hefo Sabbath yn y 70au hwyr, a chwthon nhw'r Brummies oddiar y llwyfan trwy gydol y taith (idiom sy'n swnio'n ofnadwy yn y Gymraeg, ond gimme a break, dw i o Henfford!) , yn ol chwedlau roc. Byth wedi deall y fuss am Ozzy, er fod y lleill yn Sabbath yn wych. Roedd o'n swnio fel tramp yn canu mewn twnel gwynt, i fi.