Led Zeppelin

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Led Zeppelin

Postiogan Geraint » Maw 03 Hyd 2006 12:21 pm

Hen bryd cael edefyn yn son am un o'r bandiau mwya ac (yn fy marn i) gorau erioed.

Yda chi'n caru nhw, neu eu casau?

A'r cwestiwn mawr, pa un yw eich hoff albym?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Geraint » Maw 03 Hyd 2006 4:22 pm

My, my, my, my
My, my, my, my (Ahh)
Oh, shake for me, girl
I wanna be your backdoor man-a
Hey, oh, hey, oh (Ahh)
Hey, oh, oooh
Oh, oh, oh, oh
Hoo-ma, ma, hey
Keep a-coolin', baby
A-keep a-coolin', baby
A-keep a-coolin', baby
Uh, keep a-coolin', baby, wuh, way-hoh, oo-ohh
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Maw 03 Hyd 2006 5:05 pm

Sai'n caru nhw na eu gasau nhw chwaeth. Fi'n sort of yn y canol - fi'n astyried pwy mor hanfodol o nhw yn ddatblygu cerddoriaeth roc, a dwi'n parchu nhw, ond fyddau dim yn ddisgrifio fy hunan fel 'ffan'.

Peth od yw odd gen i Led Zepplin II ar yn y car dod nol o gwaith gynne. Dyna fy hoff albwm i ganddo nhw. 'Ramble On' yn clasur o tiwn a 'Beth Yw, a Beth Ddyle Byth Fod' yn wych 'fyd. 8)
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Geraint » Maw 03 Hyd 2006 10:34 pm

Led Zep……..y tro gynta i mi glywed can Led Zep oedd yng nghwersi gitar pan o ni tua bymtheg, lle ddysgais ni y clasur, Stairway to Heaven. Cwpl o flynyddoedd nes mlaen, prynes i Led Zep 4, a gwirioni yn llwyr arno. Ers hynny dwi di clywed bron popeth, mae Led Zep II yn sefyll allan am raunchy roc a roll, (y darn ar ol y solo ar Hearbraker un o’r darnau gorau o rock erioed) a mae Physical Graffiti a Houses of the Holy yn llawn clasuron (Rain Song, No Quarter, In my Time of Dying, In the Light, The Ocean ayb)) , a rhai caneuon gwael (D’yer Maker!). Mae I a III hefyd yn llawn o wychder.

Beth dwi methu credu yw, tan y gwers gitar yna, o ni’n gwybod dim am Led Zep, ac doeddw ni ddim yn gyfarwydd efo unrhyw o’i ganueon, er y ffaith yr oeddent yn fand o Brydain ac yn ei amser un o’r mwyaf yn y byd! Ym Mhrydain, dwi’n meddwl ar ol pync, pam ar y pryd yr oeddent y cynrhychioli yr hen genhedlaeth , cafodd y band ei anwybyddu ac anghofio gan y cyfryngau, tra yn yr UDA, parahaodd pobl i’w addoli ac mae eu caneuon ar y radio o hyd tan heddiw. Diwedd y dydd, band roc uffernol o dda efo pedwar cerddor anhygoel o dalentog (ac wedi delio efo’r diafol? :crechwen: ).

Dwi newydd brynu y DVD gwyyych efo 5 awr o berfformiadau byw, a dwi newydd ddarllen Hammer of the Gods, sydd yn llawn storiau o helyntion y band ar daith, ac am y cyflymder anhygoel aeth y band i fod yn ANFERTH!,

Fy top 5 can Led Zep ar hyn o bryd:

1. In My Time of Dying. Slide Guitar tour de force Jimmy Page
2. Black Country Woman – Acoustic Blues, sydd yn cicio off pan mae Bonzo yn dechrau hitio’r kick drum na. Wedi recordio mewn gardd.
3. Dazed and Confused – fersiwn 30 munud sydd ar y DVD
4. Black Dog – y riff gorau erioed
5. Rain Song - mellotrontastic.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Geraint » Iau 05 Hyd 2006 11:55 am

Hmmm dim lot o ymateb! Sdim lot o drafodaeth wedi bod yn y seiat ma yn ddiweddar. Beth am sgwennu rhwbeth, unrhywbeth, am gerddoriaeth? Ac ymatebion hirach, ac ambell i draethawd? :winc:

Dewch mlaen, rhaid fod rhywun yn casau Stairway?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Reufeistr » Iau 05 Hyd 2006 12:30 pm

Iawn cont. Led Zep 3 di gora. Enwedig 'That's The Way', 'Gallow's Pole', 'Bron-yr-Aur Stomp'. Led Zep 3 yn un da er mwyn gwerthfawrogi be fedrith Page neud ar acwstig gitar fyd - dim jysd SG rock licks.

Cyfyr gora o 'Stairway to Heaven' ydi un gan Richard Cheese and Lounge Against the Machine. Boi'n repliceiddio solo Page ar piano. Smmmmaaarrrt.

Hena'n ddigon i chdi met?
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Postiogan Darth Sgonsan » Iau 05 Hyd 2006 2:38 pm

Geraint a ddywedodd:Dwi newydd brynu y DVD gwyyych efo 5 awr o berfformiadau byw, a dwi newydd ddarllen Hammer of the Gods, sydd yn llawn storiau o helyntion y band ar daith, ac am y cyflymder anhygoel aeth y band i fod yn ANFERTH!,


heri myff, ond ffretwancio ydi lot o'r sdwff, y math o beth sy'n apelio at fechgyn pymtheg oed sy'n ymarfer eu graddau tra'n trio swnio fatha Ingwi Malmansdiin (!)

gormod o goc yn y roc hefyd - Bobi Blanhigyn yn ielpian ei wewyr, rhy ddiog i sgwennu geiria. ag am gachu hipiaidd airi-ffeiri haniaethol ydi'r geiriau hefyd - unrhyw fand sy'n cael eu hysbrydoli gan Middle Earth Tolkien yn haeddu bonclusd. dim gwahaniaeth rhwng lyrics Led Zep a slags prog-roc fatha Yes. ma'r Tap wedi sylweddoli hyn drwy gynnwys cerrig Stone Henge yn eu set

ar y llaw arall, Jimi Tudalen yn rifftastig, ond well gen i less-is-more Keith Richards. ma gormod o bombast i'r Zep,

a hefyd ma gormod o'r caneuon yn swnio fatha jams nid caneuon gorffenedig.
dydi 'Paranoid' Black Sabbath ddim yn malu cachu, ma'n cicio chdi'n dy geillia cyn diflannu nol i'r gwyll.
efo Led Zep ma'na ormod o sgrechian er mwyn sgrechian, solo chwe chant nodyn sy'n cyfleu dim byd ond y ffaith fod Jimi Tudalen yn foi byr oedd angan gneud lot o swn er mwyn cael sylw

wrs gwrs mae eu dylanwad yn enfawr, ond fedar rywun ddeud am be ma 'Stairway tu Heaven' yn son?
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan Y Crochenydd » Iau 05 Hyd 2006 3:16 pm

Oes rhywyn arall wedi sylwi ar y cysylltiad rhwng caneuon Led Zep a trachinebau mawr, e.e. 'When the Levi Breaks' - llifogydd New Orleans, 'Kashmir' - daeargryn yn India/Pakistan? Baswn i ddim eisiau gwario gormod o amser yn Bron Yr Aur ('Bron y Aur Stomp'), gan fod y pethe ma wasatad yn dod mewn triawdau (medden nhw)...
Y Crochenydd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 6:44 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Ramirez » Iau 05 Hyd 2006 9:56 pm

Y Crochenydd a ddywedodd:Baswn i ddim eisiau gwario gormod o amser yn Bron Yr Aur ('Bron y Aur Stomp'), gan fod y pethe ma wasatad yn dod mewn triawdau (medden nhw)...


Ffocin reit, 7 mis gymron nhw i fficsho fy amp i. Marshall oedd o. Mi oedd Page yn iwsho Marshalls. Waaa :ofn: :rolio:

Sgonsan, rhaid chwyrn anghytuno mai ffretwancio odd lot ohonofo. Tydi steil Page o chwara ddim byd tebyg i Yngwie Marmite, a ma rhaid deud mai'r elfen jamio fawr odd yn amlwg yn eu setiau live ydi un o fy betha am Zep.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan nicdafis » Gwe 06 Hyd 2006 10:04 am

Geraint a ddywedodd:... y cyflymder anhygoel aeth y band i fod yn ANFERTH!

Ond edrych ar ba mor galed o'n nhw'n gweithio; y pedwar albym cyntaf mewn <b>tair</b> blwyddyn, ac yn teithio yn gyson trwy'r adeg hynny.

Mae lot o wirionedd yn sylwadau Sgonsan, ond mae'n colli'r pwynt braidd i gyhuddo band <i>blues</i> o beidio canu geiriau call, ond dyw e? Ydy pobl yn dweud hynny am Muddy Waters? Cymryd dy bwynt am Stairway/Evermore a'u math, ond siwrli dyn ni'n ddigon pell o 1970 i fwynhau pethau fel hyn heb boeni am eu harwyddocâd? Ie, nonsens hipiaidd ydyn nhw, ond nonsens hipiaidd o'r radd flaenaf.

Gwrando ar Led Zep III yn y car ddoe, ac mae ochr un jyst heb ei hail. Immigrant Song wastad yn rhoi gwên ar fy wyneb, o gofio ei chanu gyda'n ffrindiau yn y twnel camlas yn Y Waun fel plant, fel Plant. Mae'r ffaith ei bod wedi troi yn gartwn i gathod bach ond wedi'i chryfhau.

Friends yn profi nid band un dimensiwn oedd Zeppelin - dw i'n caru Sabbath cymaint â'r dyn nesa, ond oes 'na gân acwstig ganddo nhw sy ddim yn cringeworthy (os oes geiriau) neu'n nwdlo?

Ond y perl yw Since I've Been Loving You - fy hoff gân Zeppelin erbyn hyn. Y Kidderminster blues, man. Saith munud a 23 eiliad o berffaithrwydd. Ie, mae'r geiriau yn nonsens, ond os taw dyna beth ti'n clywed ti ddim yn gwrando yn ddigon uchel. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron