Drum a bass

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 08 Tach 2006 6:40 pm

Brynes i Pendulum yn ddiweddar a rhaid i mi gyfadde fod gen i deimladau cymysg amdano, mae na ambell i drac sydd yn sefyll allan i fi, a'r rheina ydi'r caleta ohonyn nhw. Slam a Tarantula ond yn arbennig Through The Loop (ai Gene Wilder sydd ar y sampl - os felly hydnoed gwell!!!) - mae hon yn stompar digyfaddawd o drac ag allai wrando arni hi drosodd a throsodd.

Ond...mae na dipyn o gaws yno hefyd yn does? A ma rhai petha yn swnio'n ofnadwy, yn arbennig tuag at ddiwedd y CD. Mae'r 4 can ola bach fel filler, a mae gitar solo Peredur ap Gwynedd (ia! checkiwch y sleeve!) ar Girl In The Fire yn pap llwyr. Dim byd yn erbyn y solo ei hun, neis iawn yn ei le, ond mae o chydig bach fel drwm a bas i gyfeilio hysbyseb yn hytrach na cerddoriaeth dawnsio mewn stafall dywyll chwyslyd - dyna di drym a bas i fi.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Geraint » Sul 28 Ion 2007 6:44 pm

Mae podcast Hospital Records, cartref High Contrast a London Elektricity, wastad yn wych.

Sdwff newydd High Contrast allan yn fuan, edrych mlaen.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan tafod_bach » Llun 29 Ion 2007 1:32 pm

nw-hwdlsz

Un o hoff fomentau Glastonbury 2003 oedd ei glywed yn sgrechian gwaeddi ar y dorf yn y Glade eu bod yn 'motherfuckin cunts' a'u bod ddim yn dawnsio digon calad. Wnaeth y bile ddim stopio drwy ei set bron. Oedd y miwsig yn anhygoel.


o'n i yn sownd yn gwylio radiohead ben arall y cae. rookie error mwyaf poenus fy glaslencyndod (weel, falle ddim cweit...)

welais i pendulum ac andy c yn dj pan on i yny coleg (a *peswch*grooverider*peswch* - yn bar y coleg. ddwedodd o mai'r gig waetha o'dd o 'rioed di chwarae oedd hi.allai ddim anghytuno...) o'n nhw'n ffantastig, ond oedd high contrast yn llawer mwy o hwyl i fod oigwmpas mewn rwm fach chwyslyd. atgofion melys ha dwytha rhannu can o stella efo fo ar lan y cam, yn siarad bwlplop tan amser brecwast. aaaa am fod yn stiwdant eto...
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan AFFync » Maw 30 Ion 2007 12:54 pm

Dwi'n ffan fawr o D&B

Am bach o 'progressive drum and bass' triwch Inperspective Records (samples ar dudalen 'Mixes')


http://www.inperspectiverecords.com
Rhithffurf defnyddiwr
AFFync
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 6:16 pm
Lleoliad: Baile Átha Cliath

Postiogan Paned neu Peint » Iau 08 Chw 2007 2:43 pm

Swn i'n meddwl bydde ffans drwm a bas yn mwynhai'r noson dubstep yng Nghaerdydd nos fory. Dwi di clywed lot am hwn yn ddiweddar ond dal heb glywed y gerddoriaeth mewn clwb. Mary Ann Hobbs yn DJo, Bass Clef yn chwarae.
Confused, would we?
Paned neu Peint
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 44
Ymunwyd: Mer 12 Tach 2003 1:06 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Y Crochenydd » Iau 08 Chw 2007 4:06 pm

Paned neu Peint a ddywedodd:Swn i'n meddwl bydde ffans drwm a bas yn mwynhai'r noson dubstep yng Nghaerdydd nos fory.


Ble?
Y Crochenydd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 6:44 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 08 Chw 2007 4:25 pm

Y Crochenydd a ddywedodd:
Paned neu Peint a ddywedodd:Swn i'n meddwl bydde ffans drwm a bas yn mwynhai'r noson dubstep yng Nghaerdydd nos fory.


Ble?


Yn y Point...

Fyddai'n methu fe yn anffodus.

Virus Syndicate, Bass Clef, Mary Ann Hobbs a C++ yna.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Positif80 » Iau 08 Chw 2007 4:46 pm

Mae gen i ddau albwm Apollio 440 - ydi rheini'n cyfri?
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 08 Chw 2007 4:47 pm

Positif80 a ddywedodd:Mae gen i ddau albwm Apollio 440 - ydi rheini'n cyfri?


Apollo 440 ? Na!
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Positif80 » Iau 08 Chw 2007 5:02 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:
Positif80 a ddywedodd:Mae gen i ddau albwm Apollio 440 - ydi rheini'n cyfri?


Apollo 440 ? Na!


Felly o'n i'n meddwl - jest angen gwneud yn siwr. Roedd yr un hefo'r riff Van Halen yn class, ddo.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron