Tudalen 1 o 2

Amy Winehouse - Back to Black

PostioPostiwyd: Gwe 03 Tach 2006 11:56 am
gan Glewlwyd Gafaelfawr
Prynais yr albwm hon ar ôl clywed y gân 'Rehab'. Mae'r albwm yn wych, yn enwedig os ydych chi'n hoffi cerddoriaeth Soul o'r 60au, gyda elfen fach o Ska.

'Don't make no difference if I end up alone, I'd rather have myself and smoke my home grown.' 8)

PostioPostiwyd: Iau 09 Tach 2006 8:31 pm
gan Skanken
cwl. oni wedi bod yn trio penderfynu prynu hi neu beidio!
:)

PostioPostiwyd: Llun 13 Tach 2006 8:21 pm
gan dyfan
eiliaf.

cwpwl o tiwns reli dda ar hwn. engraifft dda o less is more - ma'r albwm ond yn para 35 munud.

PostioPostiwyd: Llun 13 Tach 2006 8:36 pm
gan Y Parchedig Dyn Tywyll
wel dwi hefyd di bod yn pendroni am hwn - a dwi' angen choons newydd!

PostioPostiwyd: Maw 14 Tach 2006 11:30 pm
gan Y Crochenydd
Gwych. 8)

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 9:07 am
gan Glewlwyd Gafaelfawr
Bydd Amy Winehouse yn perfformio ym Mhrifysgol Caerdydd nos Lun 19 Chwefror 2007.

http://www.seetickets.com/see/index.html#amy

PostioPostiwyd: Llun 25 Rhag 2006 7:06 pm
gan Jemeima Mop
Amy, Amy, Amy. . .dw i wrth fy modd efo hi. Llais, lyrics, tiwns! Albym arbennig sy'n dal i dyfu arna'i!

Love is a Losing Game di'r ffefrun ar hyn o bryd. Lecio'r "memories mar my mind". Gwych!

PostioPostiwyd: Maw 26 Rhag 2006 1:07 pm
gan Llefenni
Di cel hon i'r 'dolig - gwrando arni ar stereo fawr y parlwr mwy wrth i fi ysgrifennu hwn... mae on dda iawn.

Dwi'n cyfadde mae mwy o hogan rock/high end pop dwi, ond mae yr albym 'ma di mynd i dop y peil "high roatation paratoi i fynd allan" - mae'r agwedd ffwcio chi gyd yn taro deuddeg bob tro :D

Dosbarth.

PostioPostiwyd: Maw 31 Gor 2007 7:25 pm
gan Jaff-Bach
y gan newydd yn cicio ass - vibe mowtowny, henfashiwni (licior ansoddeiria ma? 8) ) braf iddi

dio ar yr albym? dal heb ddod rownd i'w phrynu!

PostioPostiwyd: Maw 31 Gor 2007 9:01 pm
gan Llefenni
P'run d'r sengl newydd tybed?

Mae vibe yr albwm gyfan yn dod o obsesiwn Mowtownaidd Mark Ronson yn cyhyrchu... a da o beth!