Led Zep……..y tro gynta i mi glywed can Led Zep oedd yng nghwersi gitar pan o ni tua bymtheg, lle ddysgais ni y clasur, Stairway to Heaven. Cwpl o flynyddoedd nes mlaen, prynes i Led Zep 4, a gwirioni yn llwyr arno. Ers hynny dwi di clywed bron popeth, mae Led Zep II yn sefyll allan am raunchy roc a roll, (y darn ar ol y solo ar Hearbraker un o’r darnau gorau o rock erioed) a mae Physical Graffiti a Houses of the Holy yn llawn clasuron (Rain Song, No Quarter, In my Time of Dying, In the Light, The Ocean ayb)) , a rhai caneuon gwael (D’yer Maker!). Mae I a III hefyd yn llawn o wychder.
Beth dwi methu credu yw, tan y gwers gitar yna, o ni’n gwybod dim am Led Zep, ac doeddw ni ddim yn gyfarwydd efo unrhyw o’i ganueon, er y ffaith yr oeddent yn fand o Brydain ac yn ei amser un o’r mwyaf yn y byd! Ym Mhrydain, dwi’n meddwl ar ol pync, pam ar y pryd yr oeddent y cynrhychioli yr hen genhedlaeth , cafodd y band ei anwybyddu ac anghofio gan y cyfryngau, tra yn yr UDA, parahaodd pobl i’w addoli ac mae eu caneuon ar y radio o hyd tan heddiw. Diwedd y dydd, band roc uffernol o dda efo pedwar cerddor anhygoel o dalentog (ac wedi delio efo’r diafol?
).
Dwi newydd brynu y DVD gwyyych efo 5 awr o berfformiadau byw, a dwi newydd ddarllen Hammer of the Gods, sydd yn llawn storiau o helyntion y band ar daith, ac am y cyflymder anhygoel aeth y band i fod yn ANFERTH!,
Fy top 5 can Led Zep ar hyn o bryd:
1. In My Time of Dying. Slide Guitar tour de force Jimmy Page
2. Black Country Woman – Acoustic Blues, sydd yn cicio off pan mae Bonzo yn dechrau hitio’r kick drum na. Wedi recordio mewn gardd.
3. Dazed and Confused – fersiwn 30 munud sydd ar y DVD
4. Black Dog – y riff gorau erioed
5. Rain Song - mellotrontastic.