Tudalen 1 o 4

Drum a bass

PostioPostiwyd: Iau 05 Hyd 2006 8:29 pm
gan Daffyd
Newydd ddechra dod fewn i fwynhau drum a bass yn ddiweddar. Dwi di mwyhau stwff Pendulum a Glytch and Terrabyte.

Os na rwin arall yna yn hoff o ddrwm a bas? Ac hefyd, allith rhywyn gyfeirio fi at yr artistiaid gora?

PostioPostiwyd: Iau 05 Hyd 2006 11:13 pm
gan Y Crochenydd
Drum'n'Bass yn wych. Dwi'n eitha (ahem) hen ysgol ac yn caru cerddoriaeth y 90au hwyr megis LTJ Bukem, Ronni Size, Jumpin Jack Frost, Alex Reece, 4Hero, DJ SS, Aphroddite ac Andy C. Mae Pendulum yn wych gyda llaw, a'r cymro High Contrast yn hynod arddderchog hefyd. Oh my gosh! Co ni'n mynd... :D

PostioPostiwyd: Gwe 06 Hyd 2006 9:55 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
LTJ Bukem yn dda iawn os ti moyn rhywbeth ychydig yn fwy chilled. Mae cryn ddylanwad jazz ar ei waith e.

PostioPostiwyd: Gwe 06 Hyd 2006 11:33 am
gan Rhodri Nwdls
Glywis i ryw tiwn ar raglen Annie Mac noson o'r blaen oddi ar Full Cycle dwi'n meddwl. Stompar o baseline dwbl bas arni. Hang on *chwilio....*

...dim hon oedd hi ond ma hon yn dda fyd! RĂȘl tiwn DaB ha - allan yn dawnsio yn yr haul efo potal o Corona yn un llaw a rwbath drewllyd yn llall.

Agent Alvin - Pick Me Up
Agent Alvin - Circuit Breaker

Dwi dal wrth y modd efo sdwff hen ysgol. Jwngal go iawn.

Oedd gennai dap Mixmag JJ Frost oed yn amazing. Dwi di golli fo. Ww, dwisio mynd allan a dawnsio!! Ma Drym a Bas un o'r mathau gorau o gerddoriaeth i ddawnsio iddo fo. Ti'n gallu mynd yn slo, neu'n siwpyr ffast!

PostioPostiwyd: Gwe 06 Hyd 2006 12:58 pm
gan Geraint
O ni'n gwrando ar lot o d&b ar ddiwedd y 90au fel Photek, sdwff label Moving Shadow a label Bukem, Good Looking Records. Mae y label yn aml yn rhoi syniad o'r fath o d&b fydd y gan. Ail albym dwetha High Contrast yn hollol wych. Llwyth o bethau i wrando ar drum'n'bass arena ac dnbnation. Artisitiad: da John B, DJ Marky o Brazil, DJ Zinc.

PostioPostiwyd: Gwe 06 Hyd 2006 1:53 pm
gan Daffyd
Diolch am yr awgrymiadau. Nai jecio nhw allan wedyn.

Oes yna rywyn yma di gweld Glitch and Terrabyte yn Clwb Ifor? O Dde Cymru ma' boi ac man stydio yr un cwrs a fi ond yn yr ail flwyddyn.

Mae o wedi gneud re-mix o Toxic gan Britney Spears a Slam gan Pendulum. Hollol wych o re mix.

Ma gyna fo gan True Romance x3 ar ei MySpace sy'n eitha gwych hefyd.

http://www.myspace.com/glitchandterrabyte

Dwi'n mynd i weld Pendulum yn Cardiff Uni ar yr 20fed. Can't wait.

Reit, dwi off i wrando ar eich awgrymiadau.

PostioPostiwyd: Gwe 06 Hyd 2006 2:24 pm
gan benni hyll
Daffyd a ddywedodd:Diolch am yr awgrymiadau. Nai jecio nhw allan wedyn.

Oes yna rywyn yma di gweld Glitch and Terrabyte yn Clwb Ifor? O Dde Cymru ma' boi ac man stydio yr un cwrs a fi ond yn yr ail flwyddyn.

Mae o wedi gneud re-mix o Toxic gan Britney Spears a Slam gan Pendulum. Hollol wych o re mix.

Ma gyna fo gan True Romance x3 ar ei MySpace sy'n eitha gwych hefyd.

http://www.myspace.com/glitchandterrabyte

Dwi'n mynd i weld Pendulum yn Cardiff Uni ar yr 20fed. Can't wait.

Reit, dwi off i wrando ar eich awgrymiadau.


Ti. Di. Newid :lol:

PostioPostiwyd: Gwe 06 Hyd 2006 2:29 pm
gan Daffyd
Na dwi heb newid, jest dwi di lledu fy ngorwel cerddorol.

A dwi hefyd yn ymarfer fy nywediadau cheesy Chiz-aidd.

PostioPostiwyd: Sul 08 Hyd 2006 6:27 pm
gan blod1 bach
pendulum kick asssss!!!!!

PostioPostiwyd: Mer 11 Hyd 2006 3:27 pm
gan Garej Ifor
wahooo mae'n finally 'socialy acceptable' i ddeud fod chi'n hoffi drum n bass heb y response o - "townie!" neu "chav!"