Rhaid i fi ddachre edefyn am yr albym hwn. Prynes i fe dydd Llun, a wy di cael cyfle i wrando arno fe sawl gwaith. Rhaid i fi weud ma hwn yw'r peth gore ma'r Manics di neud ers Everything Must Go.
O be wy di glywed hyd yn hyn, ma pob can yn glasur. Ma'r tiwns yn mynd yn styc yn eich pen chi'n syth, rhwbeth sy ddim yn digwydd yn aml iawn. Ma'r gitars yn wych a lot o gytganau huge, fel ar EMG.
Ffefryne fi ar y funud yw Send Away The Tigers (fi'n credu bod e'n swnio bach fel Love is The Law gan y Charlatans, cariad fi'n gweud bod y riff yn debyg i Motorcycle Emptyness) a Underdogs. Wedyn wrth gwrs ma Your Love Alone is Not Enough. Lot o bobol ddim yn lico'r gan ma achos bod hi'n rhy 'poppy'. Rhag ofn bod y sengl yn rhoi chi off prynu'r albym, rhaid i fi weud bod y gan hon yn wahanol iawn i'r gweddill. Ok, dyw hi ddim yn ffitio'n iawn da gweddill yr album o ran arddull, ond ma hi wastad yn dod a gwen i ngwyneb i pan ma hi'n dod arno! Beth bynnag, sain cofio neb yn cwyno am bresenoldeb Little Baby Nothing ar Generation Terrorists.
Yn gryno, prynwch e!