Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Mer 11 Hyd 2006 3:31 pm
gan Al
Oedd arfer bod rave's yn top chwarel Dinorwig, yn y 90au, yn ol y son...

PostioPostiwyd: Iau 12 Hyd 2006 11:19 am
gan Rhodri Nwdls
Garej Ifor a ddywedodd:wahooo mae'n finally 'socialy acceptable' i ddeud fod chi'n hoffi drum n bass heb y response o - "townie!" neu "chav!"

:?:
Ers pryd ma drym a bas wedi bod yn hyn? Gabba a happy hardcore oedd bois dre yn gwrando ar. A sdim byd yn rong efo bach o gabba (na phripsyn o hardcore) cyn i chi ofyn, ma angen bach o nosebleed techno ar 200bpm bob yn hyn a hyn. Clirio'r llwch lli o'r clustia.

O'n i'n cael yr argraff fod gwradnawyr drum and bass yn meddwl am eu hunain fel y 'discerning dance music listener'. Efo enwa fel "intelligent drum and bass" ar gyfer Bukem yn cael eu taflu o gwmpas a lot o'r DJs yn gwisgo sbecs...

Mae nw rywfaint o snobyddrwydd am DaB.

PostioPostiwyd: Iau 12 Hyd 2006 11:27 am
gan Rhodri Nwdls
Chi'n gwbod am y sampl mwyaf poblogaidd yn drym a bas? Yr Amen Break. Amazing o drum beat.

PostioPostiwyd: Maw 17 Hyd 2006 12:42 pm
gan Meiji Tomimoto
Al a ddywedodd:Oedd arfer bod rave's yn top chwarel Dinorwig, yn y 90au, yn ol y son...


Oedd. Newydd hitio fi fel bricsan fod y dyddiau hynnu mor hir yn ol.
Shit, dwi'n hen.

PostioPostiwyd: Maw 17 Hyd 2006 1:13 pm
gan ffwrchamotobeics
Albym newydd Squarepusher-Hello everything newydd ddod allan ddoe. Drum&bass a llawer o steils eraill (a la Squarepusher), ac mae i fod yn ffantastig. Ma'r boi yn virtuoso ar y gitar fas hefyd!

PostioPostiwyd: Maw 17 Hyd 2006 2:49 pm
gan Rhodri Nwdls
ffwrchamotobeics a ddywedodd:Albym newydd Squarepusher-Hello everything newydd ddod allan ddoe. Drum&bass a llawer o steils eraill (a la Squarepusher), ac mae i fod yn ffantastig. Ma'r boi yn virtuoso ar y gitar fas hefyd!

*dribl* mmm

Un o hoff fomentau Glastonbury 2003 oedd ei glywed yn sgrechian gwaeddi ar y dorf yn y Glade eu bod yn 'motherfuckin cunts' a'u bod ddim yn dawnsio digon calad. Wnaeth y bile ddim stopio drwy ei set bron. Oedd y miwsig yn anghygoel.

A ma'n virtuoso ar y bass.

PostioPostiwyd: Maw 17 Hyd 2006 9:10 pm
gan Y Crochenydd
ffwrchamotobeics a ddywedodd:Albym newydd Squarepusher-Hello everything newydd ddod allan ddoe. Drum&bass a llawer o steils eraill (a la Squarepusher), ac mae i fod yn ffantastig. Ma'r boi yn virtuoso ar y gitar fas hefyd!


'Di bod yn gwrando ar hwn p'nawn ma. Hilarious, scary, mental a gwych. Mae'r boi yn class. Gydag o leiaf un trac yn rocio'r Amen i ti Nwdls!

PostioPostiwyd: Maw 17 Hyd 2006 9:24 pm
gan Mihangel Macintosh
Peidiwch a anghofio am y drwm a bas Cymraeg nôl yn y dydd -

Hen Wlad fy Mamau - Tra Di Da 12"
Pregethwr 3 gyda Owain Meredith 10"
Reuvival - Prydain 12"

A'r trac cynharaf o 1993 - R/Catrin CIA - "Ysbryd Newydd" ar R-Bennig

heb anghofio am stwff gwefreiddiol Cint.

PostioPostiwyd: Mer 08 Tach 2006 5:57 pm
gan Eira wen
newydd ddechra mynd mewn i drum a bass dwi hefyd. Rhyw noson DJ's yn student union bangor cwpwl o fisodd nol. Ma pendulum yn brill baswn i wrth fy modd yn ei gweld nhwn fyw!

PostioPostiwyd: Mer 08 Tach 2006 6:40 pm
gan Rhodri Nwdls
Brynes i Pendulum yn ddiweddar a rhaid i mi gyfadde fod gen i deimladau cymysg amdano, mae na ambell i drac sydd yn sefyll allan i fi, a'r rheina ydi'r caleta ohonyn nhw. Slam a Tarantula ond yn arbennig Through The Loop (ai Gene Wilder sydd ar y sampl - os felly hydnoed gwell!!!) - mae hon yn stompar digyfaddawd o drac ag allai wrando arni hi drosodd a throsodd.

Ond...mae na dipyn o gaws yno hefyd yn does? A ma rhai petha yn swnio'n ofnadwy, yn arbennig tuag at ddiwedd y CD. Mae'r 4 can ola bach fel filler, a mae gitar solo Peredur ap Gwynedd (ia! checkiwch y sleeve!) ar Girl In The Fire yn pap llwyr. Dim byd yn erbyn y solo ei hun, neis iawn yn ei le, ond mae o chydig bach fel drwm a bas i gyfeilio hysbyseb yn hytrach na cerddoriaeth dawnsio mewn stafall dywyll chwyslyd - dyna di drym a bas i fi.