Led Zeppelin

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Darth Sgonsan » Gwe 06 Hyd 2006 10:30 am

nicdafis a ddywedodd:mae'n colli'r pwynt braidd i gyhuddo band <i>blues</i> o beidio canu geiriau call, ond dyw e? Ydy pobl yn dweud hynny am Muddy Waters?


ma'n haws gen i gredu gwewyr dyn du yn Mericia, na Brymi cyfoethog sy'n cael shagio popeth ma'n weld.
ma' prepian poenus Plant yn swnio'n ludicrous i fi, fedrai'm gwrando ar Whole Lotta Love, mae o fel dirge uffernol. ma'n gweithio'n dda ffel ffim tiwn i Top o Ddy Pops, ond dwi'm yn cael dim budd ohony fo. i'r gwrthwyneb, dwi'n golchi llesdri'n gynt wrth wrando ar 'War Pigs' y Sabbath - mae o'n rhoid cyfeiriad a phwrpas i fi

wedi deud hynny, ma' Ramble On yn rhoi gwefr, ag oedda nhw'n ffycars swnllyd, ond mi feiddiaf awgrymu bo nhw'n haeddu llai o glod. doedda nhw ddim yn sgwennu caneuon go-iawn
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan nicdafis » Gwe 06 Hyd 2006 11:20 am

Prin iawn oedd Percy wedi shagio mwya o ferched na Muddy Waters, a phwy sy'n dweud bod Brummies ddim yn cael canu'r blues? Doedd Plant ddim wastad yn gyfoethog; oedd e'n gosod tarmac cyn dyddiau Zeppelin ;-)

Dw i ddim yn dweud bod Zeppelin heb fai, jyst bod nhw'n feistri o'u crefft, os ti'n gwrando arnyn nhw gan dderbyn rheolau'r crefft yna. "Gormod o goc yn eu roc"? Led ffycin Zeppelin o'n nhw, nid Prefab Sprout. ;-)

Dw i'n cytuno â ti 100% am Sabbath, dylen nhw gael mwy o glod, am y dylanwad eang maen nhw wedi cael dros y blynyddoedd, ond yn fwy pwysig na Zeppelin? Prin iawn. Sabbath oedd y band cyntaf i mi weld, yn fachgen 14 oed, ac mae lle meddal yn fy nghalon amdanyn nhw o hyd. Mae eu pedwar (pump? chwech?) albym cyntaf nhw yn llawn haeddu lle ymysg goreuon y genre, ond o'n nhw'n fand hollol wahanol i Zeppelin - pwy all gymryd Ozzy o ddifri fel <i>soulman</i>? Clown oedd hwnna hyd yn oed yn y dyddiau pan doedd e ddim yn glown proffesiynol. Dim byd yn bod â hynny, ond os angen <i>suspend disbelief</i> i wrando ar Percy canu am ei lemwns, mae angen mwy byth i glywed Ozzy ddweud ei fod e'n mynd trwy "Changes" a pheidio chwerthin.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Geraint » Gwe 27 Hyd 2006 12:57 pm

Ysbrydoliaeth Spinal Tap i Stonehenge oedd Black Sabbath........roedd Stonehenge Sabbath yn anferth ac yn methu ffitio mlaen i lawer o lwyfannau America! Ond dwi hefyn yn caru Sabbath, felly allai ddim neud Led Zep v Sabbath.

Roedd sioeau Led Zep yn syml - dim support, chwarae am tua tair awr. Dim props ar y llwyfan, heblaw am goleuadau. Roedd y sioe am y perfformiadau. Ond dyw dryms solos ugain munud a dyn yn chwarae gitar efo bwa feiolin ddim at ddant pawb, chware teg.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Geraint » Maw 25 Medi 2007 4:47 pm

Pwy arall oedd wedi cofrestru am docyn i weld y band roc rgorau erioed yn ail ffurfio? Dyma y diweddaraf o'r we-fan:

Thankyou for visiting our website, the registration ballot has now closed & successful applicants will be notified by email prior to the 1st October.


dim byd eto :(
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Eric Young » Iau 27 Medi 2007 4:17 pm

Y Crochenydd a ddywedodd:Oes rhywyn arall wedi sylwi ar y cysylltiad rhwng caneuon Led Zep a trachinebau mawr, e.e. 'When the Levi Breaks' - llifogydd New Orleans, 'Kashmir' - daeargryn yn India/Pakistan? Baswn i ddim eisiau gwario gormod o amser yn Bron Yr Aur ('Bron y Aur Stomp'), gan fod y pethe ma wasatad yn dod mewn triawdau (medden nhw)...


Neu eich bod yn cael eich syffocatio gan ddynes efo bronnau mawr aur
Eric Young
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 73
Ymunwyd: Sad 31 Ion 2004 9:37 pm

Postiogan Dilwyn Roberts-Young » Sad 29 Medi 2007 10:01 pm

Oes 'na rhywun yma glywodd/welodd Led Zep yn fyw? Dydw innau ddim cweit yn ddigon hen OND mi fum i a'r wraig yn Buxton ar Ebrill 17, 1994 a chlywed/gweld Page a Plant gyda'i gilydd ... am un o'r gloch y bore cyn teithio yn ol i Aber a gwaith yn galw ychydig oriau'n ddiweddarach! Ah! Y blynyddoedd roc a rol!
Out with the truckers and the kickers and the cowboy angels,
And a good saloon in every single town.
Rhithffurf defnyddiwr
Dilwyn Roberts-Young
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 401
Ymunwyd: Mer 04 Chw 2004 3:53 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Geraint » Llun 19 Tach 2007 10:24 pm

Unrhyw un yn nabod rhywun sy'n mynd i'r gig? Y bastads lwcus.

Dilwyn Roberts-Young a ddywedodd:Oes 'na rhywun yma glywodd/welodd Led Zep yn fyw? Dydw innau ddim cweit yn ddigon hen OND mi fum i a'r wraig yn Buxton ar Ebrill 17, 1994 a chlywed/gweld Page a Plant gyda'i gilydd ... am un o'r gloch y bore cyn teithio yn ol i Aber a gwaith yn galw ychydig oriau'n ddiweddarach! Ah! Y blynyddoedd roc a rol!


Na heb weld unrhywbeth led zep related yn fyw...........sy'n arwain yn neis at sdori ynglyn a un o fy 'regrets' mwya.

Pan o ni'n byw yn Aber tua 2000, roedd Robert Plant yn chware yn y ganolfan celfyddydau. Mi oeddwn am fynd.........ond roedd ffrind yn dod lawr i'm weld.....ac yn lle mynd i weld Percy, Robert Plant, Y Golden God, fe feddwon yn dwll, a dwiedd lan yn ........................................

pier pressure :wps:


Eniwe, mae albym newydd Plant ac Alison Krauss yn cael ei ganmol gan pawb, dwi am ei brynu asap. Rhywun di gael o?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Geraint » Mer 21 Tach 2007 1:16 pm

Rhywun wedi prynu Mothership?

Mae o bron union run peth a Remasters, ond ma rhaid wedi ei 'remastro' eto ac ma rhai yn dweud fod ansawdd y sain yn anhygoel.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Cymro13 » Mer 21 Tach 2007 1:20 pm

How the West was Won - CLASUR !!!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Geraint » Mer 21 Tach 2007 1:44 pm

Cymro13 a ddywedodd:How the West was Won - CLASUR !!!!!!!


Dwi heb glywed hwnna. Son am albyms byw, mae fersiwn newydd o The Song Remains The Same allan, perfformaidau byw wedi remastro, un arall ar gyfer nadolig.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron