Amy Winehouse - Back to Black

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Jaff-Bach » Mer 01 Awst 2007 8:42 am

Llefenni a ddywedodd:P'run d'r sengl newydd tybed?


'tears dry on their own' dir sengl newydd, dwin meddwl na hon di'n hoff sengl i i ddod oddi ar yr albym, www fydd raid fi phyrnu hi i gal clwad y gweddill!

Ma mark ronson yn gynhyrchydd gwych- sgenti i albym o? feri ffynci
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Postiogan Manon » Mer 01 Awst 2007 10:04 am

Ma'r albym yma'n ace, yn enwedig 'Me and Mr Jones', 'Wake Up Alone', ac 'Unholy War'. O'n i methu cael i mewn i Frank, ei halbym gynta, ond 'dwi rili licio hwn.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Llewelyn Richards » Mer 01 Awst 2007 10:42 am

Eiliaf, neu trydyddaf os yw hynna'n derm. Albym da chi'n gallu gwrando arni drosodd a throsodd. Mae na fwy na jyst meddwdod i'r hogan yma.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan S4C N OAP » Mer 29 Awst 2007 9:39 pm

Mae hi'n anhygoel! Wnes i weld hi yn fyw mis diwethaf ac roedd hi'n arbennig. Roedd 'na elfen o 'vulnerability' yn y ffordd roedd hi'n dal ei hun wnaeth gynhesu'r gynulleidfa ati. Mae unrhyw un wnaeth weld hi ar Never Mind The Buzzcocks (mae o ar YouTube rhywle) yn gwybod ei bod yn ddoniol hefyd. Fy hoff gan o'r albwm ydi 'Tears Dry On Their Own' yn enwedig y lyric yma:

"I have played myself again, should just be my own best friend, not fuck myself in the head with stupid men"

Fyswn i'n argymell yr albym i bawb. Dwi yn gobeithio wneith hi wella o beth bynnag mae hi'n dioddef ar y funud.
S4C N OAP
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Mer 29 Awst 2007 7:35 pm

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 29 Awst 2007 10:40 pm

Eiliaf. Onni di clywed amdani drwy'r holl straeon amdani yn y papur ac felly meddyliais mai ryw Pete Doherty arall yw hi. Ond mae'r gan diweddaraf 'Tears dry on their own' yn wych. Dwi jest yn poeni os bydd hi'n troi mewn i joc fel Pete Doherty neu waeth fyth yn marw yn rhy ifanc.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron