Postiwyd: Mer 08 Tach 2006 6:40 pm
Brynes i Pendulum yn ddiweddar a rhaid i mi gyfadde fod gen i deimladau cymysg amdano, mae na ambell i drac sydd yn sefyll allan i fi, a'r rheina ydi'r caleta ohonyn nhw. Slam a Tarantula ond yn arbennig Through The Loop (ai Gene Wilder sydd ar y sampl - os felly hydnoed gwell!!!) - mae hon yn stompar digyfaddawd o drac ag allai wrando arni hi drosodd a throsodd.
Ond...mae na dipyn o gaws yno hefyd yn does? A ma rhai petha yn swnio'n ofnadwy, yn arbennig tuag at ddiwedd y CD. Mae'r 4 can ola bach fel filler, a mae gitar solo Peredur ap Gwynedd (ia! checkiwch y sleeve!) ar Girl In The Fire yn pap llwyr. Dim byd yn erbyn y solo ei hun, neis iawn yn ei le, ond mae o chydig bach fel drwm a bas i gyfeilio hysbyseb yn hytrach na cerddoriaeth dawnsio mewn stafall dywyll chwyslyd - dyna di drym a bas i fi.